Agenda item

Gwrandawiad gerbron Panel Dyfarnu Cymru

Derbyn diweddariad ar ganlyniad gwrandawiad diweddar Panel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â’r Cynghorydd A Shotton

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad gwrandawiad diweddar Panel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â'r Cynghorydd A Shotton.  

 

            Darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndirol a rhoddodd drosolwg o'r gwrandawiad ar 27, 28 a 29 Ionawr 2020, a gynhaliwyd yn Llys Ynadon Llandudno.  Esboniodd fod rhannau o'r gwrandawiad wedi'u cynnal yn breifat ac na ellid eu datgelu i'r Pwyllgor er mwyn cadw cyfrinachedd. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod Tribiwnlys yr Achos wedi canfod drwy benderfyniad unfrydol fod y Cynghorydd A Shotton wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Awdurdod a'i fod wedi torri Paragraffau 6(1)(a) a 7(a) o'r Cod drwy, yn rhinwedd ei swydd swyddogol gan ddefnyddio neu geisio defnyddio ei safle'n amhriodol i roi mantais iddo'i hun neu sicrhau iddo’i hun neu ei Gynorthwyydd Personol neu greu neu osgoi iddo'i hun neu ei Gynorthwyydd Personol anfantais drwy roi cyfle i weld cwestiynau cyn ei chyfweliad am swydd barhaol Cynorthwyydd Personol;  a bod y Cynghorydd Shotton wedi torri 6(1)(a) o'r Cod Ymddygiad drwy anfon a/neu annog ei Gynorthwyydd Personol i anfon negeseuon amhriodol, i gynnwys negeseuon o natur rywiol, yn ystod oriau swyddfa.  Penderfynodd Tribiwnlys yr Achos drwy benderfyniad unfrydol y dylid gwahardd y Cynghorydd A Shotton rhag gweithredu fel aelod o Gyngor Sir y Fflint am gyfnod o dri mis.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod gan y Cynghorydd Shotton yr hawl i geisio caniatâd yr Uchel Lys i apelio yn erbyn y penderfyniad uchod. Byddai'r adroddiad llawn am y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Panel Dyfarnu Cymru maes o law.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod Tribiwnlys yr Achos wedi canfod nad oedd y Cynghorydd Shotton wedi torri'r Cod Ymddygiad mewn perthynas â thrydydd honiad a

gyfeiriwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.   Fodd bynnag, esboniodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor, o ganlyniad i'r honiad, wedi gwella ei weithdrefnau a bod yn rhaid i reolwr gymeradwyo cais i archebu car llog yn y dyfodol.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod gweithlu'r Cyngor wedi cael gwybod bod y Cynghorydd A Shotton wedi'i wahardd dros dro fel aelod o'r Cyngor am gyfnod o dri mis o ganlyniad i benderfyniad Panel Dyfarnu Cymru.  Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y Cynghorydd Shotton i gael ei drin, dros dro, fel aelod o'r cyhoedd a dim ond i rannau cyhoeddus o safle'r Cyngor yr oedd ganddo hawl i gael mynediad iddynt.  Yn yr un modd, cyfyngwyd ei hawliau i wybodaeth yn ystod y cyfnod hwn ac nid oedd ganddo hawl i unrhyw bapurau na gwybodaeth yn ymwneud â busnes cyfrinachol y Cyngor.  Roedd hysbysiad bod y Cynghorydd A Shotton wedi'i wahardd tan 29 Ebrill 2020 hefyd wedi'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.   Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'r Cynghorydd Shotton yn gallu ailddechrau ei rôl a'i gyfrifoldebau fel Cynghorydd Sir pan fyddai cyfnod y gwaharddiad yn dod i ben. 

 

Ymatebodd y Swyddog Monitro i'r sylwadau a godwyd ynghylch canfyddiadau'r Tribiwnlys Achos.  Yn ystod y drafodaeth, eglurodd fod gan y Cyngor ystod eang o bolisïau cyflogaeth a fyddai'n cael eu hadolygu yng ngoleuni'r gwrandawiad i ystyried a oedd angen ei ddiwygio.  Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'r Pwyllgor yn cael cyfle i ystyried canfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru ymhellach ac adolygu'r Protocol Aelod/Swyddogion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: