Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Mae'r eitem hon i dderbyn unrhyw Rybuddion Cynnig. Derbyniwyd un ac mae ynghlwm.

Cofnodion:

Cyn cyflwyno'r Rhybudd o Gynnig, esboniodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod ymateb i’r Rhybudd o Gynnig wedi cael ei dderbyn gan Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac y byddai’n ei ddarllen unwaith y cyflwynwyd y Rhybudd. 

 

            Esboniodd y Cynghorydd Attridge bod y Rhybudd o Gynnig yn enw ei hun, a’r Cynghorwyr Brown, Ellis a Hardcastle.

 

            Cyflwynodd y Cynghorydd Ellis y Rhybudd o Gynnig fel y ganlyn:

 

 “Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am eu gofal o gleifion a staff.Ar ôl sawl blwyddyn mewn Mesurau Arbennig, mae’r argyfwng gydag Ysbytai Rhanbarthol yn parhau i fod yn bryder.

 

Nid yw oedi o ddeuddeg awr yn Maelor Wrecsam yn anarferol, dyma'r amser aros normal.Mae pobl yn gorwedd ar droli yn aros i fynd ar wardiau yn normal.Mae aros am wely i symud cleifion allan o’r Uned Damweiniau Brys i’r wardiau yn amhosib oherwydd nid oes gwelyau.Dim gwelyau, dim cynfasau, dim clustogau, dim Meddygon, a thoriadau i Staff Nyrsio.

 

Mae staff dan bwysau cynyddol ac wedi cael eu clywed yn dweud eu bod yn ofni i’r sefyllfa waethygu oherwydd nid yw’r Ysbytai’n gallu ymdopi gyda’r niferoedd megis dau Feddyg i weld wythdeg claf yn yr Uned Damweiniau Brys, gyda niferoedd saff wedi gostwng o 15 i 12. Rydym yn teimlo bod pobl yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y diffyg darpariaeth.Ni fydd Personél Ambiwlans yn gallu trosglwyddo cleifion i staff yr Uned Damweiniau Brys oherwydd nid oes lle.

 

Mae gan Sir y Fflint boblogaeth sy’n tyfu ac mae’r CDLl yn dangos y twf y gallwn ei ddisgwyl, fodd bynnag nid yw darpariaethau Iechyd yn gallu ymdopi, mae angen mwy o Feddygon Teulu, mwy o Nyrsys ac Ymgynghorwyr yn Sir y Fflint, a go brin y dyddiau hyn y dylai unigolyn sy’n sâl gael gwely a chlustog a blanced, a chael ei weld gan Feddyg o fewn amser rhesymol.Yn gryno, mae angen ei Ysbyty ei hun ar y Sir hwn."

 

Ychwanegodd, yn 2008 roedd sawl Aelod ar draws y Siambr wedi bod yn erbyn cyflwyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac wedi brwydro’n galed yn erbyn cau ysbytai cymunedol.  Roedd y sefyllfa bresennol yn profi bod y farn honno’n gywir.Dywedodd bod BIPBC wedi bod dan fesurau arbennig am bron i 5 mlynedd, ei fod rhy fawr ac nid ellir ei reoli.Dywedodd ei bod wedi cael galwadau niferus gan breswylwyr ar draws y sir yn amlinellu eu profiadau a’u pryderon. Gwnaeth sylw ar leihau nifer y staff, y diffyg clustogau a blancedi, gwelyau ddim ar gael a darpariaeth sylfaenol o fwyd a diod ddim ar gael i bobl sydd wedi bod yn aros am hyd at 24 awr. Roedd yn teimlo bod preswylwyr Sir y Fflint yn cael eu gadael i lawr a galwodd am ysbyty o fewn y sir.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Brown ac Attridge o blaid y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Ellis, gyda'r Cynghorydd Attridge yn darparu manylion o’i brofiadau personol ei hun yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

 

Darllenodd y Dirprwy Swyddog Monitro ymateb BIPBC.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn bryderus clywed enghreifftiau gan y Siambr a cytunodd bod perfformiad BIPBC yn gwaethygu.Cynigodd ddiwygiad i’r Rhybudd o Gynnig, i dynnu'r geiriau "Yn gryno, mae angen ei Ysbyty ei hun ar y Sir hwn” o’r frawddeg olaf, ac ychwanegu’r canlynol:

 

Wrth ymateb i'r Rhybudd o Gynnig hwn, gallwn adnabod bod y materion hyn yn gallu bod yn emosiynol.  Rydym yn ymwybodol bod y gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau mawr, ac mae angen cefnogaeth arnynt.Ond, mae rhai cwestiynau sylfaenol sydd nawr angen eu gofyn.

 

Dylai Cyngor Sir y Fflint alw ar Lywodraeth Cymru ar frys i adolygu’r materion canlynol:

 

1.    Oes digon o le yn ysbytai Maelor Wrecsam, Glan Clwyd ac Iarlles Caer?

 

2.    Oes angen Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ei hun ar Sir y Fflint?

 

3.    Pam bod perfformiad yr Uned Damweiniau Brys mor wael ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o’i gymharu gyda gweddill Cymru?

 

4.    Pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith i wella perfformiad yr Unedau Damweiniau Brys mewn argyfwng drwy ganolfannau galw heibio Meddygon Teulu, oriau ychwanegol mewn unedau mân anafiadau, gwell mynediad i Feddygon Teulu a gwasanaethau cymunedol gwell?

5.    Beth yw’r lefel o fuddsoddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gleifion yng Ngogledd Cymru i sefydlogi ac yna gwella'r perfformiad.

 

Rwy’n cynnig ein bod yn anfon y pryderon hyn yn syth at Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

           

Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd McGuill. Derbyniodd y Cynghorydd Elis, fel cynigiwr y Rhybudd o Gynnig, y diwygiad a ddaeth yn Rhybudd o Gynnig cadarnhaol.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Peers, Gladys Healey, Rosetta Dolphin, Andy Williams, Richard Jones, McGuill, Butler, Butler, Bithell, Hinds, Gay a Carver o blaid y Rhybudd o Gynnig gyda sawl un yn rhoi enghreifftiau o brofiadau personol.

 

Dywedodd y Cynghorydd McGuill bod y problemau wedi cychwyn gyda phobl methu cael mynediad at apwyntiadau Meddyg Teulu ac awgrymodd bod BIPBC yn edrych ar y darpariaethau o fewn ysbytai cymunedol yn yr Wyddgrug, Treffynnon a Glannau Dyfrdwy ac ystyried eu cadw ar agor o 7am - hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos gyda chyfleusterau pelydr-x ar gael ymhob un.Cynghorodd Aelodau bod cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 10 Chwefror lle byddai BIPBC yn bresennol. Anogodd Aelodau i anfon unrhyw gwestiynau ymlaen ati, fel y gellir eu hystyried yn y cyfarfod.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr mai’r rheswm yn bennaf dros cynnal y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd arbennig oedd yn dilyn problemau’r flwyddyn flaenorol gyda threfniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer.Ers derbyn y Rhybudd o Gynnig, gofynnwyd i BIPBC fynd i’r afael â’r pryderon yn yr un cyfarfod. Ar gyfer y cyfarfod hwnnw, awgrymodd rhoi'r canlynol ar y rhaglen:

 

 (1) rhoi sicrwydd dros drefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer a pharhad gwasanaeth;

 (2) ymateb i'r Rhybudd o Gynnig sy'n cael ei ystyried heddiw; ac
(3) ystyried y cwestiynau sy’n cael eu cyflwyno gan Aelodau cyn y cyfarfod.

 

Gallai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd drafod y sefyllfa dros sawl cyfarfod ac yna llunio adroddiad i’w anfon i BIPBC ac yna’r Gweinidog.

 

Pleidleisiwyd o blaid y Rhybudd o Gynnig diwygiedig, yn unol â'r isod.

 

ARGYFWNG BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR (BIPBC)

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am eu gofal o gleifion a staff.Ar ôl sawl blwyddyn mewn Mesurau Arbennig, mae’r argyfwng gydag Ysbytai Rhanbarthol yn parhau i fod yn bryder.

 

Nid yw oedi o ddeuddeg awr yn Maelor Wrecsam yn anarferol, dyma'r amser aros normal.Mae pobl yn gorwedd ar droli yn aros i fynd ar wardiau yn normal.Mae aros am wely i symud cleifion allan o’r Uned Damweiniau Brys i’r wardiau yn amhosib oherwydd nid oes gwelyau.Dim gwelyau, dim cynfasau, dim clustogau, dim Meddygon, a thoriadau i Staff Nyrsio.

 

Mae staff dan bwysau cynyddol ac wedi cael eu clywed yn dweud eu bod yn ofni i’r sefyllfa waethygu oherwydd nid yw’r Ysbytai’n gallu ymdopi gyda’r niferoedd megis dau Feddyg i weld wythdeg claf yn yr Uned Damweiniau Brys, gyda niferoedd saff wedi gostwng o 15 i 12. Rydym yn teimlo bod pobl yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y diffyg darpariaeth.Ni fydd Personél Ambiwlans yn gallu trosglwyddo cleifion i staff yr Uned Damweiniau Brys oherwydd nid oes lle.

 

Mae gan Sir y Fflint boblogaeth sy’n tyfu ac mae’r CDLl yn dangos y twf y gallwn ei ddisgwyl, fodd bynnag nid yw darpariaethau Iechyd yn gallu ymdopi, mae angen mwy o Feddygon Teulu, mwy o Nyrsys ac Ymgynghorwyr yn Sir y Fflint, a go brin y dyddiau hyn y dylai unigolyn sy’n sâl gael gwely a chlustog a blanced, a chael ei weld gan Feddyg o fewn amser rhesymol.

 

Wrth ymateb i'r Rhybudd o Gynnig hwn, gallwn adnabod bod y materion hyn yn gallu bod yn emosiynol.  Rydym yn ymwybodol bod y gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau mawr, ac mae angen cefnogaeth arnynt.Ond, mae rhai cwestiynau sylfaenol sydd nawr angen eu gofyn.

 

Dylai Cyngor Sir y Fflint alw ar Lywodraeth Cymru ar frys i adolygu’r materion canlynol:

 

1.    Oes digon o le yn ysbytai Maelor Wrecsam, Glan Clwyd ac Iarlles Caer?

 

2.    Oes angen Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ei hun ar Sir y Fflint?

 

3.    Pam bod perfformiad yr Uned Damweiniau Brys mor wael ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o’i gymharu gyda gweddill Cymru?

 

4.    Pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith i wella perfformiad yr Unedau Damweiniau Brys mewn argyfwng drwy ganolfannau galw heibio Meddygon Teulu, oriau ychwanegol mewn unedau mân anafiadau, gwell mynediad i Feddygon Teulu a gwasanaethau cymunedol gwell?

5.    Beth yw’r lefel o fuddsoddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gleifion yng Ngogledd Cymru i sefydlogi ac yna gwella'r perfformiad.

 

Rwy’n cynnig ein bod yn anfon y pryderon hyn yn syth at Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr Attridge, Brown, Ellis a Hardcastle, sy'n cynnwys y diwygiad a gynhigiodd y Cynghorydd Roberts.

Dogfennau ategol: