Agenda item

Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai

Pwrpas:        I ystyried cyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y meysydd allweddol canlynol:

 

  • Polisi Rhenti 5 Mlynedd Newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
  • Fforddiadwyedd i denantiaid
  • Cynnydd Rhent Arfaethedig
  • Incwm arall
  • Taliadau Gwasanaeth
  • Arbedion Effeithlonrwydd Refeniw
  • Pwysau Refeniw
  • Cyflawni Rhaglen Gyfalaf
  • Rhaglen Gyfalaf Ddrafft 2020/21
  • Arian Cyfalaf HRA 2020/21
  • HRA – Ystyried gwerth am arian
  • Arian Wrth Gefn

 

Soniodd y Cynghorydd Patrick Heesom am yr ymgyrch flaenorol i gadw stoc dai’r Cyngor a gofynnodd am sicrwydd nad oedd yna unrhyw gynigion i symud y gwasanaeth hwn i Fodel Darparu Amgen yn y dyfodol.  Darparodd y Prif Swyddog y sicrwydd hwn.   

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn canmol swyddogion ar yr adroddiad.    Soniodd am y cynnydd yn y lefelau benthyca a mynegodd bryderon y gall hyn effeithio ar y targed i adeiladu 500 o gartrefi yn y 5 mlynedd nesaf.    Cyfeiriodd at gynlluniau gweithredu rheoli ystadau a gofynnodd os gellir darparu’r wybodaeth hon i’r Aelodau fesul ward.  Roedd yn croesawu’r cynnig i Swyddogion Tai gael eu lleoli mewn canolfannau ar draws Sir y Fflint a hefyd croesawodd y cyllid gan Lywodraeth Cymru ond roedd yn bryderus y gall effaith y cynnydd mewn rhent, a thaliadau gwasanaeth a newidiadau i fudd-daliadau tai gael effaith negyddol ar denantiaid   Hefyd gofynnodd a ymgynghorwyd â’r Ffederasiwn Tenantiaid ar y Cynllun Busnes HRA.  Darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Masnachol a Thai wybodaeth ar y lefelau benthyca, gan egluro bod cynnydd yn y lefelau benthyca yn golygu cynnydd mewn perygl i’r rhaglen adeiladu ac felly bu’n angenrheidiol i gynyddu arian wrth gefn i lefel ddigonol er mwyn lleddfu hyn.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog yr ymgynghorir gyda’r Ffederasiwn Tenantiaid ar y cynllun busnes cyn ei ystyried yn y Cabinet a’r Cyngor Sir. 

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Attridge ar leihau costau i Swyddog Iechyd a Diogelwch a gwasanaethau hawliad yswiriant yn ymweld â thenantiaid bregus gydag addewid o wasanaeth dim llwyddiant – dim ffi oedd yn darparu effeithlonrwydd. Roedd yn ymwybodol o wasanaethau hawliad yswiriant yn ymweld â thenantiaid ar draws Sir y Fflint ond dywedodd mai Gwasanaethau Cyfreithiol oedd yn delio gyda nhw ac roeddent yn cael eu hamddiffyn yn gaeth.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i swyddogion am yr adroddiad a dywedodd am y bleidlais uchel i gynnal cartrefi’r Cyngor ar draws Sir y Fflint a chanmolodd y gwaith a wnaed i inswleiddio cartrefi modiwlar yn Garden City.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer a roddwyd ystyriaeth i barhau â’r rhaglen unwaith y cwblhawyd Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) ledled Sir y Fflint.    Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r rhaglen SATC yn cael ei aildatblygu gyda lefelau tebyg o gyllid ynghlwm i ddarparu rhaglenni dad-garboneiddio a hefyd prif safonau SATC mewn cartrefi.

 

            Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ar y posibilrwydd o leihau’r nifer o gartrefi a adeiladwyd o ganlyniad i gostau benthyca cynyddol, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd yna gynigion i leihau’r nifer o gartrefi a adeiladwyd drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).        

 

            Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Shotton a’i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 fel a nodir yn yr atodiadau gyda’r adroddiad;

 

(b)       Bod y cynnydd rhent arfaethedig o hyd at 1.7% (a hyd at £2) yn cael ei gefnogi;

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd o £1.22 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn plotiau garejys;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd yn raddol mewn adfer Taliadau Gwasanaeth;  

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r sail resymegol y tu ôl i lefel gynyddol o arian wrth gefn i 4%; a

 

(f)        Cefnogi’r rhaglen Gyfalaf HRA arfaethedig ar gyfer 2020/21 fel y nodwyd yn Atodiad B.

Dogfennau ategol: