Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhyuddion o Gynnig: cafwyd un erbyn y dyddiad cau.

 

Yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, mae angen cyfyngu ar destun Rhybuddion

Cynnig. Ystyriwyd bod yr Hysbysiad o Gynnig sydd ynghlwm yn anwleidyddol

ac felly'n dderbyniol gan y Swyddogion Statudol.

Cofnodion:

Cyn dechrau’r eitem, gofynnodd y Cynghorydd Attridge am eglurhad o’r rheolau yngl?n â dadleuon yn y cyfnod cyn yr etholiad. Dywedodd bod Hysbysiad o Gynnig wedi cael ei gyflwyno gan ei blaid ychydig fisoedd yn gynharach ond roedd wedi cael ei oedi oherwydd natur y pwnc sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r ffaith ei fod o natur wleidyddol yng nghanol ymgyrch etholiad genedlaethol. Gofynnodd a oedd yr un rheolau’n berthnasol i Lywodraeth Cymru gan eu bod wedi dadlau ynghylch BIPBC ar sawl achlysur yn ddiweddar. Dywedodd hefyd yr ymddengys bod Cynghorau eraill yng Nghymru yn dadlau ar faterion gwleidyddol.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr bod y cyngor a roddwyd i Aelodau yn gadarn a bod cyfyngiadau cyfreithiol sy’n benodol i lywodraeth leol yn rhan annatod o ddeddfwriaeth llywodraeth leol.  Roedd Llywodraeth Cymru yn lywodraeth sydd ar waith ac sydd â gwahanol set o gyfyngiadau a chaniateir iddo ddal ymlaen â’i fusnes arferol. Nid oedd yr Hysbysiad o Gynnig y cyfeiriwyd ato yn cael ei gynnwys gan ei fod yn cyffwrdd ar feysydd a oedd yn ymrwymiadau maniffesto o bwys yn y GIG. 

 

Ychwanegodd ei fod wedi codi y byddai rhannu arferion da yn llesol yng Nghymru gan fod pobl yn gwneud gwahanol ddyfarniadau ond yn y pen draw, roedd y cyngor a roddir i Aelodau yn cael ei roi er mwyn eu hamddiffyn.   Roedd trafodaethau ar y gweill gyda BIPBC i ofyn iddyn nhw fynychu cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ym mis Ionawr ac roedd hyn wedi’i sbarduno oherwydd yr oedi yn y dadlau yngl?n â’r Hysbysiad o Gynnig, am y rhesymau a esboniwyd eisoes.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Heesom i’r Prif Weithredwr am y cyngor a diolchodd i'r swyddogion am y ffordd yr oeddent wedi rheoli’r etholiad aeaf.

 

Siaradodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin o blaid ei Hysbysiad o Gynnig, sef:

 

“Bod y Cyngor hwn yn penderfynu:

 

Ei gwneud yn ofynnol i hysbysebu o flaen llaw bob arddangosiad tân gwyllt cyhoeddus yn Sir y Fflint, gan alluogi trigolion i gymryd camau i ragofalu am eu hanifeiliaid a phobl ddiamddiffyn.

 

Hyrwyddo’n weithredol ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn. Cynnwys y camau y gellir eu cymryd i leihau risgiau.

 

Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i’w hannog i ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddynt i liniaru unrhyw effeithiau negyddol y gall cynnal arddangosiadau tân gwyllt ei gael ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn.

 

Annog arddangosiadau lleol i ddefnyddio tân gwyllt tawel ar gyfer arddangosiadau cyhoeddus, “Ban the Bang”.

 

            Dywedodd bod yr Hysbysiad o Gynnig yn dod ar y cyd â’r RSPCA a’u hymgyrch genedlaethol. Bu cynnydd o dros 12% mewn galwadau o gwmpas Noson Tân Gwyllt a chredwyd y byddai tynhau cyfyngiadau ar werthiant tân gwyllt yn y cyfnod yn arwain at 5 Tachwedd yn helpu yn fawr. Dim ond yn ystod yr wythnos cyn Noson Tân Gwyllt y caiff tân gwyllt ei werthu yn Seland Newydd.

 

            Hoffai weld gostyngiad yn lefel uchaf y s?n o 120 desibel i 90 desibel a fyddai’n cyd-fynd â lefelau gwledydd eraill a byddai hyn yn annog cynhyrchwyr i ddylunio a chynhyrchu tân gwyllt tawelach neu hollol ddistaw. Roedd tref yn yr Eidal eisoes wedi dechrau defnyddio arddangosiadau distaw yn unig.

 

            Cyfeiriodd at achos yn ei ward o orfod rhoi ceffyl i gysgu wythnos ar ôl digwyddiad gyda thân gwyllt nad oedd yn rhan o arddangosiad cyhoeddus. Soniodd hefyd am y trallod y gall tân gwyllt ei achosi i bobl ddiamddiffyn a’r problemau y mae tân gwyllt yn ei greu iddyn nhw.

 

            Eiliodd y Cynghorydd Attridge yr Hysbysiad o Gynnig.

 

            Teimlai’r Cynghorydd Carver y gallai’r Hysbysiad o Gynnig fynd ymhellach gan mai'r arddangosiadau sy'n achosi'r mwyaf o broblemau oedd arddangosiadau preifat lle mae tân gwyllt swnllyd iawn yn cael eu tanio, ac nid oeddent yn gyfyngedig i Noson Tân Gwyllt a’r penwythnosau blaenorol a dilynol, nac ar Nos Calan. Gellid cyflwyno is-ddeddf fel bo tân gwyllt ond yn cael eu tanio ar ddiwrnodau penodol yn unig. 

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Attridge sylwadau am y trallod a achosir i anifeiliaid anwes a dywedodd bod yr Hysbysiad o Gynnig hwn yn bwynt cychwyn i fynd i’r afael â’r broblem. Pe na bai unrhyw welliannau yn digwydd o ganlyniad i hyn, gellid cyflwyno Hysbysiad o Gyflwyniad arall i’r Aelodau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones bod tanio tân gwyllt mewn lle cyhoeddus neu ar y stryd yn anghyfreithiol, fodd bynnag nid oedd yn anghyfreithiol i danio tân gwyllt trwy gydol y flwyddyn yn unol â chyfyngiadau amser a holodd a fyddai modd gweithredu is-ddeddf.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ellis y dylai is-ddeddf ymwneud â gosod cyfyngiadau ar werthu tân gwyllt i aelodau o'r cyhoedd i'w defnyddio, a'r ffordd y maent yn cael eu gwerthu. Rhoddodd sylwadau am ddigwyddiadau yn ei ward lle roedd tân gwyllt wedi cael eu tanio gan y cyhoedd ar y stryd. Roedd y s?n yn dychryn pensiynwyr lleol ac roedd hynny’n annerbyniol. 

 

            Esboniodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr hyn y gellid ei gyflawni gydag is-ddeddfau yn gyffredinol yn eithaf cyfyngedig ac os ceisir cael is-ddeddf, byddai angen rhoi cyngor penodol pellach i Aelodau. Fodd bynnag, fel ag yr oedd, yr Hysbysiad o Gynnig a oedd gerbron Aelodau oedd yn cael ei ystyried.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Kevin Hughes gyda phopeth a oedd yn cael ei ddweud a teimlai bod un peth ar goll, sef y gair ‘addysg’ a dywedodd bod angen i’r cyhoedd gael eu haddysgu sut i ddefnyddio tân gwyllt yn briodol trwy gyfrwng y dulliau mwyaf addas.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas ei fod yn cynrychioli tri pentref a oedd wedi trefnu Nosweithiau Tân Gwyllt, ac roedd pob un wedi cael cymeradwyaeth y Cyngor Cymuned.Roeddent i gyd wedi’u trefnu a’u hysbysebu yn dda ac wedi’u hyswirio’n ddigonol a gobeithiai na fyddai’r penderfyniad heddiw yn cael effaith arnyn nhw.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Cunningham gyda’r holl sylwadau ond dywedodd bod yn rhaid cadw mewn cof bod llawer o bobl yn tanio tân gwyllt mewn modd cyfrifol ac na ddylen nhw gael eu cosbi. Teimlai mai at y bobl anghyfrifol y dylid cyfeirio’r is-ddeddf hon ac roedd o blaid rhyw fath o fesurau i reoli gwerthiant tân gwyllt.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Hinds bod angen targedu’r cynhyrchwyr hefyd.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin mai ei nod oedd cael tân gwyllt tawelach gan na fyddai hynny'n llesteirio’r mwynhad o'u gwylio.

 

            Roedd Aelodau o blaid yr Hysbysiad o Gynnig, fel yr oedd wedi’i ysgrifennu, ac o'i roi i bleidlais, cafodd ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn cael ei gefnogi.

Dogfennau ategol: