Agenda item

Adborth o Ymweliadau Aelodau Annibynnol i Gynghorau Tref a Chymuned

 

I ddeall os oedd y Cynghorau Tref a Chymuned yn gweld y gyfres ddiwethaf o ymweliadau Aelodau yn ddefnyddiol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i roi adborth gan y Cynghorau Tref a Chymuned ar yr ymweliadau i’w cymryd gan yr Aelodau Annibynnol.  Fe ddywedodd eu bod wedi derbyn naw o ymatebion wedi’u crynhoi yn yr atodiad i’r adroddiad hwn.  Ar y cyfan roedd yr adborth yn gadarnhaol ac fe gafodd nifer o awgrymiadau eu gwneud gan y Cynghorau, fel y manylir yn yr adroddiad, i wella prosesau ymhellach. 

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Cynghorau Tref a Chymuned wedi adrodd eu bod wedi gweld y rhaglen o ymweliadau yn fuddiol ac wedi darparu newidiadau ar gyfer y gorau mewn rhai arferion.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y sylwadau wedi’u hatodi i’r adroddiad hwn ac os oedden nhw’n dymuno mabwysiadu unrhyw awgrymiadau pellach neu ddiwygio prosesau presennol.

 

Dyma’r Cynghorydd Patrick Heesom yn llongyfarch y Prif Swyddog, Dirprwy Swyddog Monitro ac Aelodau Annibynnol y Pwyllgor ar lwyddiant y rhaglen gan ddweud ei fod wedi gweithio’n dda ac yn esiampl o arfer da i gael ei fabwysiadu gan awdurdodau eraill. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at yr awgrym bod y Pwyllgor o bosib yn ystyried adolygu gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn cael cyflawnrwydd ac i ddarparu adborth os oedd gwybodaeth hanfodol ar goll.  Fe ddangosodd ei gefnogaeth i’r angen am gyngor ac arweiniad i gael ei roi i Gynghorau Tref a Chymuned i sicrhau fod eu gwefannau yn cydymffurfio â’r gofynion statudol gan dynnu sylw at gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb fel enghraifft.

 

Pwysleisiodd Julia Hughes ar y pwysigrwydd fod gwybodaeth allweddol ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol ar holl wefannau Cynghorau Tref a Chymuned yngl?n â dyddiadau ac amseroedd cyfarfodydd, lleoliad, rhaglen, cofnodion ac adroddiadau.  Dywedodd hefyd ei bod yn cefnogi’r angen i ddarparu cyngor ac arweiniad i sicrhau fod y Cynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio.  Cyfeiriodd at yr argymhelliad yn yr adroddiad y dylid gwneud gwiriadau ar wefannau Cynghorau Tref a Chymuned gan argymell fod y gwaith paratoi ar gyfer hyn yn cael ei gynnwys fel eitem ar Raglen Waith i’r Dyfodol a bod rhestr o’r gofynion yn cael eu darparu i helpu Aelodau Annibynnol i gyflawni’r gwiriadau.      

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson y byddai’n ddefnyddiol pe bai Cynghorau Tref a Chymuned yn darparu data ar y defnydd a wneir o’u gwefannau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod angen i fanylion cyswllt Clercod Cynghorau Tref a Chymuned fod ar y gwefannau ond heb gynnwys eu cyfeiriad cartref.

 

Cyfeiriodd Ken Molyneux at yr adborth o Gyngor Cymuned Nannerch a oedd wedi bod yn ddefnyddiol ac wedi tynnu sylw at y sylwadau yngl?n â phresenoldeb mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Safonau, cyfleoedd am adborth a’r ‘hawl i ymateb’.   Roedd y pwyntiau a godwyd wedi’u cydnabod ac fe ddywedodd y Pwyllgor yn ogystal â’r adborth ysgrifenedig a ddarparwyd i Gynghorau Tref a Chymuned yn dilyn y cyfarfodydd bod yna hefyd gyfle i glywed adborth ar lafar yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a oedd yn gyfarfodydd cyhoeddus ac i ofyn cwestiynau neu fynegi pryderon yn y cyfarfod ar y cyd o’r Pwyllgor Safonau ac wrth gynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned.  I ddarparu’r gefnogaeth orau i Gynghorau Tref a Chymuned teimlwyd na fyddai’n briodol i ddarparu adborth uniongyrchol ar lafar yn y cyfarfod.   

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’u heilio gan Jonathan Duggan-Keen.  Cytunwyd bod y gair ‘archwiliadau’ yn yr ail argymhelliad yn cael ei newid i ‘ymweliadau’.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn trefnu rota o wiriadau ar wefannau Cynghorau Tref a Chymuned;

 

Bod y broses ar gyfer ymweliadau’r dyfodol yn cynnwys cyfle i Gynghorau ymateb i’r adborth; ac

 

I ddangos gwerthfawrogiad i’r Cynghorau Tref a Chymuned am eu hadborth a’u hymrwymiad i’r broses

 

 

Dogfennau ategol: