Agenda item

Deilliannau Dysgwyr Dros Dro 2019

Pwrpas:        I ddarparu adroddiad ar y deilliannau dysgu dros dro ar gyfer 2019.

 

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ac roedd yn darparu gwybodaeth am Ddeilliannau Dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 a 3 ynghyd ag adroddiad manwl gan GwE. Cyfeiriodd at y newidiadau parhaus i adroddiadau perfformiad ac at gyfarfod a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru (LlC) i ddeall sut y byddai angen addasu adroddiadau ar gyfer y Gwasanaeth Craffu yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Ychwanegodd nad oedd modd cylchredeg gwybodaeth am Gyfnodau Allweddol 4 a 5 yn y cyfarfod gan ei bod yn dal i fod yn wybodaerg dros dro ond byddai'n cael ei chyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth.

 

            Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at y crynodeb gweithredol a oedd yn darparu trosolwg yn dilyn y gweithdy diweddar i aelodau a’r newidiadau arwyddocaol mewn adroddiadau a hefyd asesiadau athrawon i Gyfnod Allweddol 2 a 3 ar gyfer ysgolion Cymru.  Tynnodd sylw aelodau at yr atodiad a oedd yn darparu mwy o fanylion ac yn rhoi syniad iddynt o’r ffordd y byddai ysgolion yn ymdopi â’r cyfnod pontio ac yn cynnal safonau.

 

            Cadarnhaodd Mr Dave Edwards (Uwch Arweinydd Craidd Cynradd) bod y safonau a gadarnhawyd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn Sir y Fflint yn dal i fod yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Cyfeiriodd at Werth Ychwanegol a’r lefelau cyflawni a oedd yn ddisgwyliedig gan ysgolion ledled Sir y Fflint, fodd bynnag i rai ysgolion byddai hon yn her fawr ond dywedodd y byddai’r newidiadau adrodd hyn yn cydnabod yr heriau yn enwedig o ran deilliannau.  Darparodd fwy o fanylion yngl?n â sut oedd gwybodaeth am bob ysgol unigol yn cael ei monitro i sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu potensial. Cyfeiriodd wedyn at y wybodaeth a ddarparwyd am y bwlch rhwng bechgyn a merched a phrydau ysgol am ddim a hefyd y gwaith a oedd yn cael ei wneud mewn ysgolion yn dilyn arolygiadau Estyn.

 

            Soniodd Mr David Hytch ei fod wedi cael anhawster deall y ffigyrau ar gyfer cynnydd disgyblion heb lefel gwaelodlin a gofynnodd a oedd Mr Edwards yn gallu cael mynediad at y wybodaeth hon ond yn methu â’i rhannu. Mewn ymateb, dywedodd Mr Edwards na fyddai’r data mor hygyrch yn y dyfodol ond trwy ddefnyddio’r rhaglen lwybro byddai hyn yn galluogi GwE i fesur gwerth ychwanegol yn enwedig i blant â sgiliau llythrennedd isel a darparu trosolwg o’r modd y gellid olrhain cefnogaeth i’r plant hyn trwy’r Cyfnod Sylfaen ac ar ôl hynny. Ychwanegodd bod ysgolion yng nghyfnod allweddol 2 yn cydweithio i gymedroli er mwyn rhannu, gwerthuso a chreu lefelau i ddeall beth fyddai’r deilliant i Gyfnod Allweddol 1 a 2.

 

            Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at y dulliau adrodd data blaenorol a’r safleoedd ac ati a dywedodd yn 2017 bod 91% o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 wedi cyflawni’r lefel ddisgwyliedig. Y broses o symud at y fframwaith atebolrwydd a fyddai’n edrych ar safon addysg yn gyffredinol a chynnwys lles disgyblion, deilliannau Estyn a’r ddarpariaeth mewn ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc yn cyflawni eu potensial.  

 

            Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddangosyddion a manylion a dderbyniwyd yn y gorffennol a dywedodd bod canllawiau LlC yn datgan y dylid gwneud unrhyw gymariaethau yn erbyn y cyfartaledd Cymreig. Roedd Gwerth Ychwanegol yn bwysig iawn i sicrhau bod pob plentyn, yn enwedig y rheiny sydd angen cefnogaeth ychwanegol lle na cheisir rhagoriaeth a phan mai’r lefelau isaf mewn TGAU a Lefel A yw lle mae angen i’r plentyn hwnnw wneud cynnydd.  Ychwanegodd mai lle dechreuodd pob plentyn y dylai’r lefel fod a pha gynnydd yr oeddent wedi’i gyflawni yng Nghyfnod Allweddol 2. 

 

            Gofynnodd Mrs Rebecca Stark a fyddai pob ysgol ledled Sir y Fflint yn defnyddio’r un system lwybro GwE yn y Cyfnod Sylfaen. Gofynnodd hefyd a fyddai GwE a’r Cyngor yn parhau i dderbyn data cymharu er mwyn monitro perfformiad ysgolion na ellid ei rannu gyda llywodraethwyr ysgolion.

 

Ymatebodd yr Uwch-Reolwr gan esbonio y byddai’r wybodaeth ystadegol gan LlC yn gyfartaledd Cymreig ac na fyddai’r awdurdod lleol nac ysgolion yn cael mynediad at ddata cymharu ar gyfer pob ysgol.  Byddai’r Cwestiynau Allweddol yr oedd GwE yn eu cynnig ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn cynorthwyo llywodraethwyr ysgolion ac yn cynnwys cwestiynau newydd a fyddai’n darparu gwybodaeth am y darlun cenedlaethol, ar lefel ranbarthol ac ar lefel awdurdod lleol ac o fewn ysgolion. Byddai hyn yn galluogi Llywodraethwyr i ofyn cwestiynau er enghraifft am gynnydd dysgwyr, cynnydd gwerth ychwanegol yn yr ysgolion a deall yr heriau ar gyfer disgyblion ac ysgolion gan ddefnyddio’r system lwybro.  

 

            Esboniodd Mr Edwards sut y byddai’r system lwybro yn gweithio a rhoddodd enghraifft o bennaeth sy’n cyfarfod â phob athro/athrawes yn yr ysgol yn ystod y tymor cyntaf i drafod cynnydd pob plentyn yn ei (d)dosbarth i ddeall pa ddarpariaethau a fyddai’n ofynnol.  Byddai hyn wedyn yn cael ei fwydo yn ôl i’r corff llywodraethu ar ddiwedd y tymor hwnnw gan ddarparu gwybodaeth am bob gr?p blwyddyn a beth a ddisgwylir. Byddai gwneud hynny bob tymor yn sicrhau bod llywodraethwyr ysgolion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y plant yn eu hysgol ar y pryd. Byddai llwybro cadarn yn sicrhau y tynnir sylw at unrhyw faterion yn gynnar a byddai athrawon a phenaethiaid yn diweddaru’r ymgynghorwyr GwE.

 

            Roedd Mrs Lynne Bartlett yn meddwl tybed a oedd y diwylliant mewn ysgolion mewn perthynas â chydweithio wedi newid ers pan oedd tablau cynghrair mewn lle, pan oedd ysgolion yn gystadleuol a chyfrinachol iawn ac yn gyndyn o rannu arfer orau.  Cyfeiriodd wedyn at asesiadau’r Cyfnod Sylfaen gan ddweud, ar gyfer plentyn a oedd yn dechrau’r ysgol yn 3 oed ac yn gadael yn 7 oed, ei bod yn anodd mesur camau ymlaen gan fod angen i blant fod yn yr awyr agored i chwarae, siarad ac ati a gofynnodd a fyddai plant yn cael gwell profiadau wrth i athrawon ddefnyddio eu dyfarniadau yn hytrach na chael eu clymu i lawr gan ystadegau..

 

            Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at gydweithio gan ddweud bod pob ysgol yn Sir y Fflint wedi croesawu hyn yn bositif yn enwedig dros y 5 mlynedd diwethaf gyda llu o raglenni cydweithio ar waith. Teimlai bod y cwricwlwm wedi bod yn rhy gul yn y gorffennol ond pan lansir y cwricwlwm newydd ym mis Ionawr byddai modd gweld sut y byddai hyn yn gweithio ar draws ysgolion.   Ychwanegodd Mr Edwards mai'r diwylliant o ran cydweithio yn y gorffennol oedd peidio â rhannu a chadw pethau i chi eich hun ac esboniodd bod cydweithio go iawn yn digwydd bellach lle mae grwpiau o ysgolion yn cydweithio ar brosiect penodol ac yn darparu enghreifftiau o’r ffordd llwyddodd hynny. 

 

            Roedd y Cynghorydd Geoff Collett yn falch bod ysgolion yn dechrau defnyddio gwerth ychwanegol ond ystyriai tybed sut y byddai'n cael ei fesur a gofynnodd a fyddai modd mesur Sir y Fflint yn erbyn cyfartaledd y DU yn ogystal â Chymru.    Mewn ymateb dywedodd yr Uwch-Reolwr bod Cymru yn asesu’r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 a 3 mewn modd gwahanol ond bod modd cymharu data TGAU a Lefel A y DU.    Ychwanegodd y Prif Swyddog bod gwahaniaethau mawr rhwng modelau Saesneg a Chymraeg bellach yn wahanol i Gyfnod Allweddol 4 a 5, a bod angen sicrhau bod pob cam o ddysgu’r plentyn yn gadarn fel eu bod yn gallu cystadlu gyda nid yn unig cymuned y DU ond yn rhyngwladol hefyd ar ôl iddyn nhw gyrraedd Cyfnod Allweddol 4 a thu hwnt. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at y sylw cynharach am bennaeth yn siarad gyda phob athro/athrawes am bob disgybl bob tymor ac roedd yn pryderu y byddai hynny’n effeithio ar lwyth gwaith a’r pwysau ar benaethiaid. Roedd yn pryderu hefyd am stigmateiddio disgyblion am dderbyn prydau ysgol am ddim a theimlai y dylid trin pob disgybl yr un fath.  Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod y pryderon am lwyth gwaith athrawon ond dywedodd mai busnes craidd yr ysgol oedd darparu cwricwlwm wedi’i gydweddu’n briodol i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd.  Roedd athrawon yn atebol am gynnydd dysgwyr yn eu dosbarth a byddai hyn yn eu galluogi i amlygu ar ba gam yr oedd eu dosbarth ar ddechrau’r flwyddyn o’i gymharu â r?an, a darparu gwybodaeth fanylach i benaethiaid a chyrff llywodraethu er mwyn ei hadrodd i’r pwyllgor am gynnydd eu dysgwyr.  Roedd adnoddau ychwanegol a ddarparwyd i ysgolion yn sicrhau bod y plant hyn yn cael mynediad at gefnogaeth ychwanegol ar gyfer cwricwlwm a dargedir yn briodol i'w galluogi i wneud cynnydd da.

 

            Darparodd Mr Martin Froggett gefndir Cyfnod Allweddol 3 gan esbonio’r data a ddarparwyd, gwybodaeth am y deilliannau a nifer o resymau pam y cododd y deilliannau a pham nad oedd modd dweud yr un peth am gyfnod allweddol 4 a 5.  Ychwanegodd nad oedd Estyn yn blaenoriaethu Cyfnod Allweddol 3 ond eu bod yn canolbwyntio mwy ar Gyfnod Allweddol 4 a darparodd enghreifftiau o argymhellion yr oedd Estyn wedi’u rhoi i ysgolion am Gyfnod Allweddol 3.       

           

            Cyfeiriodd wedyn at ddeilliannau Cyfnod Allweddol 3 ac esboniodd y gwahanol batrymau a’r rhesymau pam fod lefelau yn codi a gostwng.  Ymhen tair blynedd gyda’r cwricwlwm newydd byddai gwybodaeth a arweinir yn lleol yn cael ei darparu a fyddai’n wahanol o un ysgol i’r llall ond byddai ystadegau cymharu yn dal i gael eu darparu yng Nghyfnod Allweddol 4 gyda phwyslais cryf ar y cynnydd y wneir gan ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed gyda mesuriadau cynnydd da rhwng Cyfnod Allweddol 4 a 5 a gyflwynwyd gan LlC. Roedd gan ysgolion eu systemau eu hunain megis Profion Gallu Gwybyddol a phrofion gwaelodlin i gasglu data lefel 3 a dywedwyd bod deilliannau Sir y Fflint yng Nghyfnod Allweddol 3 yn dda ond eu bod wedi disgyn fel yng ngweddill Cymru.  Nid oedd cydberthyniad rhwng deilliannau da yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at brofiad addysg cyffredinol i fyfyrwyr a’r pryderon yn ymwneud â lles a meddyliai tybed a oedd safon aur ar gyfer lles mewn lle neu a oedd hynny’n rhywbeth yr oedd yn rhaid i’r ysgolion ei ddatblygu eu hunain.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod LlC wedi gwneud yn glir bod lles disgyblion yn rhan sylfaenol o’u cynnydd trwy’r ysgol ac roedd ymgynghoriad wedi’i gynnal a dangosyddion cenedlaethol wedi’u datblygu o hynny, felly yn y dyfodol byddai dogfen ar gael i’w defnyddio i ddatblygu'r safon honno mewn ysgolion.

 

            Cyfeiriodd Mr Hytch at y graff a theimlai ei fod yn agored i gamddehongliad ac nad oedd yn adlewyrchiad da o Sir y Fflint a chyn gynted a bod atebolrwydd y cyhoedd yn cael ei dynnu i ffwrdd byddai safonau’n gostwng. Dywedodd na ddylai ganolbwyntio ar y tri pwnc craidd yn unig gan fod hynny’n tanseilio’r cwricwlwm cyfan a theimlai yn y gorffennol bod rhai ysgolion wedi gor-chwyddo canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 ac yna wedi cael anhawster eu cydweddu yng Nghyfnod Allweddol 3.  Dylai profiad y plentyn eu galluogi o ddechreuadau isel i wneud dewisiadau yng Nghyfnod Allweddol 3 i sefyll arholiadau, ymgymryd â phrentisiaethau ac ati a gofynnodd a oedd y plentyn hwnnw yn cael y profiad ehangaf posibl yng Nghyfnod Allweddol 3 i'w galluogi i benderfynu ble roedd eu cryfderau.    Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog bod y graffiau yn cael eu cynnwys gan fod diffyg gwybodaeth ar gael i'w gyflwyno i'r pwyllgor ond heriodd y sylwadau yngl?n â gor-chwyddo gwybodaeth yng Nghyfnod Allweddol 2 gan ddweud bod deilliannau yn cael eu cymedroli'n gadarn yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3.  Nid oedd unrhyw reolyddion dros y deilliannau hyn ac nid dyna ei phrofiad hi fel pennaeth cynradd nac uwch-reolwr.

 

            Cyfeiriodd Mrs Stark at y blaenoriaethau ar gyfer lles myfyrwyr ond dywedodd nad oedd staff yn cael eu cynnwys a gofynnodd beth oedd mewn lle i sicrhau bod lles staff yn cael ei fonitro.   Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog mai athrawon a staff oedd adnodd mwyaf gwerthfawr ysgolion a'r pennaeth oedd yn gyfrifol am sicrhau bod lles athrawon yn cael ei gymryd i ystyriaeth. Roedd pob aelod o staff yn ymroddedig i'w rolau a'r pennaeth oedd yn gyfrifol am sicrhau bod amser athrawon yn cael ei ddefnyddio'n briodol gyda phawb yn cyfrannu mewn cyfarfodydd i sicrhau bod pryderon yn cael eu codi.   Darparwyd hyfforddiant a datblygiad ar lefel uchel i athrawon trwy GwE i’w galluogi i gyflawni eu rolau yn broffesiynol gyda pherthynas ardderchog rhwng yr ysgolion, awdurdod lleol ac adnoddau dynol i alluogi staff i gael mynediad at CareFirst a’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn ôl y gofyn.   Oherwydd y diwylliant cydweithio a chefnogi cryf rhwng ysgolion a'r awdurdod lleol, roedd hyn wedi darparu rhwyd ddiogelwch ychwanegol hefyd.

 

            Dywedodd Mrs Stark nad oedd yn ymwybodol o’r gefnogaeth honno fel llywodraethwr a theimlai y dylid tynnu sylw Estyn at hynny ac y dylid cynnwys hynny yn y strategaeth.  Gallai Llywodraethwyr ddefnyddio hyn fel dull o gefnogi staff hefyd.  Cytunodd y Prif Swyddog trwy ddweud y gellid mynd i’r afael â hyn trwy Gymdeithas Llywodraethwyr Sir y Fflint ac y gellid cyflwyno eitem i’r pwyllgor gan fynd ymlaen i arddangos sut y cafodd hyn ei brofi mewn ysgolion.  Gallai penaethiaid ddarparu’r wybodaeth hon heb ddatgelu gwybodaeth bersonol a chyfrinachol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr adroddiad GwE diwethaf a dywedodd bod y meysydd canlynol wedi’u rhestru fel meysydd i’w gwella yng Nghyfnod Allweddol 4:-

 

  • Sicrhau bod dadansoddiad ac ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i wirio pam fod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn canrannau A i C mewn Saesneg
  • Roedd lefelau cyflawni 5 A* i A wedi  gwella ac roedd yn dal i fod yn faes ffocws

 

Yna cyfeiriodd at adroddiad eleni ar dudalen 44 lle datganwyd bod “safonau yn y sector uwchradd yn dal i beri pryder.Dros y 18 mis diwethaf mae GwE wedi....”a rhestrwyd nifer sylweddol o bwyntiau. Roedd yn pryderu pam nad oedd y rhain wedi’u cynnwys yn adroddiad y llynedd os oeddent wedi bod yn digwydd ers 18 mis. 

 

            Rhoddodd sylwadau am yr amcanion gwella gan awgrymu y dylid cael pedwar pwynt:-

 

·         adnabod y broblem,

·         darparu cam gweithredu i’w ddatrys,

·         darparu terfyn amser ac

·         arddangos beth yw llwyddiant.

 

            Soniodd y Cynghorydd Mackie am y safonau a’r pwynt bwled cyntaf “ail-broffilio ei wasanaeth i sicrhau bod adnodd ychwanegol yn cael ei dargedu at y sector uwchradd” gan ddweud y gallai hyn amlygu nifer y staff a oedd wedi cael eu dwyn ymlaen a beth oedd yn cael ei ddisgwyl i ddangos y deilliant llwyddiannus a oedd yn ofynnol gan GwE.  Aeth ymlaen trwy bob pwynt bwled gan gyfeirio’n arbennig at hyfforddiant athrawon a dywedodd nad oedd y pwyllgor yn ymwybodol bod unrhyw hyfforddiant wedi’i gynnal.  Byddai’n ddefnyddiol cael gwybodaeth am y mathau o hyfforddiant a oedd ar gael, faint o athrawon a oedd yn eu mynychu a beth oedd eu cyflawniadau – byddai hynny’n cynorthwyo aelodau i ddeall beth oedd yn digwydd mewn ysgolion.

 

            Mewn ymateb cytunodd Mr Froggett gan ddweud bod y Cynghorydd Mackie wedi codi pwyntiau da ac y byddai modd rhannu rhywfaint o’r wybodaeth hon gyda’r pwyllgor. O ran niferoedd staff sy’n mynychu sesiynau hyfforddi, roedd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu a dywedodd y byddai’n hapus i gyflwyno’r wybodaeth yn y cyfarfod nesaf. Roedd ysgolion yn paratoi ar gyfer hyfforddiant ar NVQ 8 ynghyd â hyfforddiant pwrpasol a oedd yn ymateb i anghenion ysgolion penodol. Ychwanegodd y Cynghorydd Mackie y byddai’r wybodaeth hon yn helpu’r pwyllgor i ddeall y pwyntiau hyn.  Cytunodd yr Uwch-Reolwr a dywedodd bod diweddariadau’n cael eu derbyn gan ysgolion yn rheolaidd yngl?n â pha hyfforddiant yr oedd athrawon, penaethiaid a staff cefnogi wedi’u derbyn. Roedd y wybodaeth yn gynwysedig yng nghynlluniau busnes lefel 2 sef y cynlluniau busnes gweithredol ar gyfer rhedeg ysgolion o ddydd i ddydd. Ychwanegodd y Prif Swyddog, pan fyddai adroddiadau Cyfnod Allweddol 4 a 5 yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor yn y gwanwyn, gellid cynnwys mwy o’r wybodaeth hon i alluogi’r pwyllgor i ddeall sut yr oedd y gwaith a’r cynlluniau cefnogi yn cael effaith ar ddeilliannau dysgwyr.

            Cyfeiriodd Mr Hytch at adroddiad GwE ar dudalen 49 yr ail baragraff i lawr “nid oedd unrhyw ysgol wedi derbyn dyfarniad “rhagorol” ar gyfer unrhyw faes arolygu”.Credai bod hyn yn bryderus iawn a holodd a oedd hynny’n dal i fod yn wir. Gofynnodd a oedd Estyn yn galetach ar ysgolion Sir y Fflint neu a oedd yn gysylltiedig â chyllid a dywedodd bod GwE wedi rhoi mwy o bwyslais ar ysgolion cynradd nag ysgolion uwchradd yn y gorffennol. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd ei fod yn sicr bod gan ein hysgolion uwchradd agweddau rhagorol a chyfeiriodd at Dreffynnon yn dod allan o fesurau arbennig ond roedd yn llawer mwy pryderus am lefelau annigonol ac anfoddhaol a dyna lle'r oeddem yn methu gyda'n pobl ifanc. 

 

Awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor anfon llythyr at Ysgol Treffynon i ddangos pa mor falch yw’r Pwyllgor eu bod wedi dod allan o fesurau arbennig a'u llongyfarch am waith caled y Pennaeth, athrawon a disgyblion yr ysgol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin gymeradwyo argymhellion (a) a (b) yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kevin Hughes. Cynigiodd Mrs Stark gymeradwyo argymhelliad (c) ac eiliwyd hynny gan Mr Hytch a chynigiodd y Cynghorydd Mackie gymeradwyo argymhelliad (d) ac eiliwyd hynny gan Mr Hytch.

                            

PENDERFYNWYD:

(a)          Bod aelodau’n derbyn adroddiad GwE ar Ddeilliannau 2019 ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, yn ymwneud â chyd-destun rhanbarthol a pherfformiad lleol ar gyfer 2019.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau cenedlaethol i adroddiadau am asesiadau athrawon a’r mesurau dros dro newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 4

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd lles staff fel yr adnodd pwysicaf mewn ysgolion; a

 

(d)          Bod y Pwyllgor yn gofyn am adroddiad am arlwy proffesiynol GwE, lefelau ymgysylltiad ysgolion â’r arlwy hwnnw a’r effaith yr oedd hyn yn ei gael ar welliant, mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: