Agenda item

Cynllun y Cyngor 2019/20 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Cofnodion:

                      Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) grynodeb o gynnydd ar berfformiad yng Nghynllun y Cyngor ar bwynt canol blwyddyn 2019/20, sy'n berthnasol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.   Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriad ac yn canolbwyntio ar feysydd sy’n tanberfformio, gyda’r Prif Swyddog yn darparu gwybodaeth fanwl ar y meysydd canlynol:-

 

·         Mynediad at gynnyrch ar gyfer mislif mewn ysgolion; a

·         Chyllid cyfyngedig i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith atgyweirio hysbys a gwaith cynnal a chadw asedau Addysg ac Ieuenctid.

           

Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i ddarparu cynnyrch ar gyfer mislif y gellir ei ailddefnyddio, felly roedd angen newid yn ystod y broses gaffael.   Roedd hyn wedi’i ddatrys a rhagwelir y byddai’r targed yn cael ei ddiwallu erbyn diwedd y flwyddyn.   Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o drafodaethau blaenorol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r gostyngiad mewn cyllid i ysgolion a’r effaith yr oedd hyn yn ei gael ar gyllideb atgyweiriadau a chynnal a chadw.   Roedd sylwadau’n cael eu cyflwyno gan Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg a’r Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion bod Awdurdodau Lleol yn derbyn cyllid ychwanegol i fynd i'r afael ag atgyweiriadau a chynnal a chadw adeiladau ysgolion.   

 

            Holodd y Cynghorydd Heesom pam fod rhannau o thema Cyngor Uchelgeisiol Cynllun y Cyngor yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor hwn.   Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog yn ystod adolygiad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 teimlwyd y dylai Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif fod o dan thema Cyngor Uchelgeisiol ac felly byddent yn parhau i gael eu hadrodd i’r pwyllgor hwn.   Roedd creu un Gwasanaeth Archifau ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf, hefyd yn rhan o thema Cyngor Uchelgeisiol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y cam gweithredu bod staff addysgu yn derbyn datblygiad proffesiynol o ansawdd drwy’r system hunanwerthuso a oedd yn dangos statws COG ‘melyn' a holi pam fod y statws yn 'felyn' ac a ellir darparu diweddariad cynnydd.   Mewn ymateb atgoffodd y Prif Swyddog y Pwyllgor yngl?n â chyflwyno Cwricwlwm Cenedlaethol newydd Cymru a fyddai’n cael ei weithredu erbyn 2022 ac egluro bod y cam gweithredu i gefnogi staff addysgu yn parhau i fod yn risg er mwyn sicrhau bod safonau mewn ysgolion yn cael eu diogelu.   GwE oedd wedi darparu mwyafrif yr hyfforddiant ac roedd holl ysgolion Sir y Fflint wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn symud ymlaen yn dda â’r hyfforddiant drwy weithio ar y cyd.   Awgrymwyd bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor tuag at ddiwedd tymor yr haf i nodi pa waith oedd wedi’i gyflawni.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mackie y newidiadau canlynol o ran camau gweithredu a risgiau a nodwyd yn atodiadau'r adroddiad:-

 

  • 3.1.4.1 (CP) Newid polisi wedi’i gytuno erbyn chwarter un a gweithredu polisi diwygiedig a chynaliadwy – angen teitl cliriach ar gyfer y cam gweithredu.
  • 1.5.6.4 (CP) Perfformiad wedi’i fesur gan ddefnyddio mesurydd perfformiad newydd ac ystyrlon – angen i’r cam gweithredu a'r sylw fod yn gliriach; a
  • ST214 Methu â derbyn cyllid grant – angen i deitl y risg fod yn gliriach.

 

Cytunwyd bod yr Hwylusydd yn darparu’r adborth hwn i’r Tîm Perfformiad ar ôl y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Mackie, cytunwyd bod llythyr yn cael ei anfon at Gail Bennett, Rheolwr y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar, i'w llongyfarch ar y gwaith a wnaed i ragori’r targed a osodwyd ar gyfer nifer y plant sydd wedi derbyn mynediad at y cynnig Gofal Plant.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at fynediad at gynnyrch ar gyfer mislif a nododd yn dilyn sgwrs gyda’r Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu, ei fod yn hyderus y byddai’r targed yn cael ei ddiwallu erbyn diwedd y flwyddyn.   Eglurodd y Prif Swyddog bod yr holl ysgolion uwchradd wedi derbyn cynnyrch a oedd ar gael i bobl ifanc.   Byddai banciau bwyd a chlybiau ieuenctid lleol hefyd yn derbyn cynnyrch a fyddai ar gael ar gyfer y bobl ifanc.   

 

            Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad, ynghyd â'r argymhelliad ychwanegol canlynol gan y Cynghorydd Kevin Hughes ac eiliwyd y cynnig gan Mr, David Hytch:-

 

·         Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus sy’n cael ei gyflawni i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus sy’n cael ei gyflawni i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw.

 

 

Dogfennau ategol: