Agenda item

Cod Ymddygiad

Pwrpas:        I ddiwygio’r Cod Ymddygiad yn unol â'r argymhellion o Bwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ddiwygio’r Cod Ymddygiad yn unol â'r argymhellion gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Pwyllgor Safonau, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019, wedi ystyried argymhellion a chanfyddiadau arfer orau’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Credai y dylai’r Cyngor fabwysiadu Argymhelliad 6 mewn perthynas ag anrhegion a lletygarwch yn wirfoddol a newid ei God Ymddygiad i’w gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan nid yn unig anrhegion o werth unigol penodol, ond hefyd anrhegion sydd werth mwy na swm penodol gyda’i gilydd. Y cynnig oedd y dylai unrhyw anrheg gwerth mwy na £10 gael ei gofrestru (fel sy’n wir ar hyn o bryd) ac os oeddent yn derbyn anrhegion gwerth £100 neu fwy gan yr un rhoddwr o fewn cyfnod o 12 mis, y dylai hyn gael ei gofnodi hefyd.  Dywedodd y Prif Swyddog bod y diwygiad awgrymedig yn lleihau’r risg y gallai anrhegion/lletygarwch osgoi cael eu cofrestru trwy gael eu rhoi mewn symiau bach dros amser.  Roedd y diwygiadau awgrymedig i’r Cod Ymddygiad i’w gweld yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Chris Bithell, rhoddodd y Prif Swyddog fwy o wybodaeth am ddiddymu Panel Dyfarnu Lloegr a soniodd am rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 15, adran 6 (1) yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd y datganiad hefyd yn berthnasol i gyrff/sefydliadau cenedlaethol neu leol eraill. Eglurodd y Prif Swyddog bod hwn yn ddatganiad gorfodol a oedd yn berthnasol i bob cyngor lleol, a chyrff eraill yng Nghymru, gan nodi’r Awdurdod Tân fel enghraifft. 

 

Ceisiodd yr Aelodau gyngor am yr angen i gofrestru anrhegion o werth ariannol bach a allai, er enghraifft, gael eu rhoi gan breswylydd fel arwydd o werthfawrogiad am gefnogaeth i ddatrys mater yn eu Ward. Rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad yngl?n â chofrestru anrhegion a lletygarwch a dywedodd fod angen i’r Aelodau gofrestru unrhyw anrheg neu letygarwch a bennir i fod werth £10 neu fwy a gwrthod unrhyw anrheg/letygarwch o unrhyw werth sy’n ymddangos i roi’r Cynghorydd dan rwymedigaeth amhriodol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 25, adran 17 (3), ac awgrymodd, lle’r oedd yn rhaid i Aelodau hysbysu Swyddog Monitro’r Awdurdod yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, y gallai’r Swyddog Monitro gydnabod derbyn yr hysbysiad. Gofynnodd hefyd a fyddai cysylltiadau mae’r Aelodau wedi’u datgan yn cael eu diweddaru’n awtomatig wrth dderbyn yr hysbysiad neu a fyddai angen i’r Aelodau sicrhau eu bod nhw’n gwneud hyn.

 

Wrth drafod, rhoddodd y Prif Swyddog fwy o gyngor am y cwestiynau a’r sylwadau a godwyd ynghlwm â’r Gofrestr o Gysylltiadau, a chysylltiadau personol, a rhoddodd enghreifftiau o’r adeg y byddai angen i Aelod ddatgan cysylltiad personol neu gysylltiad personol sy’n rhagfarnu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Argymell bod y Cyngor Llawn yn cynnwys y diwygiad awgrymedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i anrhegion sydd werth cyfanswm o £100 neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 12 mis gael eu datgan yn y Cod Ymddygiad i Gynghorwyr.

Dogfennau ategol: