Agenda item

Ffioedd a Thaliadau

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:-

 

·         Copi o adroddiad y  Prif Swyddog  (Gwasanaethau Stryd a Chudliant) –Ffioedd a Thaliadau

  • Atodiad A i ' r adroddiad ffioedd a thaliadau
  • Atodiad B i ' r adroddiad ffioedd a thaliadau
  • Copi o’r Cofnod o Benderfyniad
  • Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Cofnodion:

            Fel symbylwyr yr alwad, gwahoddwyd y Cynghorwyr Mike Peers, Patrick Heesom, Chris Dolphin a Helen Brown i gyflwyno i’r Pwyllgor yn gyntaf.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Mike Peers i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor ac amlinellodd y rhesymau am yr alwad i mewn, gan gyfeirio at yr alwad flaenorol ar gasglu gwastraff gwyrdd a gynhaliwyd fis Ionawr 2018.

 

            Eglurodd y pryderon bod y nifer oedd yn cofrestru i gael trwyddedau casglu gwastraff gwyrdd wedi gostwng 23% ar ôl cynyddu Treth y Cyngor.  Pan gynhaliwyd yr adolygiad ar flwyddyn gyntaf y gwasanaeth, roedd yr adroddiad yn cynnwys ffigyrau anghywir: nid oedd y ffigwr o 33,871 o drwyddedau wedi’u gwerthu yn gywir. Wrth rannu hwn yn 29,021 am un bin, 5,292 am yr ail a 558 am y trydydd, cyfanswm y trwyddedau oedd 39,279. Gan fod pob trwydded yn costio £30, roedd arian dros ben yn y flwyddyn gyntaf, a oedd yn golygu nad oedd angen codi tâl.  Gyda’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, roedd yn annheg rhoi mwy o gostau i drigolion Sir y Fflint.

 

            Cododd y Cynghorydd Chris Dolphin nifer o faterion: - ble roedd yr arian dros ben wedi cael ei wario; bod hon yn fargen wael i gwsmeriaid; bod biniau 140 litr yn rhy fach o gymharu â’r rhai a ddarperid gan awdurdodau eraill ac nad oedd y cynnydd o 6.6% neu 16% os oedd cwsmeriaid yn talu £35 yn rhesymol.  Dywedodd eto fod angen i’r tâl fod yn deg.  Cyfeiriodd at 1.10 yn adroddiad y Cabinet, a oedd yn dweud y gallai pobl ystyried y cynnydd yn annheg ac y gallai effeithio ar y nifer oedd yn cofrestru i’w derbyn.  Roedd hyn, ynghyd â’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, wedi’i brofi gan ostyngiad o 23% yn y niferoedd a oedd am dderbyn y gwasanaeth.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom bod yr Aelodau’n deall rôl y Cyngor i greu incwm ond nad oedd y ffordd hon yn briodol.  Roedd angen iddi fod yn deg a derbyniol a dywedodd bod y ffigyrau yn adroddiadau’r Cabinet yn dangos bod arian dros ben. Gallai hyn ymddangos i fod yn bolisi trethu dwbl a dylid ailystyried y Polisi Creu Incwm. Er bod Aelodau eraill yn deall bod y Cyngor wedi’i danariannu a bod angen edrych ar ffyrdd eraill o greu incwm, nid hon oedd y ffordd gywir. Roedd yn rhaid bod yn deg â phawb.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Helen Brown at 1.07 yn adroddiad cyfarfod y Cabinet fis Ionawr ar adolygu Taliadau Gwastraff Gwyrdd yn Sir y Fflint pan adolygwyd y flwyddyn gyntaf.  Cyflwynwyd 33,871 o drwyddedau ac nid oedd unrhyw bryderon o ran costau cynyddol ond 7 mis yn ddiweddarach yn adroddiad Gorffennaf, roedd cynigion i gynyddu taliadau.  Roedd yn anodd deall y ffigyrau a gyflwynwyd.  Hefyd yn yr adroddiad, roedd yn dweud bod gostyngiad yn nifer y trwyddedau a gyflwynwyd o gymharu â’r flwyddyn gyntaf.  Gofynnodd ble roedd gwybodaeth ynghylch yr arian dros ben i’w chael a dywedodd nad oedd unrhyw gyfiawnhad dros y cynnydd.

 

Ymatebion gan y penderfynwyr

            Croesawai’r Prif Weithredwr yr alwad i mewn fel prawf cadarn o’r polisi a sut y byddai’n cael ei weithredu. Roedd Adnoddau Corfforaethol wedi adolygu’r polisi ac argymell iddo gael ei fabwysiadu y mis diwethaf.  Dadleuodd yn erbyn pwyntiau’r Cynghorydd Peers bod y cynnydd yn ddiangen ac yn anghyfiawn trwy ddweud nad oedd y gwasanaeth yn creu arian dros ben.  Roedd hwn yn wasanaeth dewisol, ac nid oedd yn rhaid i breswylwyr ei ddefnyddio. Gan fod y Cyngor yn ei ddarparu, dylai costau gael eu hadennill yn llawn – fel arall, byddai’r gwasanaeth dewisol hwn yn parhau i gael cymhorthdal gan y trethdalwr.  Roedd y cynnydd i’r tâl blynyddol yn unol â chwyddiant, a gan fod trwyddedau’n dal i gael eu prynu ym mis Awst ac yn yr hydref, byddai’r ffigwr terfynol yn uwch.  I gloi, atgoffodd y Pwyllgor bod polisi codi tâl y Cyngor hyd yma wedi bod yn anghyson a heb fod yn gysylltiedig â mynegai, sef pam bod y polisi wedi’i gyflwyno.

 

            Eglurodd Rheolwr Cyllid yr Amgylchedd bod y ffigyrau a oedd yn y ddogfen a oedd wedi’i rhannu ar ddechrau’r cyfarfod wedi’u dilysu gan gydweithwyr Archwilio Mewnol. Roedd ffigwr y cyfanswm o drwyddedau a werthwyd, 33,871, yn gywir ac roedd wedi creu £1,016,130 o incwm.  Roedd y ffigur a ddarparwyr ar gyfer 2019/20 hyd at 7 Awst ac felly nid oedd yn flwyddyn gyfan.

 

            Mewn ymateb i’r cwestiwn ynghylch arian dros ben, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod nifer y trwyddedau a werthwyd yn 2018/19 yn uwch na’r disgwyl a bod yr arian dros ben wedi’i ailfuddsoddi yn y gwasanaethau Strydwedd. Yn dilyn adolygiad o’r flwyddyn gyntaf, gellid gwneud rhagdybiaethau mwy eglur.  Eglurodd mai 8% oedd y gostyngiad yn nifer y trwyddedau mewn gwirionedd, yn hytrach na’r 23% a grybwyllwyd. Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y trwyddedau a werthwyd, byddai’n dal yn rhaid i’r cerbydau fynd allan bob dydd gyda’r un costau tanwydd ac roedd yn dal yn rhaid i’r Cyngor ddelio â’r gwastraff.  Roedd y costau am ddarparu’r gwasanaeth wedi cynyddu oherwydd dyraniadau tâl i staff, costau tanwydd ac yswiriant a threthi. Nid oedd y costau hyn eto wedi’u cwrdd gan y tâl gwasanaeth.  Cyfeiriodd at adroddiad mis Ionawr a oedd yn dweud nad oedd yn eglur faint a fyddai wedi cofrestru i gael y gwasanaeth ond y byddai’n haws gwneud hynny yn y dyfodol.  Roedd costau sefydlog sylweddol ynghlwm â’r gwasanaeth, er enghraifft, cerbydau.

 

            Darparodd y Rheolwr Prosiect Ffioedd a Thâl wybodaeth ar y gwaith a oedd yn cael ei wneud i bennu’r holl ‘gostau llawn’ er mwyn rhoi darlun cyflawn i Aelodau o’r incwm a oedd yn cael ei greu a’r costau llawn a’r treuliau a oedd ynghlwm.

 

            Dywedodd yr Arweinydd bod y casgliad gwastraff gwyrdd yn wasanaeth arbennig ac yn werth gwych am arian am £1.30 fesul casgliad, a oedd yn gyfleus gan ei fod yn mynd yn syth o gartref y rhai a oedd yn derbyn y gwasanaeth. 

 

            Yn mynd i’r afael yn benodol â’r cwestiynau a oed yn yr hysbysiad galw i mewn, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod arian dros ben yn y flwyddyn gyntaf ond nid yn yr ail;

·         roedd eglurder bellach ar nifer y trwyddedau a gyflwynwyd; 

·         roedd costau darparu’r gwasanaeth wedi’u hegluro, ac unwaith y  byddai wedi’i gysylltu â mynegai, byddai’n ei ariannu ei hun;

·         8% oedd y gostyngiad yn nifer y trwyddedau mewn gwirionedd, nid 23%;

·         nid oedd hyn yn lleihau cost darparu’r gwasanaeth a bellach roedd cymhelliad wedi’i gytuno ac ar waith i annog preswylwyr i dalu’n gynnar ac ar-lein.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a allai’r cymhelliad i dalu ar-lein, gyda gostyngiad o £3, ddarparu proffid ychwanegol.  Ymatebodd y Prif Weithredwr i ddweud na fyddai’r gwasanaeth yn gwneud arian dros ben cost gweithredu pan fyddai costau’r gwasanaeth yn gysylltiedig â mynegai.  Roedd newid wedi bod tuag at drafodion digidol gan fod costau trafodion dros y ffôn yn uwch na rhai ar-lein.  Eglurodd y Rheolwr Prosiect bod y gwahaniaeth yn seiliedig ar gostau trafodion rhatach gan fod taliadau dros y ffôn yn costio £2.83 yr un a thrafodion ar y we’n costio 11c. Eglurodd y ffigwr gwahanol o £2.50 am drafodion dros y ffôn a oedd yn cael eu trin yn y ganolfan alwadau.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y gwaith ar gostau gorbenion uniongyrchol ar gyfer Strydwedd a deall gorbenion corfforaethol a oedd yn parhau.

 

            Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyllid mai’r nod oedd adennill costau’n llawn, ond derbynnid y byddai arian dros ben mewn rhai blynyddoedd ac nid mewn eraill.  Byddai’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr bod Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn dal ar gael i drigolion fynd â’u gwastraff yno heb unrhyw gost ychwanegol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Evans a oedd y gostyngiad yn y trwyddedau a brynwyd eleni’n golygu llai o finiau i’w casglu, gan y byddai tuedd ar i lawr fel hyn yn anghynaladwy. Gofynnodd hefyd a fyddai modd cael biniau nad oeddent yn cael eu defnyddio yn eu holau a’u hailgylchu i gael eu rhoi i gwsmeriaid eraill.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y costau’n effeithio’n uniongyrchol ar leihad yn y nifer a bod trwyddedau’n parhau i gael eu gwerthu felly gallai’r ffigwr newid.  Byddai cyflwyno taliadau Debyd Uniongyrchol yn caniatáu llunio gwell rhagdybiaethau ond roedd angen gweld tueddiadau 3 neu 4 blynedd i’w deall yn iawn.  Ychwanegodd y Prif Swyddog ei bod yn anodd damcaniaethu ynghylch y galw.  Er nad oedd yn ddewisol newid diwrnodau casglu, gellid ystyried hynny pe bai’r rowndiau’n gorffen yn gynnar yn gyson.  O ran cael gafael ar finiau diangen, roedd yn costio i’w casglu ond roedd rhai wedi’u glanhau a’u defnyddio eto.

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod rhai preswylwyr nad oeddent yn cofrestru i dderbyn y gwasanaeth yn defnyddio eu biniau gwastraff gwyrdd fel lle i storio compost cartref.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn deall pam roedd y symbylwyr wedi dadlau yn erbyn y ffigyrau. Cyfeiriodd at y gweithdy diweddar yn Theatr Clwyd, lle bu trafod ynghylch y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r goblygiadau ar yr adolygiad cyllid gohiriedig gan San Steffan a’i bod yn rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau anodd.  Dywedodd ei fod yn cefnogi dewis 1.

            Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i’r Prif Swyddog a thîm Strydwedd am y gwaith arbennig maent yn ei wneud, yn enwedig wrth gynorthwyo trigolion oedrannus ac anabl Sir y Fflint.  Gofynnodd pam na ellid cael biniau mwy rhag gorfod cael biniau ychwanegol.

            Mewn ymateb, eglurodd yr Aelod Cabinet y rhesymau dros y biniau 140 litr.  Dywedodd y Prif Swyddog bod pwysau biniau mwy a rhesymau iechyd a diogelwch yn ffactorau.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at bwynt 1.07 yn yr adroddiad a dywedodd y gellid ei ddehongli mewn dwy ffordd.  Ychwanegodd bod gwybodaeth am gostau cynyddol y gwasanaeth ar goll o’r adroddiad ac nad oedd ond wedi’i ddarparu heddiw.  Ar gostau ailgylchu biniau brown, dylid casglu ac ailgylchu’r biniau segur hynny i gyd.  Nid oedd y wybodaeth am y dull o dalu’n cynnwys costau cynnal y gwasanaeth nac arbedion effeithlonrwydd y gellid eu gwneud ac roedd adennill costau’n llawn yn broblem gyda’r gostyngiad yn nifer y trwyddedau a oedd yn cael eu prynu.

 

            Mewn ymateb, cyfeiriodd yr Arweinydd at 1.07 yn yr adroddiad gan dderbyn y gallai’r ffigyrau hyn gael eu camddeall a byddai’n sicrhau eu bod yn fwy eglur yn y dyfodol. Roedd yn ymwybodol bod rhai pobl bellach yn defnyddio’u bin ar gyfer compostio ond gellid eu casglu os nad oedd eu hangen.  Yn y dyfodol, byddai cynnydd i danwydd a chyflogau’n cael ei gynnwys yn y cyfrifiadau hyn.  Yn olaf, gwasanaeth yn ôl disgresiwn oedd hwn ac roedd canolfannau ailgylchu i’r rhai a oedd yn dymuno’u defnyddio, ond roedd dros 30,000 yn dewis defnyddio’r gwasanaeth.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ian Dunbar bod peth trafod wedi bod ynghylch hyn ac yn dilyn y gweithdy yr wythnos ddiwethaf, roedd pob portffolio ar erchwyn y dibyn. Gofynnodd a oedd dewis arall i’r gwasanaeth hwn ac, yn ail, roedd ganddo bryderon ynghylch taliadau ar-lein gan nad pawb oedd yn gallu defnyddio cyfrifiadur.  Cytunodd â’r Cynghorydd Shotton ac eiliodd ddewis 1.

            Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet y byddai’r Canolfannau Cyswllt yn gallu helpu ac roedd opsiwn o ffonio hefyd.  Roedd y gwasanaeth ar hyn o bryd yn edrych ar daliadau debyg uniongyrchol a fyddai’n parhau’n awtomatig bob blwyddyn nes byddent yn cael eu hatal.

            Cytunodd y Cynghorydd David Wisinger ei bod yn anodd cael ffigwr cywir os oedd trwyddedau’n dal i gael eu prynu.  Cyfeiriodd ar henoed â gerddi mawr a oedd yn dibynnu ar y gwasanaeth.  Roedd y gost o gymharu â llogi sgip neu fynd i’r ganolfan ailgylchu’n rhoi gwerth am arian.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Arnold Woolley bod y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi’u gofyn eisoes. Dywedodd na fyddai angen y cyfarfod hwn pe bai’r symbylwyr wedi cael y wybodaeth ychwanegol ynghynt. Gofynnodd a oedd Aelodau eraill yn ymwybodol o’r ffigyrau.

 

            Ymatebodd y Prif Weithredwr gan ddweud bod y ffigyrau costau llawn wedi’u darparu. Ychwanegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod y ffigyrau hyn wedi’u harchwilio. Aeth y Prif Weithredwr yn ei flaen i egluro y byddai’r gwasanaeth yn parhau a bod y £33,871 a nodwyd yn gywir. £977,000 oedd cyfanswm y gost darparu yn 2019/20. Er derbyn y gallai gwybodaeth fwy cyflawn fod wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, roedd bellach wedi’i darparu ac wedi’i gwirio’n drylwyr ymlaen llaw.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Woolley i’r wybodaeth hon gael ei darparu i Aelodau oedd ddim yn bresennol.  Cytunwyd ar hyn. Bu i’r Prif Weithredwr ailadrodd nad oedd unrhyw anghysondebau gyda nifer y trwyddedau a werthwyd a bod costau darparu’r gwasanaeth yn parhau’r un fath.  Cydnabu’r Arweinydd bod gwahaniaeth wedi bod wrth ddehongli a deallai sut y gallai’r dryswch fod wedi digwydd. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Heesom bod y mater hwn wedi’i alw i mewn oherwydd y dystiolaeth ac roedd yn pryderu ynghylch y Polisi Creu Incwm.  Y dystiolaeth oedd gostyngiad o 10% ym mhryniant y trwyddedau a gofynnodd a oedd posib’ rheoli hyn pe bai’n parhau.

 

            Dywedodd yr Arweinydd mai dewis y cwsmer oedd defnyddio’r gwasanaeth a phe bai angen, gellid edrych ar y rowndiau a newid diwrnodau casglu.  Roedd hwn yn wasanaeth adennill costau’n llawn ac nid oedd cymhorthdal ar ei gyfer.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai cynnydd ariannol bach oedd hwn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bod y cynnydd o 16% yn wahaniaeth mawr i’r rhai na allent dalu dros y we. Credai ei bod yn costio i fynd i’r Ganolfan Gyswllt a gofynnodd faint o bobl oedd yn mynd ar-lein a faint oedd yn mynd i Ganolfannau Cyswllt.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod 66% wedi talu ar-lein a’r gweddill yn y Canolfannau Cyswllt a thros y ffôn.  Roedd staff y Ganolfan Gyswllt yn cynorthwyo pobl ac nid oedd tâl am hyn.  Beth oedd yn cael ei gynnig oedd gostyngiad cynnar am dalu cyn 1 Mawrth ar gyfer ceisiadau ar-lein a thros y ffôn.   Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai’r calendrau ailgylchu’n cynnwys taflen atgoffa ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gwyrdd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Mike Peers i’r Cadeirydd a dywedodd nad oedd hyn yn feirniadaeth o’r gwasanaeth yr oedd ef ei hun yn ei ddefnyddio; roedd yn ymwneud â’r costau ychwanegol ar ben y cynnydd i Dreth y Cyngor.  Teimlai y gallai’r nifer a oedd am ei dderbyn ostwng pe bai prisiau’n cynyddu ac nad oedd y ffigyrau i gefnogi hyn wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  Dylai cynllun ailgylchu hen finiau gael ei gyflwyno fel arbediad effeithlonrwydd.  Gwerthfawrogid pe bai ffigyrau clir a chywir yn cael eu darparu yn y dyfodol.   

            Cytunodd yr Arweinydd bod cyfiawnhad dros yr alwad i mewn a chytunai gyda’r sylwadau a wnaed.   Cydnabu y gallai’r galw leihau ac y gallai’r ffigyrau yn yr adroddiad blaenorol gael eu camddehongli.  Roedd yn fodlon â’r trafod a’r cymodi a fu yn Siambr y Cyngor.  Dywedodd eto fod hwn yn wasanaeth ardderchog nad oedd yn rhaid i’r cyhoedd ei ddefnyddio.  Roedd y Prif Swyddog wedi cadarnhau y byddai’r gwasanaeth yn cael ei adolygu pe bai a phan fyddai angen. Os oedd cwsmeriaid yn talu’n gynnar, un ai ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r Ganolfan Gyswllt, £2 fyddai’r cynnydd. 

 

            Cynigiwyd Dewis 1 gan y Cynghorydd Shotton ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbar.  Cafwyd pleidlais i ddilyn gyda 7 o blaid, 6 yn erbyn, ac ymataliad gan y Cynghorydd Chris Dolphin.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r eglurhad mae wedi’i dderbyn a bod y penderfyniad bellach yn cael ei weithredu.

 

Dogfennau ategol: