Agenda item
Rhybudd o Gynnig
Pwrpas: Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: daethdau i law erbyn y dyddiad cau.
Y Cynghorydd Andy Dunbobbin - Codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched a cham-drin domestig
Cofnodion:
Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig:
(i) Codi Ymwybyddiaeth am Drais yn erbyn Merched a Cham-drin Domestig – y Cynghorydd Andy Dunbobbin
‘Mae’n bosib fod Aelodau’n cofio fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn merched a cham-drin domestig. Mae’r holl staff yn ymgymryd â'r e-ddysgu, ac mae hyn i'w ganmol.
Roedd y pecyn wedi ei addasu i fod ar gael i Aelodau.Byddai’n dangos ein cefnogaeth i'r fenter deilwng hon pe byddai’r holl Aelodau yn gwneud yr hyfforddiant hwn, sydd ddim ond yn cymryd rhyw 40 munud.
Allwn ni ymrwymo i roi 40 munud ar gyfer y dysgu a all ein cynorthwyo ni i gyd i fynd i’r afael yn fwy effeithiol gyda materion y gallwn ddod i gysylltiad â nhw yn ein wardiau?’
Awgrymodd y Cadeirydd fod fideo ar gam-drin domestig, a ddangoswyd yn flaenorol mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn cael ei rannu gyda’r holl Aelodau.
Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd White a oedd, fel llysgennad ar gyfer ymgyrch y Rhuban Gwyn, wedi datgan ei gefnogaeth i amlygu'r mater pwysig hwn. Rhannodd awgrym cydweithiwr y gallai Aelodau ymgymryd â’r hyfforddiant ar yr un pryd tra’n bodloni awgrym y Cadeirydd.
Fel Is-Gadeirydd yr Uned Ddiogelwch Cam-Drin Domestig ar gyfer Glannau Dyfrdwy canmolodd y Cynghorydd Bithell waith y Cyngor yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn.Dywedodd y byddai Aelodau yn cael cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad i’r pecyn e-ddysgu a siaradodd o blaid yr awgrym a wnaed gan y Cynghorydd White.
Wrth groesawu hyn awgrymodd y Cynghorydd Brown fod y sesiwn hyfforddi yn cysylltu â Rhaglen Rhyddid yr Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r holl awgrymiadau yn cael eu hymgorffori i ddarparu sesiynau hyfforddi Aelodau.
Yn dilyn sylw a wnaed gan y Cynghorydd Butler, nodwyd y byddai’r hyfforddiant yn berthnasol i ddioddefwyr trais a cham-drin domestig gwrywaidd yn ogystal â benywaidd.
O’i roi i bleidlais, pleidleisiwyd o blaid y Rhybudd o Gynnig.
(ii) Hyfforddiant Cymorth Cyntaf mewn Ysgolion – y Cynghorydd Kevin Hughes
‘Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru (LlC) i wneud Cymorth Cyntaf, gan gynnwys hyfforddiant ar CPR a’r diffibriliwr, yn orfodol fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Hefyd fod ysgolion yn cael y cyllid gofynnol i sicrhau y gellir darparu'r hyfforddiant.
Wrth ddarparu gwybodaeth gefndir eglurodd y Cynghorydd Hughes fod hyfforddiant Cymorth Cyntaf i ddod yn orfodol ymhob ysgol yn Lloegr o fis Medi 2020 yn dilyn ymchwiliad yr Arglwydd Kerslake i'r achos o fomio yn Arena Manceinion.Tra byddai ysgolion cynradd yn Lloegr yn darparu hyfforddiant sylfaenol, byddai disgyblion uwchradd yn derbyn sgiliau achub bywyd gan gynnwys dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr.Yn Yr Alban mae ymrwymiad tebyg wedi ei wneud i ddysgu sgiliau achub bywyd yn yr ysgolion.Roedd hyn yn cyd-fynd â nod y Groes Goch ac elusennau eraill a oedd wedi bod yn ymgyrchu dros gynnwys hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y cwricwlwm ar draws yr holl ysgolion.
Wrth siarad o blaid y Cynnig, fe dalodd y Cynghorydd Hughes deyrnged i berfformiad y Gwasanaethau Addysg yn Sir y Fflint er gwaetha'r pwysau sylweddol. Tra roedd hyfforddiant Cymorth Cyntaf eisoes yn cael ei ddarparu mewn rhai ysgolion nid oedd yn orfodol yn yr holl ysgolion a dim ond am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn bob blwyddyn fyddai'r hyfforddiant.Byddai darparu’r sgiliau pwysig hyn i ddisgyblion nid yn unig o fudd i’r unigolion hynny ond hefyd byddai’n cynyddu’r nifer o bobl fyddai’n gallu defnyddio'r diffibrilwyr sydd wedi eu gosod ar draws y sir.
Cefnogodd y Cynghorydd Peers fwriad y Cynnig ond dywedodd ei bod yn bwysig i ganiatáu'r dewis i ddisgyblion a oeddent yn dymuno cymryd rhan yn yr hyfforddiant.Roedd y Cynghorydd Ellis yn rhannu’r safbwynt hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones welliant fod y Cynnig yn cyfeirio at hybu sgiliau bywyd fel ymdopi â straen a materion ariannol, i gyd-fynd â nod Senedd Ieuenctid Cymru.
Soniodd y Cynghorydd Brown am waith yr Oliver King Foundation o ran gosod diffibrilwyr a chynnal hyfforddiant mewn ysgolion yng Nglannau Mersi a Phenarlâg.
Fel Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid, diolchodd y Cynghorydd Roberts i'r Cynghorydd Hughes am ei Rybudd o Gynnig a dywedodd y dylai cynllun y cwricwlwm ar gyfer y ‘Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles’ yn y Cwricwlwm i Gymru 2022 fod yn hyblyg i ymateb i amrediad eang o anghenion sy’n newid drwy roi llais y dysgwr yng nghanol y cynllunio.Dywedodd fod yna amrediad mawr o bynciau i ysgolion eu hystyried wrth ddatblygu cwricwlwm o’r fath gan gynnwys Cymorth Cyntaf a sgiliau achub bywyd.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Cyngor yn gweithio i annog ysgolion i gofrestru eu diffibrilwyr gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans ac i gymryd rhan mewn amrediad o fentrau gan gynnwys adnoddau Cymorth Cyntaf arlein Ambiwlans Sant Ioan a chynlluniau gwersi.Wrth gydnabod y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud, galwodd ar Aelodau i gefnogi’r Cynnig i gytuno i ofyn i LlC i wneud Cymorth Cyntaf, gan gynnwys hyfforddiant CPR a diffibriliwr yn orfodol fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Soniodd am yr effaith gadarnhaol ar y dysgwyr eu hunain ac awgrymodd y gallai’r Groes Goch ac Ambiwlans Sant Ioan ddod yn rhan o hyn. Wrth ymateb i'r pwynt a godwyd gan y Cynghorydd Jones dywedodd fod rhai ysgolion yn Sir y Fflint eisoes yn dysgu materion bywyd, fel cynllunio ariannol.
Siaradodd nifer o Aelodau o blaid y Cynnig gan gynnwys y Cynghorydd Cunningham a amlygodd waith Ambiwlans Sant Ioan a’r Cynghorydd McGuill a eiliodd y Cynnig.
Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorwyr Peers ac Ellis, eglurodd y Cynghorydd Hughes fod y Cynnig yn galw am wneud yr hyfforddiant yn ‘orfodol fel rhan o’r cwricwlwm newydd’ yn hytrach na gorfodol i bob disgybl.O ran cynnig y Cynghorydd Jones cyfeiriodd at sylwadau’r Arweinydd yn cydnabod fod hyfforddiant ar sgiliau bywyd eisoes wedi ei gyflwyno mewn rhai ysgolion.
Fe ganmolodd y Cynghorydd Tudor Jones y Cynghorydd Hughes am ei gynnig a fyddai'n galluogi hyblygrwydd i'r disgyblion hynny nad yw'r hyfforddiant o bosibl yn briodol.Fe wnaeth y pwynt y dylai LlC ariannu'r newidiadau yn iawn os oeddent yn cael eu gweithredu fel cydnabyddiaeth o'r budd i'r Gwasanaeth Iechyd. Aeth ymlaen i ddiolch i wirfoddolwyr a oedd wedi ymgymryd â hyfforddiant Ymatebwyr Cyntaf.
Yn dilyn ei sylwadau cynharach diolchodd y Cynghorydd Peers i’r Cynghorydd Hughes am yr eglurhad ar eiriad ei Gynnig ac roedd yn ei gefnogi ar y sail honno.
Yn dilyn ei gynnig a'i eilio rhoddwyd y Cynnig i bleidlais a phleidleisiwyd o’i blaid.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dunbobbin ar y pecyn e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, yn ogystal â’r cynnig ar gyfer sesiynau hyfforddi aelodau i ymgorffori’r pwyntiau a godwyd, a
(b) Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Hughes ar Gymorth Cyntaf mewn ysgolion i gael ei gefnogi.
Dogfennau ategol: