Agenda item
ADRODDIADAU O YMWELIADAU AELODAU ANNIBYNNOL Â CHYNGHORAU TREF/CYMUNED
Pwrpas: I dderbyn adroddiadau ar lafar gan aelodau annibynnol y Pwyllgor ar eu hymweliadau â’r cynghorau canlynol:
· CyngorTref Mold (Robert Dewey – 26.06.19)
· CyngorTref Shotton (Julia Hughes – 08.07.19)
· CyngorCymuned Queensferry (Phillipa Earlam – 09.07.19)
Cofnodion:
Cafwyd adroddiadau ar lafar gan yr aelodau canlynol:
Robert Dewey - Cyngor Tref yr Wyddgrug
Julia Hughes - Cyngor Tref Shotton
Mrs Phillipa Earlam - Cyngor Cymuned Queensferry
Siaradodd y Cadeirydd am ei ymweliad cadarnhaol yn mynychu cyfarfod o Gyngor Tref yr Wyddgrug. Esboniodd fod busnes wedi symud ymlaen ar gyflymder da a'i fod yn cael ei arwain yn fedrus gan y Clerc a'r Cadeirydd gyda chyfle i drafod a gofyn cwestiynau ar faterion yn codi heb oedi’r drafodaeth. Roedd swyddogion o'r Cyngor wedi mynychu ac yn adrodd yn wybodus ar faterion busnes, adfywio ac ariannol. Cynhaliwyd y cyfarfod mewn lleoliad ffurfiol a oedd, yn ei farn ef, wedi cyfrannu at yr awyrgylch effeithlon. I grynhoi dywedodd fod y cyfarfod wedi bod yn esiampl o arfer da.
Esboniodd Mrs Julia Hughes, er gwaethaf yr ymdrechion gorau, iddi orfod cefnu ar ei hymweliad â Chyngor Tref Shotton ar 8 Gorffennaf gan nad oedd wedi gallu dod o hyd i'r lleoliad ar gyfer y cyfarfod. Dywedodd hefyd ei bod wedi cael anhawster wrth geisio cysylltu â'r Clerc a chael gwybodaeth o'r wefan. Mynegodd bryder y gallai aelodau o'r cyhoedd, hefyd, gael anhawster i ddod o hyd i gyfarfodydd y Cyngor Tref a’u mynychu.
Rhoddodd Mrs Phillipa Earlam adborth ar ei hymweliad â Chyngor Cymuned Queensferry. Dywedodd fod y cyfarfod wedi'i gadeirio'n dda a'i fod yn brofiad cadarnhaol ar y cyfan. Wrth sôn am y wefan, dywedodd Mrs. Earlam mai dim ond crynodeb o'r agenda oedd wedi bod ar gael cyn y cyfarfod, fodd bynnag, darparwyd copi o'r agenda iddi yn y cyfarfod. Yn ystod y cyfarfod roedd cyflwyniad wedi'i roi ar y Cynllun Cyllid Gorfodi ac roedd swyddog o Srydlun hefyd yn bresennol ac yn adrodd ar gynnydd ar eitemau oedd heb eu datrys a materion newydd sy'n effeithio ar amrywiol ardaloedd. Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Swyddog Monitro i'r ymholiadau a godwyd gan Mrs. Earlam.
Codwyd y pwyntiau canlynol a oedd i'w bwydo yn ôl i Gynghorau Tref a Chymuned:
- eitemar yr agenda ar Ddatgan Cysylltiad i'w chynnwys ar gyfer pob cyfarfod
- hygyrchedd y lleoliad a defnydd da o arwyddion
- dyliddarparu gwybodaeth am leoliad cyfarfodydd a chyfarwyddiadau ar wefannau'r Cyngor Tref / Cymuned
Gwnaeth y Swyddog Monitro sylwadau ar yr angen i gyflwyno adroddiad cyffredinol ar ymweliadau aelodau â Chynghorau Tref a Chymuned yng nghyfarfod ar y cyd y Pwyllgor Safonau a Chynghorau Tref a Chymuned i'w gynnal ar 30 Medi 2019. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'n cysylltu â Chyngor Tref Shotton yn y cyfamser i ganfod dyddiad y cyfarfod nesaf.
Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson, yn dilyn yr adborth a roddwyd ar ymweliadau gan aelodau, y dylid cysylltu â'r Cynghorau Tref a Chymuned i ofyn a oedd yn ddefnyddiol ac a oedd unrhyw awgrymiadau wedi'u gweithredu.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylid darparu canllawiau sylfaenol i gynorthwyo Cynghorwyr newydd ar faterion gweithdrefnol yn ystod cyfarfodydd y Cyngor Tref a Chymuned. Cefnogwyd hyn gan y Cynghorydd Patrick Heesom.
Awgrymodd Mrs Julia Hughes y gallai copi o ganllawiau'r Awdurdod ei hun ar y safonau ymddygiad y dymunir fod o gymorth i Gynghorau Tref a Chymuned. Awgrymodd hefyd y dylid darparu arweiniad i Gynghorau Tref a Chymuned ar y gofynion deddfwriaethol sy'n ymwneud â gwefannau.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiadau ar lafar a darparu adborth i’r Cynghorau Tref a Chymuned.