Agenda item

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i’r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Cofnodion:

4.         GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd aelodau’r panel. Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei bennu.  

 

5.         CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT/CERBYD HACNI (AR Y CYD)

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (Ar y Cyd).Eglurodd fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw gollfarnau blaenorol ac ar ddatgeliad uwch o gofnodion troseddol Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr ymgeisydd dangoswyd nifer o gollfarnau a throseddau ar wahân.Roedd manylion llawn y collfarnau wedi eu hatodi i’r adroddiad. Gofynnwyd i’r ymgeisydd roi eglurhad ysgrifenedig o’i gollfarnau, ac fe atodwyd ei ymateb hefyd i’r adroddiad.Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru (ar y Cyd).

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r ymgeisydd roi eglurhad ar yr amgylchiadau o gylch ei gollfarnau blaenorol.Dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn wir edifar am y troseddau a oedd wedi digwydd mewn cyfnod anodd yn ystod ei ieuenctid a chyfeiriodd at ei gefndir teuluol ar y pryd.Pwysleisiodd nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd ers ei gollfarn ddiwethaf yn 2005 a’i fod wedi cymryd camau i wella ei fywyd a’i fod yn unigolyn gweithgar a oedd yn glynu at y gyfraith ac a oedd â theulu i'w cefnogi.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Panel darparodd yr ymgeisydd fanylion pellach yngl?n â’i gollfarnau blaenorol a’r amgylchiadau a arweiniodd atynt.   

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei hanes o ran cyflogaeth a gofynnodd iddo pam nad oedd wedi rhoi manylion yngl?n â’i gollfarnau ar ei ffurflen gais. Eglurodd yr ymgeisydd mai hen droseddau oedd y rhain ac nad oedd ganddo'r wybodaeth ar ei gofnod GDG blaenorol ar adeg cwblhau ei gais ond ei fod wedi anfon yr wybodaeth o'i wirfodd i'r Swyddog Trwyddedu yn ddiweddarach.    

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y gollfarn am feddu arf tanio ffug mewn man cyhoeddus a holodd yr ymgeisydd yn fanwl yngl?n ag amgylchiadau’r drosedd. Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd roi disgrifiad o'r arf tanio ffug i gynorthwyo'r Panel.Eglurodd yr ymgeisydd fod y drosedd wedi digwydd gan fod swyddog heddlu wedi camddeall y sefyllfa a’r rheswm pam fod yr arf tanio ffug yn ei feddiant.Rhoddwyd y cyd-destun i egluro pam fod yr arf tanio ffug ganddo, gan gynnwys ei fod bryd hynny yn chwarae gyda'i blant ifanc gyda'r gwn tegan pelenni plastig.Eglurwyd fod y gyfraith wedi newid i gynnwys y mathau hynny o ynnau tegan yn cynnwys pelenni a digwyddodd y newid yn y gyfraith rhyw ddau ddiwrnod cyn i’r heddlu weithredu, rhywbeth y teimlai oedd yn annheg o ystyried yr amgylchiadau.  Tynnodd sylw at y ddirwy yr oedd wedi ei derbyn am y gollfarn a theimlai fod hynny’n dangos mai mân drosedd oedd hon. 

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a oedd wedi profi unrhyw anhawster gyda rheoli ymddygiad ymosodol.Dywedodd yr ymgeisydd eto ei fod yn wir edifar am y collfarnau yr oedd wedi eu cyflawni yn ei ieuenctid a ddigwyddodd o ganlyniad i’w sefyllfa bersonol ar y pryd a dywedodd fod ei gollfarn olaf wedi digwydd o ganlyniad i gamddeall yr amgylchiadau. Roedd yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded ac roedd yn dymuno gallu ymgymryd â gwaith ychwanegol yn y dyfodol i gefnogi ei deulu’n ariannol. 

 

Pan holwyd ef gan y Cadeirydd rhoddodd yr ymgeisydd fanylion ei sefyllfa bresennol o ran ei deulu.Siaradodd am ei foddhad a’r manteision a brofodd o ran ffordd o fyw yn ei gyflogaeth flaenorol fel gyrrwr tacsi mewn awdurdod lleol arall a gwnaeth sylw ar y rhagolygon ar gyfer ei gyflogaeth yn y dyfodol pe bai'r drwydded yn cael ei rhoi.

  

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra penderfynwyd ar y cais.

 

5.1       Penderfyniad ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i sylwadau llafar ac ysgrifenedig yr ymgeisydd, a chanllawiau’r Cyngor ar drin collfarnau, rhybuddion a chyhuddiadau troseddol. Wrth ystyried yr holl amgylchiadau o gylch cofnod collfarnau'r ymgeisydd, yr amser oedd wedi mynd heibio ers y collfarnau, ei gofnod cadarnhaol o ran cyflogaeth a’r camau yr oedd wedi eu cymryd i wella ei fywyd yn ogystal â’i ddidwylledd, roedd y Panel o’r farn fod yr ymgeisydd nawr yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (Ar y Cyd) am gyfnod o dair blynedd.

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

5.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Panel, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaed, yn cytuno fod yr ymgeisydd wedi rhoi dehongliad llawn a chredadwy o’i gollfarnau blaenorol ac y gallai gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (Ar y Cyd) am gyfnod o dair blynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (Ar y Cyd) o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a’i fod i gael trwydded o’r fath am dair blynedd.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 a.m. a daeth i ben am 11.05 a.m.)