Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w Archwilio gan y Cyhoedd (2015-2030)

Pwrpas:        I alluogi Aelodau i gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol i’w Archwilio gan y Cyhoedd (CDLl, atodiad 1) yn unol ag argymhellion y Cabinet, i gael ei symud ymlaen ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â'r terfynau amser yn y Cytundeb Cyflawni Newydd (Mehefin 2019).

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ynghynt, gadawodd y Cynghorwyr Bob Connah, David Healey, Gladys Healey, Joe Johnson, Ralph Small ac Andy Williams y Siambr cyn cychwyn trafod yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i’w archwilio gan y cyhoedd ar gyfer y cyfnod 2015-2030 a oedd i gael ei gyflwyno i’r cyhoedd i ymgynghori arno rhwng 30 Medi ac 11 Tachwedd 2019, fel roedd y Cabinet wedi’i argymell. Roedd hon yn garreg filltir allweddol i alluogi i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill wneud sylwadau ar y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn rhan o’r amserlen i’r Cyngor gyflawni ei ddyletswydd statudol i fabwysiadu CDLl terfynol.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Strategaeth gyflwyniad manwl yn trafod y canlynol:

 

·         Beth yw’r CDLl

·         Amserlen y CDLl

·         Y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd

·         Beth mae’r Cynllun yn ei gynrychioli

·         Dogfennau ategol

·         Heriau wrth barhau

·         Ffocws cyson ar gyfer Gr?p y Strategaeth Gynllunio

·         Pwrpas yr ymgynghoriad cyhoeddus

·         Materion a fyddai’n debygol o fod yn rhai dadleuol

·         Cynnydd tai a dyraniadau

·         Sut rydym wedi dewis safleoedd

·         Dyraniadau tai’r CDLl

·         Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

·         Darparu isadeiledd

·         Profion cadernid

·         Cymeradwyo’r CDLl i’w archwilio i ymgynghori arno

·         Pwysigrwydd cymeradwyo’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd

·         Beth sy’n digwydd ar ôl i’r cyhoedd ei archwilio

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Strategaeth bod hyn yn ganlyniad gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu Cynllun a oedd yn addas i’r diben, yn gadarn ac yn gwneud y mwyaf o’r strategaeth dwf gan gael yr effaith leiaf bosib’ ar gymunedau. Canmolodd y gwaith cadarnhaol a fu yng Ngr?p y Strategaeth Gynllunio ar y mater cymhleth hwn a dywedodd bod ymagwedd y Cyngor at ddarparu tai wedi helpu i ategu ei sefyllfa ynghlwm â’r CDLl.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r Rheolwr Gwasanaeth a’i dîm am eu gwaith a chanmolodd Aelodau Gr?p y Strategaeth Gynllunio a gadeiriwyd gan y Cynghorydd Bithell a gan y Cynghorydd Attridge cyn hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth a fu wedyn, diolchodd nifer o’r Aelodau i’r tîm o swyddogion am eu proffesiynoldeb a’u diwydrwydd. Soniodd Aelodau o Gr?p y Strategaeth Gynllunio am effeithiolrwydd y Gr?p wrth wneud penderfyniadau, a diolchwyd iddynt hwythau hefyd am eu cyfraniadau at y broses.

 

Fel Cadeirydd Gr?p y Strategaeth Gynllunio, diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r tîm o swyddogion am eu gwaith cynhwysfawr ar y Cynllun ac hefyd i gyd-aelodau ar Gr?p trawsbleidiol y Strategaeth Gynllunio.  Wrth bwysleisio pwysigrwydd parhau i wneud cynnydd ar yr amserlen, dywedodd bod nifer o’r safleoedd posib’ eisoes yn rhai cyhoeddus, wedi’u haddasu gan fân newidiadau a wnaed i ffiniau’r Rhwystr Glas ac aneddiadau. Nododd ganlyniad yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy a oedd i’w adrodd yn ôl i’r Cyngor fis Medi cyn dechrau’r broses ymgynghori gyhoeddus a’r cyfleoedd i Aelodau wneud sylwadau penodol yn nes ymlaen yn y broses fel yr eglurwyd gan y swyddogion.

 

Fel Is-gadeirydd Gr?p y Strategaeth Gynllunio, eiliodd y Cynghorydd Peers y cynnig nad oedd yn gwahardd sylwadau gan Aelodau yn y cam ymgynghori. Cyfeiriodd at effaith newidiadau hwyr i ganllawiau cynllunio cenedlaethol, yr angen i ddeall ymarferoldeb a’i effaith ar y cyflenwad o dai, a phwysigrwydd darparu cysylltiadau â phrif drefi, sy’n cynnwys cludiant cyhoeddus i allu cyrraedd cymunedau ar draws Sir y Fflint. Rhoddodd drosolwg bras o’r gwaith a wnaed gan Gr?p y Strategaeth Gynllunio a chroesawodd y gefnogaeth a oedd ar gael i bob un a ddymunai fynegi pryder yn y broses ymgynghori.

 

Er bod y Cynghorydd Ian Roberts yn cydnabod y gallai Aelodau unigol fod â phryderon penodol, fe’u hatgoffodd mai’r pwrpas ar y cam hwn oedd cymeradwyo’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd i gael ei gyhoeddi i’r cyhoedd ymgynghori arno.

 

Siaradodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin o’i blaid, ond rhannodd bryderon ynghylch twf cyflogaeth a chysylltiadau cludiant. Mewn ymateb i gwestiwn ar ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y safle ar Bagillt Road yn Nhreffynnon – yr oedd caniatâd cynllunio dros dro ar ei gyfer ar hyn o bryd – yn cyfrannu at gyfanswm yr angen a nodwyd dros y cyfnod.

 

Bu i’r Cynghorydd Richard Jones ailadrodd ei bryderon ynghylch diffyg Cynllun Sir y Fflint ar gyfer y Sir gyfan gan y gallai hwn, yn hytrach na Chynllun cyfredol Glannau Dyfrdwy, fod wedi rhoi gwell sylfaen i’r CDLl.  Wrth bwysleisio pwysigrwydd isadeiledd addas, roedd ganddo bryderon nad oedd y Bwrdd Iechyd Lleol, o bosib’, yn deall effaith y CDLl yn iawn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y CDLl yn cydymffurfio a’r profion cadernid allweddol, gofynnol yn cynnwys yr un i ystyried yr holl strategaethau cyfredol fel ei sail dystiolaeth. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod y Cyngor yn ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol ar ddarpariaeth gofal iechyd i ategu’r strategaeth dwf.

 

Croesawai’r Cynghorydd Dunbar y cyfle am gyfarfodydd briffio gyda chynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned fis Medi.

 

Gan siarad o blaid y Cynllun, nododd y Cynghorydd Paul Shotton y ddau safle strategol a oedd yn darparu 20% o’r holl ofynion tai.

 

Yn dilyn sylwadau blaenorol, mynegodd y Cynghorydd Ellis hefyd bryderon ynghylch darpariaeth gofal iechyd i ategu’r CDLl, yn enwedig am feddygon teulu lleol ac ysbytai ardal.  Mewn ymateb, eglurwyd bod gwaith ar fynd i gael sicrwydd ynghylch capasiti a chynaliadwyedd darpariaeth meddygon teulu ar hyn o bryd a bod y cynllun isadeiledd i ategu’r CDLl yn ddogfen fyw a fyddai hefyd yn helpu’r Bwrdd Iechyd i gynllunio gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Tudor Jones, cytunodd y swyddogion i ddiwygio’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd i gydnabod Caerwys fel tref yn hytrach na phentref drwy’r ddogfen.

 

Er bod y CDLl yn cyfeirio at ddogfennau dan eu teitlau cyfredol, soniodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am y Cabinet yn mabwysiadu ffocws ehangach i gyfeirio at Gynllun Glannau Dyfrdwy fel Cynllun Sir y Fflint, gan wneud rhywbeth tebyg ynghlwm â ‘choridor Glannau Dyfrdwy’, i gydnabod yr effaith ar ardaloedd eraill. Dywedodd hefyd y byddai Cynllun Isadeiledd Sir y Fflint yn cael ei rannu yn nes ymlaen.

 

I gloi, diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu sylwadau a’u cydnabyddiaeth i’r gwaith a wnaed gan y tîm o swyddogion. Wrth iddo ddiolch, canmolodd y Rheolwr Gwasanaeth am ei ymroddiad wrth ddatblygu’r CDLl.

 

Cyn parhau i bleidleisio, eglurodd y Cadeirydd ei bod yn bwriadu atal ei phleidlais oherwydd sensitifrwydd lleol ynghlwm ag un elfen o’r CDLl.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’r cofnodion nodi ei fod wedi ymatal.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Aelodau’n cymeradwyo cynnwys Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint i’w archwilio gan y cyhoedd 2015-2030 i gael ei gyhoeddi er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arno; a

 

 (b)      Bod yr Aelodau’n awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Economi a’r Amgylchedd) i wneud unrhyw fân newidiadau o ran geiriad, gramadeg, golygu a chartograffeg i’r CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd a allai ddod i’r amlwg neu fod yn angenrheidiol cyn ymgynghori’n ffurfiol arno i sicrhau cysondeb â sail dystiolaeth gyfredol y CDLl ac i gynorthwyo wrth gyflwyno’r Cynllun yn derfynol.

Dogfennau ategol: