Agenda item

Goddefebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro'r weithdrefn sef y caniateir i'r ymgeiswyr siarad cyn gofyn iddynt adael yr ystafell, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd, er mwyn i'r Pwyllgor allu penderfynu ar y goddefebau mewn amodau pwyllgor.

                                     

Cyngor Cymuned Penarlâg – Cais Cynllunio 060060

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro pedwar cais am oddefeb gan Gynghorwyr Cymuned Penarlâg; roedd dau ohonynt wedi’u diweddaru (Cynghorwyr Clive a Cheryl Carver) a dau gais arall a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen (Cynghorwyr Joyce Angell a Bob Connah).

 

Roedd y pedwar cais yn ymwneud â chais cynllunio ar Dir Hamdden Herbert Gladstone a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor Cymuned.   Gan fod holl Gynghorwyr Cymuned Penarlâg yn Ymddiriedolwyr y Tir Hamdden, fe'u cynghorwyd gan y Swyddog Monitro, drwy'r Clerc, ei fod yn gysylltiad personol ac sy'n rhagfarnu ac y byddai angen iddynt ofyn am oddefeb cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio.   Nid oedd yr eithriad o dan baragraff 12(2) Cod Ymddygiad yr Aelodau yn berthnasol i geisiadau cynllunio.

 

Roedd y ceisiadau’n ceisio gwahanol lefelau o oddefeb.   Ar gais y Cynghorydd Connah, ni allai’r Swyddog Monitro gofio bod y Pwyllgor wedi rhoi’r hawl i bleidleisio ar oddefebau tebyg yn y gorffennol.   Dywedodd mai'r Cynghorwyr unigol oedd i benderfynu ar lefel y cysylltiad i’w ddatgan ac a oeddent yn dymuno cyfranogi tra bo’r eitem yn cael ei hystyried ai peidio, a allai olygu nad oes cworwm i'r cyfarfodydd hynny.   Fel yr Aelod Lleol, byddai gan y Cynghorydd Carver yr hawl i siarad am bum munud ym Mhwyllgor Cynllunio'r Cyngor Sir pe bai'n cael goddefeb.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorwyr Clive a Cheryl Carver, a oedd yn bresennol, i gyflwyno sylwadau.

 

 Eglurodd y Cynghorydd Clive Carver bod y cais cynllunio wedi’i gyflwyno gan Glwb Pêl-droed Hawarden Rangers a bod y Cynghorydd Cheryl Carver yn dymuno siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.   Er ei fod yn cydnabod y cynsail ar geisiadau blaenorol, gofynnodd os yw'r oddefeb i bleidleisio'n cael ei gymeradwyo ar gyfer y Cynghorydd Connah, y dylid ymestyn hyn i'r tri ymgeisydd arall nad ydynt yn ceisio'r hawl i bleidleisio.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd y Cynghorydd Carver bod 17 aelod ar y Pwyllgor Cynllunio na fyddai angen i'w penderfyniadau gael eu cadarnhau gan y Cyngor Cymuned llawn.   Eglurodd gymhlethdod y cais oherwydd natur y safle.

 

Ar y pwynt hwn, cynigodd y Cynghorydd Woolley y dylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd- yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985. Gofynnodd y Cadeirydd bod y rhai yn oriel y cyhoedd yn gadael yr ystafell cyn i’r pwyllgor drafod ac y byddent yn cael eu gwahodd yn ôl i glywed y penderfyniad.

 

Yn ystod y drafodaeth, ceisiwyd safbwyntiau a oedd anghenion gweddill Cynghorwyr Cymuned Penarlâg, sydd heb gyflwyno goddefeb, yn ystyriaeth berthnasol, a’r pwysigrwydd o osod cynsail.   Cytunwyd y byddai'r ffurflen gais yn cael ei diweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r paragraffau lle gellir rhoi goddefeb.

 

Cynigodd y Cynghorydd Woolley bod y Cynghorydd Angell yn cael goddefeb ar y seiliau a nodwyd, ac fe gefnogwyd hyn.   Cynigodd bod y Cynghorydd Connah yn derbyn goddefeb heb hawliau pleidleisio, ac fe gefnogwyd hyn.  Cynigodd Mr. Molyneux bod y Cynghorydd Cheryl Carver yn cael goddefeb ar y seiliau a nodwyd, ac fe gefnogwyd hyn.   Cynigodd y Cynghorydd Johnson bod y Cynghorydd Clive Carver yn cael goddefeb ar y seiliau a nodwyd, ac fe gefnogwyd hyn.   Roedd yr holl oddefebau wedi’u cymeradwyo yn amodol ar y darpariaethau arferol o ran terfynau amser a siarad gyda swyddogion.

 

Gwahoddwyd y cyhoedd a’r Cynghorwyr a adawodd yr ystafell yn ôl i’r cyfarfod a’u hysbysu yngl?n â’r penderfyniadau a fyddai’n cael eu cadarnhau’n ysgrifenedig gan y Swyddog Monitro.

 

Yn ystod y drafodaeth i gloi, nodwyd y gallai proses arsylwi hwyr Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor Sir alluogi’r Cyngor Cymuned i drefnu cyfarfod arbennig i wneud penderfyniad, pe bai angen.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Cynghorydd Sir y Fflint a Chyngor Cymuned Penarlâg Clive Carver yn derbyn goddefeb o dan baragraffau (a), (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad ym Mhwyllgor Cynllunio Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Cymuned Penarlâg, ond i adael cyn y drafodaeth a chyn pleidleisio ar gais rhif 060060 neu unrhyw gais sy’n debyg, ym marn y Swyddog Monitro.   Mae hyn yn caniatáu cyflwyno sylwadau llafar ac ysgrifenedig ar y mater i swyddogion Cyngor Sir y Fflint ar yr amod bod o leiaf un tyst wrth siarad â swyddogion, gan sicrhau bod o leiaf 3 person yn rhan o’r sgwrs, y dylid ei chofnodi.   Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2020;

 

(b)       Bod Cynghorydd Cymuned Penarlâg Cheryl Carver yn derbyn goddefeb o dan baragraffau (a), (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad ym Mhwyllgor Cynllunio Cyngor Cymuned Penarlâg, ond i adael cyn y drafodaeth a chyn pleidleisio ar gais rhif 060060 neu unrhyw gais sy’n debyg, ym marn y Swyddog Monitro.   Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2020;

 

(c)       Bod Cynghorydd Cymuned Penarlâg Joyce Angell yn derbyn goddefeb o dan baragraffau (a), (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad ym Mhwyllgor Cynllunio Cyngor Cymuned Penarlâg, ond i adael cyn y drafodaeth a chyn pleidleisio ar gais rhif 060060 neu unrhyw gais sy’n debyg, ym marn y Swyddog Monitro.   Mae hyn yn caniatáu cyflwyno sylwadau llafar ac ysgrifenedig ar y mater i swyddogion Cyngor Sir y Fflint ar yr amod bod o leiaf un tyst wrth siarad â swyddogion, gan sicrhau bod o leiaf 3 person yn rhan o’r sgwrs, y dylid ei chofnodi.   Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2020;

 

(d)       Bod Cynghorydd Cymuned Penarlâg Bob Connah yn derbyn goddefeb o dan baragraffau (a), (d) ac (f) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad ym Mhwyllgor Cynllunio Cyngor Cymuned Penarlâg, ond i adael cyn y drafodaeth a chyn pleidleisio ar gais rhif 060060 neu unrhyw gais sy’n debyg, ym marn y Swyddog Monitro.   Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2020; a

 

(e)       Bod y ffurflen gais am oddefeb yn cael ei diweddaru a’i dosbarthu.

Dogfennau ategol: