Agenda item

Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE)

Pwrpas:        I gael diweddariad ar gynnydd o ran  datblygu gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, a diweddariad ar sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, a Mr Marc Berw Hughes i’r cyfarfod.

 

                      Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd datblygu gwasanaeth effeithlonrwydd a gwella ysgolion rhanbarthol a sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2018-19 yn darparu trosolwg manwl o waith y Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.Mae’n ymdrin â sawl maes gan gynnwys safonau, darpariaeth, cyfraniad y gwasanaeth at y rhaglen drawsnewid genedlaethol, gweithio mewn partneriaeth a materion busnes.Mae’r atodiadau i’r adroddiad yn darparu rhywfaint o wybodaeth benodol am ganlyniadau dysgwyr a safonau addysg yn Sir y Fflint.Maent hefyd yn darparu dadansoddiad o ymateb arweinwyr ysgol Sir y Fflint a’u barn am effeithiolrwydd y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, a gasglwyd yn ddiweddar drwy holiadur.Mae’r prif feysydd i’w datblygu, a nodwyd drwy’r prosesau hunanwerthuso a gynhaliwyd o fewn GwE, yn flaenoriaethau yn y Cynllun Busnes ar gyfer 2019-2020.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y dylid darllen yr Adroddiad Blynyddol ar y cyd ag adroddiad hunanwerthuso’r Awdurdod, a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod diwethaf.Eglurodd fod swyddogion GwE wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Awdurdod Lleol i ddatblygu’r adroddiad hwnnw, sy’n darparu barn gynhwysfawr ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint ac yn dangos y gwaith partneriaeth effeithiol sy’n digwydd i gefnogi holl ysgolion yr Awdurdod i wella a chael y canlyniadau gorau ar gyfer dysgwyr Sir y Fflint.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at arolwg diweddar Estyn o wasanaethau addysg yr awdurdod lleol a dywedodd y bydd canlyniad yr arolwg yn cael ei gyhoeddi ar 9 Awst 2019.Diolchodd am y cyfraniad aruthrol sydd wedi’i wneud gan GwE at y broses arolygu a soniodd am y berthynas waith agos rhwng swyddogion GwE a’r Awdurdod.Gwahoddodd y Prif Swyddog Arwyn Thomas i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018-19 GwE.

 

            Dywedodd Mr Thomas, fel y nodir yng Nghytundeb Rhyng-Awdurdod GwE, y byddai GwE yn adrodd yn flynyddol ar berfformiad y gwasanaeth wrth ddarparu swyddogaethau’r gwasanaeth a chyrraedd nodau allweddol.Dywedodd fod adroddiad blynyddol GwE yn darparu trosolwg o’r meysydd canlynol:cefndir a chyd-destun, safonau, darpariaeth, y daith ddiwygio, gweithio mewn partneriaeth, busnes a blaenoriaethau cynllun busnes ar gyfer 2019-20. Hefyd, mae’n cynnwys sawl atodiad sy’n cyfeirio’n benodol at y gwaith cefnogi a wneir yn ysgolion Sir y Fflint.

 

Soniodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg am y gwaith rhwng yr Awdurdod a GwE i geisio gwella ysgolion os oes angen cymorth arnynt a mynd i’r afael â'r berthynas a rheoli model. Soniodd hefyd am y gwaith agos gydag Aelodau Cabinet gogledd Cymru a Phrif Swyddogion yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch canlyniadau’r arholiad TGAU Saesneg.Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Mr Thomas am ei gyflwyniad manwl.

 

Cyfeiriodd Shaun Hingston at Atodiad 2 yr adroddiad, sy’n disgrifio’r newidiadau y mae’n rhaid i ysgolion eu gwneud fel rhai cythryblus sy’n gwasgu ysgolion i’r eithaf. Fodd bynnag, mae Adroddiad Blynyddol GwE yn cydnabod y cyfnod anodd y mae ysgolion, yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru yn ei wynebu yn ariannol, o ran gwariant datganoledig.Gofynnodd pa fesurau y bydd GwE yn eu rhoi ar waith, yn ystod y newidiadau hyn, er mwyn helpu ysgolion gefnogi staff a myfyrwyr, yn enwedig yn ariannol, er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn botensial.Ymatebodd Mr Arwyn Thomas i amlinellu’r ffordd y mae GwE wedi helpu i reoli adnoddau a sicrhau bod eu cyllidebau wedi’u lleihau i sicrhau cymorth ariannol parhaus i ysgolion.Amlinellodd y dysgu ar y cyd a geir rhwng GwE ac ysgolion gogledd Cymru er mwyn parhau i ddarparu cymorth ar lefel athro.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones, eglurodd Mr Arwyn Thomas fod GwE wedi esblygu o ‘herio ysgolion’ i’w ‘cefnogi’ i wella ac arloesi.Amlinellodd yr Uwch-Reolwr, Gwella ysgolion, sut mae cefnogaeth yn cael ei dargedu i’r mannau angenrheidiol.

 

Talodd y Cynghorydd Kevin Hughes deyrnged i benaethiaid a staff ysgol yn Sir y Fflint am wneud gwelliannau parhaus a derbyn canlyniadau cadarnhaol er gwaetha’r pwysau ariannol. Cyfeiriodd at y data perfformiad sy’n dangos bod merched yn parhau i berfformio’n well na bechgyn a mynegodd bryder ynghylch nifer isel y disgyblion sy’n dewis astudio cyrsiau gwyddoniaeth ar lefel uwch a gofynnodd sut eir i’r afael â hyn. Soniodd hefyd am bwysigrwydd celf a cherddoriaeth mewn ysgolion.Cytunodd y Prif Swyddog fod celf a cherddoriaeth yn bwysig, gan ychwanegu bod y ddarpariaeth yn parhau i gael ei gwerthfawrogi ar draws ysgolion Sir y Fflint.Dywedodd yr Uwch-Reolwr, Gwella Ysgolion, fod cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio cyrsiau gwyddoniaeth o gymharu â’r llynedd. Soniodd Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet Addysg fod y cwricwlwm yn gyfyng iawn ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 a dywedodd y bydd y cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno fis Medi 2022, yn mynd i’r afael â hynny.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr atodiadau i’r adroddiad a dywedodd fod angen rhagor o fanylion ynghylch gofynion dysgu penodol i sicrhau bod Aelodau yn gallu deall yr wybodaeth a ddarperir. Cytunodd Mr Arwyn Thomas fod modd darparu mwy o naratif yn y dyfodol i helpu Aelodau i ddeall y data a geir mewn adroddiadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y ffigyrau perfformiad ar gyfer ysgolion Sir y Fflint.Dywedodd fod TGAU Lefel 2 yn cael ei ystyried yn gyflawniad safon aur ond yn ôl StatsCymru mae canran y disgyblion sy’n cyrraedd y safon honno ymhob sir yng ngogledd Cymru wedi gostwng rhwng 2013, pan gymerodd GwE’r awenau, a 2018. Dim ond tair sir arall sydd wedi gweld gostyngiad, mae 13 wedi gwella.Mae siroedd gogledd Cymru wedi gostwng 37 safle yn ystod yr amser hwnnw.Yn ystod cyfarfod mis Tachwedd 2018 dywedodd Cydbwyllgor GwEfod Strategaeth Gwella Ysgolion Uwchradd (Medi 2017) yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer datblygiadau rhanbarthol dros y tair blynedd nesaf.Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a oes modd i'r Pwyllgor weld y strategaeth honno, gan obeithio ei bod yn nodi newidiadau, targedau ac yn dangos cynnydd.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog fod perfformiad wedi gwella’n raddol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf drwy gydweithio gyda GwE.Yn ôl cynllun busnes lefel 3 mae’n rhaid i bob ysgol sicrhau bod ganddi’r gefnogaeth sydd ei hangen arni. Dywedodd ei bod yn hyderus fod gan bob ysgol yn Sir y Fflint gynllun pwrpasol sy’n diwallu anghenion ac yn parhau i wella perfformiad yr ysgol. Nid yw ysgolion na swyddogion yn hunanfodlon ac maent yn symud i’r cyfeiriad cywir i fynd yn ôl at y cyfraddau perfformiad blaenorol.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Mackie ar gynlluniau busnes GwE, dywedodd Mr Arwyn Thomas fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Gydbwyllgor GwE ym mis Tachwedd 2015 ac y cydnabuwyd, fel rhanbarth, fod GwE yn parhau ar drywydd i wella.Gofynnodd y Cynghorydd Mackie a yw’n bosibl i Aelodau dderbyn copi o’r adroddiad hwn er mwyn asesu pa gamau gweithredu sydd ar waith i ddelio gyda’r pryderon a godwyd.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Paul Johnson sut mae GwE yn helpu i ddatblygu a gwella newidiadau diwylliannol mewn ysgolion.Cyfeiriodd Mr Arwyn Thomas at yr ymateb cadarnhaol, a nodir yn yr adroddiad, sydd wedi’i dderbyn gan ysgolion pan ofynnwyd iddynt am eu barn ynghylch y berthynas rhwng GwE, yr awdurdod lleol ac ysgolion. Dywedodd fod yn rhaid i newidiadau diwylliannol gael eu gwneud ‘o’r top i’r gwaelod’ a bod parhau i annog ysgolion i gydweithio a rhannu arfer orau yn un newid diwylliannol fydd yn cael ei edrych arno.Dywedodd y Prif Swyddog fod safonau lles mewn ysgolion yn Sir y Fflint yn rhagorol ac nad yw hynny’n digwydd heb ddiwylliant iach mewn ysgolion.Bydd adroddiad Estyn, fydd yn cael ei gyhoeddi gyda hyn, yn rhoi trosolwg cyfunol o’r diwylliant o fewn Sir y Fflint fel awdurdod lleol a’r berthynas rhwng ysgolion unigol.

 

            Gofynnodd y Cynghorwyr Mackie a Janet Axworthy a oes modd cylchredeg copi o Strategaeth Gwella Cyfnod Allweddol 4 GwE i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.Hefyd, gofynnodd y Cynghorydd Axworthy a oes modd cyflwyno adroddiad ar waith y Gwasanaeth Cerdd i’r Pwyllgor.

 

            Gofynnodd Shaun Hingston sut mae GwE yn ymgynghori gyda phobl ifanc ynghylch strategaeth ac adolygu a gofynnodd a oes modd rhoi ystyriaeth i estyn aelodaeth Cydbwyllgor GwE i gynnwys cynrychiolydd pobl ifanc.Dywedodd Mr Arwyn Thomas ei fod yn fodlon cyflwyno’r awgrym hwn yn ystod cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli.Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cynnydd yn yr ymgysylltu rhwng yr awdurdod lleol a phobl ifanc a dywedodd ei bod yn fodlon trafod yr awgrym hwn gyda chydweithwyr yn GwE.

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran y Gymraeg mewn ysgolion cynradd ond mynegodd bryderon ynghylch yr anawsterau wrth recriwtio ieithyddion cymwys i addysgu Cymraeg fel ail iaith yn ogystal â staff ar bob lefel sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.Soniodd am y sefyllfa ariannol sydd ohoni a’r angen i barhau i wella gydag adnoddau sy’n prinhau.Soniodd hefyd am y pwysau sydd ar benaethiaid a’r ddyletswydd gofal i weithwyr a roddir ar lywodraethwyr ysgol er mwyn rheoli lles a chydbwysedd gwaith a bywyd staff.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog ei bod yn bryderus ynghylch nad yw’r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd yn digwydd ar lefel uwchradd a dywedodd fod angen newid y diwylliant yn yr ysgolion uwchradd i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg.Roedd hi’n cydnabod bod yna bryderon ynghylch Llywodraeth Cymru yn gosod targedau sylweddol a ddim yn rhoi’r seilwaith priodol yn ei le i gynorthwyo gyda’r newidiadau.

 

            Mewn ymateb i sylwadau ar les penaethiaid, dywedodd y Prif Swyddog fod swyddogion yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr i sicrhau y darperir cefnogaeth i benaethiaid. Dywedodd fod swyddogion yn cefnogi ei gilydd a bod ansawdd y cyfathrebu gydag ysgolion wedi bod yn gadarnhaol, yn arbennig o ran darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion y gyllideb.Gwahoddir penaethiaid i siarad am unrhyw fater maent yn ei hwynebu ac i dderbyn y gefnogaeth a gynigir.Yn ôl yr adborth a dderbyniwyd, mae’r awdurdod lleol yn gefnogol iawn o benaethiaid.

 

            Roedd y Pwyllgor yn cefnogi awgrym y Prif Swyddog o ran trefnu gweithdy i Aelodau yn ystod tymor yr hydref i drafod mesuryddion perfformiad, data dadansoddol cymharol a safon cyfleusterau ysgolion yn Sir y Fflint mewn mwy o fanylder.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i Arwyn Thomas a Marc Berw Hughes am ddod i’r cyfarfod ac am eu cyflwyniad a’u hymatebion manwl i gwestiynau’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Derbyn Adroddiad Blynyddol GwE; a

(b)      Nodi effaith gadarnhaol y gwasanaeth rhanbarthol ar safonau addysg ysgolion Sir y Fflint.

 

Dogfennau ategol: