Agenda item

Prisiad Actwaraidd 2019

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd Prisiad Actwaraidd

2019

Cofnodion:

                      Esboniodd Mr Middleman gefndir y Prisiad Actiwaraidd, hynny yw, pwysleisio pwysigrwydd y prisiad mewn perthynas â chyllidebau cyflogwyr a gosod y strategaeth wrth symud ymlaen o ran y strategaeth fuddsoddi a lefelau risg. Y prif ysgogydd yw’r enillion disgwyliedig sydd yn uwch na chwyddiant CPI yn ogystal â sicrwydd yr enillion hynny. Dyma amcan craidd y Strategaeth Llwybr Hedfan sydd yn targedu enillion mwy sefydlog yn y tymor hir i ddarparu cymaint o sefydlogrwydd drwy gyfraniadau â phosibl wrth dargedu’r gwaith o waredu’r diffyg dros gyfnod rhesymol o amser.

Nododd y pwyntiau canlynol o ran y broses;

  • Yr her a wynebir mewn perthynas â dyfarniad McCloud gan fod disgwyl i hyn gynyddu costau ond nid ydym yn ymwybodol o’r ffigwr ar hyn o bryd.
  • Mae Mercer yn disgwyl set ddata erbyn canol mis Gorffennaf.
  • Mae dadansoddiad demograffig cychwynnol yn adlewyrchu arafiad mewn disgwyliad oes (sydd yn lleihau dyledion o oddeutu 3-4%) ond mae cynnydd wedi bod mewn achosion o ymddeoliad ar sail afiechyd.
  • Wrth symud ymlaen mae disgwyl i’r enillion buddsoddi disgwyliedig uwch na chwyddiant CPI, fod yn is nag yn y gorffennol.
  • Gan ganiatáu ar gyfer yr enillion is a'r newid amcangyfrifedig o ran disgwyliad oes, roedd y lefel gyllido amcangyfrifedig wedi gwella i c91% ar 31 Mawrth 2019. O ganlyniad, roedd disgwyl gostyngiad sylweddol o ran y diffyg.
  • O ran cyfradd y cyfraniadau gwasanaeth yn y dyfodol, roedd disgwyl i’r gyfradd gynyddu, yn bennaf oherwydd yr enillion buddsoddi is a oedd yn ddisgwyliedig yn y dyfodol.

Cadarnhaodd Mr Middleman y byddai rhagor o fanylion yn cael eu trafod yn ystod cyfarfod y pwyllgor ym mis Medi a bydd drafft o Ddatganiad y Strategaeth Gyllido yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo.

Dywedodd Mr Everett fod swyddogion wedi cael trafodaethau manwl am y prisiad a bod y deialog cynnar yn ddefnyddiol.

Aeth Mr Middleman ymlaen i dudalen 531 sydd yn cynnwys ymateb drafft i ymgynghoriad ar gyfer y newid arfaethedig i gylch prisiad 4 blynedd o 2024 a rheoli risg cyflogwr. Trafododd yr ymateb drafft a gofynnodd am gwestiynau gan y Pwyllgor.

Roedd y prif bwyntiau a drafodwyd fel a ganlyn:

  • Gwnaethpwyd y newid i gylch 4 blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cynlluniau sector cyhoeddus heb unrhyw nawdd ariannol a'r broses rheoli costau.  Wrth ei ystyried ar ei ben ei hun, nid oedd Mr Middleman yn cytuno â’r diwygiad i gylch prisiad 4 blynedd gan ei fod yn gwanhau llywodraeth y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac roedd yn sicr yn llawer iawn rhy hir ar gyfer rhai cyflogwyr.  Fodd bynnag, gan y caniateir prisiadau dros dro lle bo amgylchiadau yn gwarantu hynny, roedd yn rhesymol.  Fodd bynnag, roedd o’r farn y dylid cyflwyno hyn fesul cam, felly roedd o blaid y dewis i gael prisiad yn 2022 ac yna un arall yn 2024.
  • Roedd y newidiadau a gynigiwyd mewn perthynas â’r Credydau Ymadael (i egluro’r rheoliadau blaenorol) a gweithrediad y statws Cyflogwr Gohiriedig yn ychwanegiadau synhwyrol i’r Rheoliadau.
  • Dylid croesawu canllawiau gan y Bwrdd Cynghori’r Cynllun cyn belled â’u bod yn seiliedig ar egwyddorion ac nid yn gyfarwyddol, er mwyn caniatáu i gronfeydd eu priodoli i’w sefyllfaoedd eu hunain.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Nododd holl aelodau’r Pwyllgor yr adroddiad hwn, y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r prosiect prisiad actiwaraidd a’r cyfarfodydd a oedd wedi’u cynllunio â chyflogwyr.

(b)  Ystyriodd aelodau’r Pwyllgor yr ymateb drafft i’r ymgynghoriad a rhoi sylwadau a gwneud y newidiadau angenrheidiol. Yna, dirprwyodd y Pwyllgor y gwaith o gwblhau’r ymateb i swyddogion.

 

Dogfennau ategol: