Agenda item

Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ac Ysgolion Craidd

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn darparu cysondeb gyda Strategaeth Ariannol Tymor Canolog y Cyngor, gan fod angen penderfyniadau allweddol gan y Cabinet er mwyn i'r rhaglen symud ymlaen.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir yngl?n âchynlluniau buddsoddi cyfalaf arfaethedig yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti (safle Shotton).

 

            Roedd yr adroddiad yn dangos sut yr oedd y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiad i barhau i wella cynaliadwyedd addysg gynradd yn y Sir, ac yn tanategu’r ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg ac i ysgolion gwledig.

 

            Ceisiwyd cefnogaeth i ddod â nifer o ffynonellau cyllid allweddol ynghyd ar gyfer Ysgol Croes Atti, yn ogystal â gwneud ymrwymiad cynnar o fewn y rhaglen gyfalaf i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad sydd wir ei angen yn yr ysgol.  Byddai’n gwella’r amgylchedd dysgu o dan do ac yn yr awyr agored er mwyn sicrhau ei fod yn addas i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru a darparu’r gofal cofleidiol yr oedd rhieni ei angen.  

 

            Er bod adeilad yr ysgol yn strwythurol gadarn, roedd angen gwneud addasiadau pellach. Byddai’r addasiadau o gymorth i ddarparu ar gyfer y nifer gynyddol o ddisgyblion, i gyfuno gofal plant a’r ddarpariaeth addysg gynnar bresennol a gwella’r mannau awyr agored yn benodol, gan nad oeddent yn addas ar gyfer cwricwlwm modern na lles y dysgwyr.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyllid a dderbyniwyd drwy Grant Cyfalaf Gofal Plant ac ailddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif yng ngoleuni’r Cyllid Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg i Ysgol Glanrafon. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid a chwrdd â therfynau amser gwariant, cynigiwyd dwyn cyfraniad ariannol y Cyngor yn y rhaglen gyfalaf yn ei flaen er mwyn i’r prosiect allu symud ymlaen ar gyflymder a chyflawni’r gwerth gorau.

 

            O ran Ysgol Brynffordd, penderfynodd y Cabinet i beidio â chyfuno ysgolion Brynffordd a Licswm y llynedd a nodwyd bod ar Ysgol Brynffordd angen buddsoddiad o oddeutu £1.3m i fynd i’r afael â rhai o’r diffygion sylweddol o ran ei llety.  Parhaodd yr ysgol i ffynnu, roedd wedi’i gordanysgrifio ac yn darparu profiad dysgu o safon, er roedd gwneud hynny’n heriol iawn dan yr amodau cyfyng. 

 

            Roedd yr ysgol wedi derbyn Grant Gofal Plant Llywodraeth Cymru o £500k, gan adael diffyg o £800k i gwblhau’r gwaith angenrheidiol. Gyda therfyn amser o hyd at 2021 i wario’r Grant Gofal Plant, byddai eto’n fuddiol i’r Cyngor ddwyn ymlaen yr ymrwymiad a wnaed yn y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i gyflawni’r gwaith ailfodelu angenrheidiol mewn un prosiect a chyflawni’r gwerth gorau.

 

            Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion a oedd yn rhan o’r gwaith ar y prosiectau a chroesawu’r cynigion.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr bod y ddau brosiect yn hanfodol ac roedd cyllid sylweddol ynghlwm â’r ddau ohonynt drwy’r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Band B. Roedd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn fodlon â’r cynigion ac roedd y cyllid wedi cael ei ystyried wrth lunio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a chymeradwyo’r prosiectau yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti, Shotton i’w cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf gyda chostau wedi’u rhannu dros 2019/20 a 2020/21 ac wedi’u hariannu trwy fenthyca darbodus a grant Llywodraeth Cymru. Bydd y costau refeniw cysylltiedig yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig o 2020/21 ymlaen.

Dogfennau ategol: