Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rybuddion o Gynnig:   daeth tri i law erbyn y dyddiad cau

 

Y Cynghorwyr Bernie Attridge, Carol Ellis, Helen Brown a George Hardcastle – Cyfyngu ar y cynnydd yn nhreth y cyngor 

 

Y Cynghorydd David Healey – Seiberfwlio

 

Y Cynghorydd Andy Dunbobbin – Codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched a cham-drin domestig  

 

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd tri Rhybudd o Gynnig:

 

(i)         Cyfyngu ar Gynnydd yn Nhreth y Cyngor  - Cynghorwyr Bernie Attridge, Carol Ellis, Helen Brown a George Hardcastle

 

‘Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i roi mandad clir i’r Cabinet a’r uwch dîm rheoli fod Treth y Cyngor yn cael ei gapio ar 4.5% ar gyfer y broses gosod cyllideb nesaf.

 

Galwn am hyn yn sgil y sylwadau a wnaed gan nifer o drigolion yn Sir y Fflint fod y cynnydd o 8.75% a osodwyd ar gyfer 2019/20 yn achosi caledi a thlodi o fewn ein Sir.’

 

Wrth siarad o blaid y Cynnig, dywedodd y Cynghorydd Helen Brown fod y cynnydd o 8.75% yn Nhreth y Cyngor eleni yn ormod i nifer o drigolion yn Sir y Fflint a bod pobl yn flin ynghylch y cynnydd. Dywedodd nad oedd cyflogau wedi codi ar yr un raddfa â hyn a chyfeiriodd at y cynnydd mewn costau byw beunyddiol ar gyfer tanwydd, gwasanaethau, bwyd a dillad. Hefyd cyfeiriodd at y cynnydd posibl mewn costau ar gyfer cludiant ysgol, a’r bwriad i roi’r gorau i drwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Hefyd dywedodd y Cynghorydd Brown fod cynnydd mewn tlodi pant a’i bod yn annheg roi mwy o bwysau ar dalwyr treth y cyngor Sir y Fflint i gau’r bwlch ariannol ar gyfer yr Awdurdod. Gofynnodd i Aelodau gefnogi’r Cynnig ar ran trigolion Sir y Fflint. 

 

Cynigiwyd y cynnig gan y Cynghorydd Helen Brown a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Carol Ellis.

 

Wrth siarad o blaid y Cynnig, dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis fod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi arian digonol i awdurdodau lleol. Dywedodd nad oedd y fformwla ariannol yn “addas i’r pwrpas” a dyfynnodd enghraifft, sef nad oedd yr Awdurdod yn derbyn arian ar gyfer cost sylweddol lleoliadau y tu allan i’r sir. Aeth ymlaen gan ddweud nad oedd y Fformwla’n ystyried mai yn Sir y Fflint oedd y boblogaeth oedrannus oedd yn tyfu gyflymaf yn ôl canran, ac effaith hynny ar gostau gofal cymdeithasol. Dywedodd fod LlC wedi creu Deddf Llesiant a bod yn rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod o dan y Ddeddf gael eu hariannu o gyllidebau presennol. Soniodd am y caledi gwirioneddol a wynebir gan rai trigolion oedd yn byw ‘o’r llaw i’r genau’ a chyfeiriodd at y defnydd cynyddol o fanciau bwyd. Gofynnodd y Cynghorydd Ellis i Aelodau gefnogi’r Cynnig ar ran trigolion Sir y Fflint ac ailadroddodd na ddylid disgwyl i dalwyr treth y cyngor ariannu’r diffyg ariannol ar gyfer awdurdodau lleol ac mai cyfrifoldeb llywodraeth genedlaethol yw sicrhau cyllid digonol i LlC ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers y byddai cytuno â’r Cynnig ar hyn o bryd yn rhoi mwy o bwysau ar y Cyngor yn sgil nifer o ‘ffactorau anhysbys’ yngl?n â’r broses gosod y gyllideb. Cynigiodd welliant i’r Cynnig, bod gwybodaeth yn cael ei rhoi i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cyngor am unrhyw ganlyniadau posibl yn sgil cynnydd o 5% yn nhreth y cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-2021. Cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts nad oedd yn gallu cefnogi’r gwelliant i’r Cynnig gan y Cynghorydd Peers a soniodd am waith cydweithredol cadarnhaol y Gweithgor Trawsbleidiol i ddod i ddatrysiad ar gyfer y materion a godwyd. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn awyddus i gynnig gwelliant pellach i’r Cynnig. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Chis Bithell ei fod yn credu ei bod yn gynamserol cytuno â’r Cynnig a gwelliant ar hyn o bryd. Dywedodd ei bod yn rhy fuan i osod cyfradd Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf gan nad oeddent yn gwybod beth fyddai’r Setliad a’r grant incwm i’r Cyngor gan y DU a LlC. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr ateb amlinellol i’r gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Peers oedd yn gofyn am ddarparu gwybodaeth i Aelodau ynghylch unrhyw newidiadau posibl yn sgil cynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2020-2021. Yn ystod y cyfnod hwn eglurodd bod y Cyngor yn arfer gosod canllaw ar gyfer Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Nid oedd y Cyngor yn gallu gosod ei Dreth y Cyngor yn ffurfiol nes ei fod yn gwybod ei ofynion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn dan sylw h.y. lefel cyfanswm yr incwm oedd ei angen i gwrdd â gwariant a gynlluniwyd ar ôl ystyried yn ofalus holl bwysau costau, arbedion effeithlonrwydd a gostyngiad/toriadau yn y gyllideb. Dywedodd y byddai gosod Treth y Cyngor nawr yn rhy fuan gan nad oeddent yn gwybod yn union beth oedd y gofynion cyllidebol ac nid oedd y Cyngor wedi cael gwybod yn bendant gan lywodraethau cenedlaethol beth i’w ddisgwyl o ran Setliad Llywodraeth Leol. Ailadroddodd ei bod yn gam cynamserol, ac y byddai’n gosod cyfeiriad heb yr wybodaeth angenrheidiol. 

 

Cadarnhawyd yr ymateb a roddwyd gan y Prif Weithredwr gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a dywedodd nad oedd y sefyllfa genedlaethol yn glir. Mynegwyd pryder y gallai’r Setliad gael ei ohirio oherwydd datblygiadau gwleidyddol cenedlaethol. 

 

Yn dilyn yr ymateb a’r sylwadau gan Aelodau i’w welliant eglurodd y Cynghorydd Peers nad oedd yn ceisio gosod Treth y Cyngor ar 5%. Yn hytrach, pan fyddai’r broses gyllidebol yn dechrau, a lefel y cronfeydd, gwaith y gweithgor trawsbleidiol a’r setliad dangosol yn hysbys, roedd yn holi beth fyddai’r canlyniadau posibl. Y bwriad oedd hysbysu’r Cyngor fod Aelodau’n awyddus i ddatgan mewn da bryd eu bod am weld y Cyngor yn gosod dim mwy na 5% o gynnydd yn lefel Treth y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ragolygon y gyllideb, yr opsiynau i gau'r bwlch, a’r broses Cam 1 a Cham 2 o osod y gyllideb. Ymrwymodd i barhau â’r arfer arferol ac ym mhob cam o’r broses o osod y gyllideb i ddangos a rhoi arweiniad i Aelodau ynghylch y dewisiadau a’r amrywiannau yn cynnwys Treth y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers ei fod yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weithredwr ac felly tynnodd ei welliant yn ôl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod angen i Swyddogion weithio tuag at sicrhau’r posibilrwydd o osod Treth y Cyngor  ar 5% drwy gydol y broses o osod y gyllideb yn uno â gwaith y gweithgor trawsbleidiol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts welliant pellach i’r Cynnig, sef; “Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i osod disgwyliad y bydd Treth y Cyngor yn cael ei gyfyngu i’r lefel isaf bosibl sydd ei hangen fel rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ymhellach i’r pwynt hwn, galwn ar Lywodraeth y DU i gwblhau adolygiad gwariant sy’n rhyddhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus drwy’r DU ar gyfer 2020/21 ymlaen, ac ariannu’n llawn y dyfarniadau tâl y cytunwyd yn genedlaethol arnynt a chanlyniadau adolygiadau cyfraniad cyflogwr y sector cyhoeddus at y gronfa bensiwn. Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i lywodraeth leol yng Nghymru rhag gorddibynnu ar Dreth y Cyngor wrth osod eu cyllidebau blynyddol o 2020/21.”

 

Cefnogwyd y gwelliant gan y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

Wrth siarad o blaid y gwelliant hwn, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod y broses o osod Treth y Cyngor ar gyfer 2019/20 wedi bod yn benderfyniad anodd i’r Cyngor. Fodd bynnag, roedd yn rhaid dewis rhwng codi Treth y Cyngor neu golli gwasanaethau. Soniodd am y caledi a’r tlodi a fyddai’n deillio o golli gwasanaethau mewn hamdden, addysg, a gofal cymdeithasol, fel enghreifftiau. Ailadroddodd y Cynghorydd  Roberts ei fod wedi bod yn ddewis anodd codi Treth y Cyngor ac ymddiheurodd ei fod wedi achosi caledi ond credai mai hwn oedd y penderfyniad cywir er mwyn diogelu gwasanaethau hanfodol ar gyfer trigolion Sir y Fflint.   Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb a fu’n ymwneud â gwaith y Gweithgor Trawsbleidiol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Tony Sharps na allai gefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y byddai’n gynamserol ac anghyfrifol gosod Treth y Cyngor ar hyn o bryd nes bod y broses o osod y gyllideb wedi dechrau a’r Setliad yn hysbys.

 

            Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom o blaid y Cynnig a dadleuodd fod Treth y Cyngor yn system annheg a negyddol ac na ddylid ei hystyried fel ‘cronfa wrth gefn’ i’r Cyngor ei defnyddio i gydbwyso’r gyllideb. 

 

I helpu Aelodau crynhodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) brif bwyntiau canlynol y gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts:  y byddai Treth y Cyngor yn cael ei osod mor isel â phosibl; y dylai llywodraeth y DU  gynnal adolygiad gwariant i allu gosod y terfynau ariannol ar gyfer LlC; a bod LlC yn darparu cyllid digonol rhag gorddibynnu ar Dreth y Cyngor. 

 

Soniodd y Prif Weithredwr am drydydd cyfarfod diweddar y Gweithgor Trawsbleidiol a dywedodd fod consensws cryf yn y Gr?p yngl?n â risgiau gorddibynnu ar Dreth y Cyngor  yn y broses gynllunio ariannol yn y DU a Chymru, a bod pawb wedi cytuno ar yr angen i fwydo’n ôl i’r ddwy lywodraeth fel y gofynnwyd yn y gwelliant arfaethedig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts.

 

Siaradodd y Cynghorydd Clive Carver yn erbyn y gwelliant. Dywedodd y gellid gosod cap ar Dreth y Cyngor ar hyn o bryd ar y lefel uwch o 5% a’i dynnu’n ôl yn ddiweddarach. Byddai hynny’n dangos difrifoldeb y mater i LlC.  Eglurodd y byddai hyn yn hwyluso penderfyniad y gellid ei newid yn ddiweddarach pe bai angen, oherwydd gallai gohirio’r eitem tan fis Medi achosi cymhlethdodau oherwydd y rheol chwe mis.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd yn bosibl newid y gwelliant arfaethedig gan y Cynghorydd Roberts yn hytrach na gosod Treth y Cyngor ar y lefel isaf bosibl, y gellid ei gapio ar 5%. 

 

Ni dderbyniodd y Cynghorydd Ian Roberts y newid a awgrymwyd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin â’r safbwyntiau a fynegwyd gan y  Cynghorydd Richard Jones am yr angen i osod Treth y Cyngor ar y lefel isaf bosibl. Fodd  bynnag, nid oedd o blaid y gwelliant oherwydd teimlai y gallai’r cynnig arwain at gynnydd o 8.75% neu uwch yn Nhreth y Cyngor y flwyddyn nesaf.  

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Carol Ellis mai cyfrifoldeb llywodraeth genedlaethol a LlC oedd darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau. Gofynnodd am eglurhad ynghylch lefel yr incwm oedd ei angen o Dreth y Cyngor i bontio’r bwlch ariannol yn 2020/21. Dywedodd Swyddogion fod Treth y Cyngor o 1% yn gyfystyr â thua £700k o incwm.

 

Siaradodd y Cynghorydd Glyn Banks o blaid y gwelliant. Cyfeiriodd at y gwaith cadarnhaol a wnaed yn y Gweithgor Trawsbleidiol gan bob gr?p gwleidyddol a dywedodd ei fod yn dal yn fwriad gan y Cyngor i osod Treth y Cyngor ar y lefel isaf bosibl gan ddiogelu gwasanaethau, a dyfynnodd addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn benodol. Soniodd y Cynghorydd Banks am rai o’r pwysau ar gyfer eleni a chyfeiriodd at bwysau ar wahân i ysgolion o £4.4m oedd yn cynnwys £2.1m ar gyfer dyfarniadau tâl y NJC, pwysau ysgolion o £6.5m ar gyfer dyfarniadau tâl a phensiynau athrawon, gofynion gwasanaeth oedd yn cynnwys £2.8m ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir a gwasanaethau plant, a £0.5m ar gyfer newidiadau deddfwriaethol. I grynhoi, dywedodd y Cynghorydd Banks fod y pwysau’n dod i gyfanswm o fwy na £13m.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Derek Butler nad oedd unrhyw awgrym hyd yma gan lywodraeth y DU neu LlC o’r Setliad a’i fod yn rhy fuan i osod ffigwr ar gyfer Treth y Cyngor ar hyn o bryd.

 

Soniodd y Cynghorydd Chris Bithell am y newid o ariannu cenedlaethol i drethu lleol i ariannu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol.  

 

Gan siarad o blaid y gwelliant, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge mai bwriad y Rhybudd o Gynnig gan Gr?p Annibynnol Sir y Fflint oedd anfon neges glir i lywodraeth genedlaethol a LlC na fyddai’r Awdurdod yn pontio’r bwlch ariannol trwy gynnydd o 8.75% yn Nhreth y Cyngor gan y byddai’n achosi caledi i drigolion Sir y Fflint.

 

Siaradodd y Cynghorydd Mike Peers am y gwelliant a dywedodd y gallai gosod y lefel isaf bosibl o Dreth y Cyngor, o ystyried y “ffactorau anhysbys” am incwm a gwariant, arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor oedd yn uwch na’r llynedd ac felly ni allai gefnogi’r gwelliant am y rheswm hwn. Cadarnhaodd ei fod wedi tynnu’n ôl ei welliant i’r Rhybudd o Gynnig yn sgil yr ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu mwy o wybodaeth.      

 

Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown na allai gefnogi’r gwelliant arfaethedig gan y Cynghorydd Ian Roberts gan wyddid ar ba lefel y byddai Treth y Cyngor yn cael ei gosod ac am na fyddai hynny’n ddiogel.

 

Atgoffwyd Aelodau gan y Prif Weithredwr mai cyfrifoldeb y Cabinet oedd arwain y broses gyllidebol ac mai cyfrifoldeb swyddogion oedd cynghori’r Cabinet a’r Aelodau. Cyfrifoldeb y Cyngor yn unig oedd gosod cyllideb gyfreithiol a gosod Treth y Cyngor   - fel rhan o’r broses gyllidebol. Roedd y penderfyniadau hyn yn faterion wrth gefn.

 

Cofnodwyd y bleidlais i’r gwelliant arfaethedig gan y Cynghorydd Ian Roberts.  Wrth ofyn am bleidlais wedi’i chofnodi safodd y 10 aelod angenrheidiol i gefnogi’r cynnig.

 

Crynhodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai’r gwelliant oedd bod Treth y Cyngor yn cael ei osod ar y lefel isaf bosibl; bod Llywodraeth y DU yn cwblhau’r adolygiad gwariant i hysbysu LlC; a bod LlC yn darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol rhag gor-ddibynnu ar godi incwm drwy Dreth y Cyngor. Ychwanegodd y Prif Weithredwr, wrth gyfeirio at yr adolygiad gwariant, fod y gwelliant hefyd yn gofyn i Lywodraeth y DU ariannu’n llawn y dyfarniadau tâl y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chanlyniadau adolygiadau cyfraniad cyflogwr y sector cyhoeddus at y gronfa bensiwn. 

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y gwelliant:

 

Cynghorwyr: Janet Axworthy, Glyn Banks, Haydn Bateman, Sean Bibby, Chris Bithell,  Derek Butler, Geoff Collett, David Cox, Paul Cunningham, Jean Davies, Ron Davies, Chris Dolphin, Ian Dunbar, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Colin Legg, Richard Lloyd, Hilary McGuill, Billy Mullin, Ted Palmer,  Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas, Martin White, Andy Williams, a David Wisinger

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol yn erbyn y gwelliant:

 

Cynghorwyr: Mike Allport, Bernie Attridge, Sian Braun,  Helen Brown, Clive Carver,  Bob Connah, Rob Davies, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, Veronica Gay, George Hardcastle, Patrick Heesom, Andrew Holgate, Richard Jones, Brian Lloyd, Dave Mackie,  Mike Peers, Ralph Small, Owen Thomas,  and Arnold Woolley

 

Bu i’r Cynghorydd canlynol atal ei phleidlais:  Cynghorydd Marion Bateman

 

Pasiwyd y gwelliant.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r gwelliant yn dod yn brif rybudd o gynnig os nad oedd gwelliannau pellach gan Aelodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones fod y gwelliant yn cael ei newid i gynnwys cyfeiriad at 5% fel canllaw dangosol ar gyfer gosod Treth y Cyngor. Wrth gydnabod y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai Aelodau o bosibl eisiau ystyried ail-eirio’r Rhybudd o Gynnig fel hyn: “Galwn ar Lywodraeth y DU a LlC i ariannu awdurdodau lleol i lefel lle gellid cadw’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn is na 5%”. Cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones a chafodd ei eilio.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y rhagdybiaeth yn Llyfr Gwyrdd (Cyllideb) LlC eleni am ofyniad o 6.5% o Dreth y Cyngor drwy Gymru a soniodd am waith y Gweithgor Trawsbleidiol i geisio cael mwy o benderfyniadau ar lefel Cymru.

 

Gan siarad am y gwelliant a gynigiwyd gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts na fyddai’n ddoeth ymrwymo’r Cyngor i ffigwr penodol ar gyfer gosod lefel uchaf ar gyfer y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar hyn o bryd ac ni allai gefnogi’r gwelliant.

 

Crynhodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gwelliant arfaethedig a gynigwyd gan y Cynghorydd Richard Jones and a dywedodd fod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i ariannu LlC a bod LlC yn ariannu llywodraeth leol yn briodol ar lefel sy’n golygu nad oes raid i awdurdodau lleol orddibynnu ar Dreth y Cyngor fel nad oes raid i’r Cyngor osod cynnydd uwch na 5% yn Nhreth y Cyngor.

 

Darllenodd y Cynghorydd Ian Roberts y prif rybudd o gynnig arfaethedig sef: “Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i osod disgwyliad y bydd Treth y Cyngor yn cael ei gyfyngu i’r lefel isaf bosibl sydd ei angen fel rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Galwn ar Lywodraeth y DU i gwblhau adolygiad gwariant sy’n rhyddhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus drwy’r DU ar gyfer 2020/21 ymlaen, ac ariannu’n llawn ddyfarniadau tâl y cytunwyd yn genedlaethol arnynt a chanlyniadau adolygiadau cyfraniad cyflogwr y sector cyhoeddus at y gronfa bensiwn. Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru rhag gor-ddibynnu ar Dreth y Cyngor wrth osod eu cyllidebau blynyddol o  2020/21.” 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r gwelliant arfaethedig yn ychwanegu’r geiriau canlynol at y prif rybudd o gynnig arfaethedig “a pha un bynnag bod LlC yn ariannu llywodraeth leol i lefel lle nad oes raid iddo osod cynnydd sy’n uwch na 5% yn nhreth y cyngor”. 

 

Cofnodwyd y bleidlais i’r gwelliant arfaethedig gan y Cynghorydd Richard Jones.  Wrth ofyn am bleidlais wedi’i chofnodi cefnogwyd y cynnig gan y 10 aelod angenrheidiol.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y gwelliant:

 

Cynghorwyr: Mike Allport, Bernie Attridge, Janet Axworthy, Sian Braun,  Helen Brown,  Clive Carver, Bob Connah, Rob Davies, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, Veronica Gay, George Hardcastle, Patrick Heesom, Andrew Holgate, Richard Jones, Brian Lloyd,  Dave Mackie, Hilary McGuill, Mike Peers, Ralph Small, Owen Thomas, ac Arnold Woolley

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol yn erbyn y gwelliant:

 

Cynghorwyr: Glyn Banks, Haydn Bateman, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Geoff Collett, David Cox, Paul Cunningham, Jean Davies, Ron Davies, Chris Dolphin,  Ian Dunbar, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey,  Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Richard Lloyd, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton,  Ian Smith, Carolyn Thomas, Martin White, Andy Williams, a David Wisinger.

 

Bu i’r Cynghorwyr canlynol atal eu pleidlais: 

 

Cynghorwyr Marion Bateman a Colin Legg

 

Ni phasiwyd y gwelliant.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai’r gwelliant a gynigiwyd gan y  Cynghorydd Ian Roberts oedd y prif rybudd o gynnig. 

 

Pleidleisiwyd dros y Cynnig a chafodd ei basio.

 

 

(ii)        Seiberfwlio – Cynghorydd David Healey

 

‘Mae’r Cyngor yn pryderu am effaith seiberfwlio ar iechyd meddwl pobl ifanc.

 

Mae’r Cyngor yn credu hefyd fod hon yn broblem drwy’r wlad a bod oedolion, yn ogystal â phobl ifanc yn aml yn bwlio eraill ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Mae’r Cyngor yn credu hefyd fod y rhan fwyaf o bobl ifanc, o fewn y Sir, yn gyfrifol yn y ford dy maent yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac nad ydynt yn cymryd rhan mewn seiberfwlio.

 

Mae’r Cyngor yn nodi hefyd bod holl aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Swyddogion wedi datgan, yn Siambr y Cyngor, ar 20 Mai 2019, er mwyn addo na fyddent, eu hunain, yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd sy’n difrïo unigolion eraill.

 

Mae aelodau’r Cyngor hwn yn sefyll i gymryd llw tebyg, er mwyn i Gyngor Sir y Fflint, yn gyffredinol, gael ei ystyried fel cyngor sy’n arwain y ffordd gan osod esiampl o safbwynt gweithgaredd gwarthus seiberfwlio.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar drigolion Sir y Fflint i wneud ymrwymiad tebyg o safbwynt ymwneud â chyfryngau cymdeithasol, er mwyn i ni, y chweched sir fwyaf yn y wlad, allu gweithio gyda’n gilydd i atal y cam-drin gwenwynig sy’n achosi problemau iechyd meddwl i eraill, yn hen ac ifanc.

 

Mae’r Cyngor yn gofyn i Swyddogion lunio adroddiad priodol i bwyllgorau er mwyn gallu cynnwys y disgwyliad hwn mewn arfer yn y dyfodol o fewn y Cyngor.’

 

Eiliwyd y Rhybudd o Gynnig.

 

Gan siarad o blaid y Cynnig, dywedodd y Cynghorydd David Healey, fod seiberfwlio’n destun pryder mawr. Cyfeiriodd at gyfarfod diweddar o Bwyllgor Craffu Addysg ac Ieuenctid oedd wedi ystyried adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth am arolwg a gynhaliwyd drwy ysgolion Sir y Fflint. Yn yr adroddiad roedd gwybodaeth fod tua 25% o fyfyrwyr wedi dioddef o seiberfwlio. Soniodd am yr angen i osod esiampl i bobl ifanc a dywedodd fod pob aelod o Bwyllgor Craffu Addysg ac Ieuenctid wedi addo na fyddent yn ymwneud â defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd sy’n difrïo unigolion eraill. Soniodd am y cynnydd mewn problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc mewn ysgolion a dywedodd fod bwlio ar-lein yn ffactor oedd yn cyfrannu at hyn.

 

I gloi, awgrymodd y Cynghorydd Healey y gallai Aelodau a Swyddogion wneud safiad tebyg i’r un a wnaed gan aelodau’r Pwyllgor Addysg ac Ieuenctid yn erbyn problem seiberfwlio. Hefyd gwnaeth gais i ofyn i Gynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint, mannau gwaith, a’r wasg leol, ymuno â’r ymgyrch i sicrhau newid diwylliannol mewn ymddygiad.        

 

Rhoddodd y Cynghorydd Billy Mullin yr ymateb canlynol gan y Cyngor:  ‘Fel Cyngor rydym yn derbyn ar adegau y bydd gan bobl wahanol safbwyntiau a’r hawl i ryddid barn. Ni ddylai hynny gynnwys ymddygiad ymosodol neu sarhaus, y defnydd o iaith fudr, neu aflonyddu o unrhyw fath. Trwy barhau i ddatblygu ein polisi seiberfwlio bydd y Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i arwain drwy esiampl a gwahodd ac annog eraill i wneud yn yr un modd. Gofynnwch i’r holl Gynghorwyr a Swyddogion osod y safonau ymddygiad uchaf bob amser.’

 

Siaradodd y Cynghorydd Owen Thomas o blaid y Cynnig a dywedodd fod angen stopio unrhyw fath o fwlio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod seiberfwlio’n digwydd 24 awr y dydd. Roedd yn cefnogi’r safiad yn erbyn seiberfwlio ond dywedodd fod angen disgrifio sut mae’r Cyngor yn cefnogi camau yn ei erbyn. Mewn ymateb cyfeiriodd y Prif Swyddog at baragraff olaf y Rhybudd o Gynnig oedd yn datgan bod y ‘Cyngor yn gofyn i Swyddogion lunio adroddiad i Bwyllgorau er mwyn gallu cynnwys y disgwyliad hwn mewn arfer yn y dyfodol o fewn y Cyngor’ a dywedodd ei fod yn disgwyl i'r adroddiad ddiffinio beth fyddai’r Cyngor yn ei wneud yn ymarferol i roi terfyn ar fwlio.   

 

Soniodd y Prif Weithredwr am y camau cadarnhaol a gymerwyd gan y Cyngor, o fewn ei bwerau, i ddiogelu pobl ifanc mewn addysg a gofal yn erbyn bwlio a dywedodd y gellid darparu gwybodaeth fanwl mewn adroddiad i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac Adnoddau Corfforaethol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers ei fod yn cefnogi’r Cynnig a gofynnodd a ellid rhannu’r wybodaeth yn yr adroddiad gyda phob ysgol yn Sir y Fflint.

 

Soniodd y Cynghorydd Clive Carver fod bwlio hefyd yn digwydd yn erbyn oedolion yn ogystal â phobl ifanc. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod bwlio o unrhyw fath yn warthus ac y dylai Aelodau arwain drwy esiampl.

 

Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd, cefnogodd pob Aelod a Swyddog y Rhybudd o Gynnig gan addo na fyddent yn bwlio nac yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd sy’n difrïo unigolion eraill. 

 

Pasiwyd y Cynnig.

 

(iii)       Codi Ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Merched a Cham-drin yn y Cartref – Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

Gan fod y Cynghorydd Andy Dunbobbin wedi gadael y cyfarfod ac yn methu â chynnig y Rhybudd o Gynnig cytunwyd i’w ohirio tan y cyfarfod nesaf. Soniodd y Prif Weithredwr am y gwaith parhaus yn y Cyngor yngl?n â chodi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched a cham-drin yn y cartref.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts ar gyfyngu cynnydd mewn Treth y Cyngor yn cael ei gefnogi;

 

(b)       Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd David Healey ar Seiberfwlio yn cael ei gefnogi: a

 

(c)       Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ar Godi Ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Merched a Cham-drin yn y Cartref, yn cael ei ohirio

 

 

Dogfennau ategol: