Agenda item

Adroddiadau o Ymweliadau Aelodau Annibynnol a Chynghorau Tref/Cymuned

Pwrpas:        I dderbyn adroddiadau ar lafar gan aelodau annibynnol y Pwyllgor are u hymweliadau a’r cynghorau canlynol:

 

·                     Cyngor Cymuned Northop (Phillipa Earlam – 14.01.19);

·                     Cyngor Tred Buckley (Phillipa Earlam – 26.02.19); and

·                     Cyngor Cymuned Bagillt (Phillipa Earlam – 13.03.19).

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Darparodd Mrs Phillipa Earlam adroddiadau llafar ar ei hymweliadau â'r cynghorau canlynol:

 

·         Cyngor Cymuned Llaneurgain (14.01.19)

·         Cyngor Tref Bwcle (26.02.19)

·         Cyngor Cymuned Bagillt (13.03.19) 

 

Cyngor Cymuned Llaneurgain

 

Wrth adrodd ar ei hymweliad â Chyngor Cymuned Llaneurgain, dywedodd yr Aelod Annibynnol fod y cyfarfod wedi’i gynnal a’i gadeirio’n dda ac ystyriwyd amrywiaeth o bynciau. Roedd swyddog Strydlun wedi bod yn bresennol yn ystod y cyfarfod ac roedd ei gyfraniad wedi bod yn werthfawr. Roedd y wefan o safon dda ac roedd agendâu a chofnodion cyfarfodydd ar gael ar-lein. Yn deillio o fater a ystyriwyd, cynhaliwyd trafodaeth ar sut i gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn materion cymunedol. 

 

Roedd pwynt o adborth i'r Pwyllgor yn ymwneud â rôl a chyfrifoldebau cynyddol Clercod i Gynghorau Tref a Chymuned a'r anawsterau a wynebir gan Gynghorau ynghylch recriwtio a chadw Clercod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Arnold Woolley a oedd cymhwyster ar gael ar gyfer rôl Clerc Cynghorau Tref / Cymuned. Dywedodd y Swyddog Monitro fod cymhwyster ar gael ond mater i bob Cyngor Tref / Cymuned oedd nodi a oeddent yn dymuno iddo fod yn faen prawf hanfodol ar gyfer y swydd. 

 

Gan gyfeirio at fater recriwtio a chadw Clercod, cafwyd trafodaeth o ran Cynghorau Tref / Cymuned yn ystyried cyflogi yr un Clerc ar y cyd. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at enghraifft o ble roedd dau Gyngor Cymuned yn cyflogi Clerc ar y cyd ac yn gweithio gyda'i gilydd i rannu cost recriwtio, hyfforddi a datblygu'r Clerc. Cynigiodd y Cadeirydd y dylid codi'r awgrym naill ai gyda Chynghorau Tref / Cymuned neu'r Fforwm Safonau fel ateb posibl i'r mater.

 

Cyngor Tref Bwcle

 

Adroddodd yr Aelod Annibynnol ar ei hymweliad â Chyngor Tref Bwcle. Dywedodd fod cynllun eistedd gydag enwau wedi'i ddarparu a oedd wedi bod yn ddefnyddiol. Nid oedd wedi cael unrhyw anhawster i gysylltu â swyddfa'r Clerc na chanfod lleoliad y cyfarfod a gwnaeth sylwadau ar safon uchel y pecyn agenda a ddarparwyd a dywedodd fod y cyfarfod wedi'i gynnal yn dda. Cyfeiriodd at wefan y Cyngor a nododd fod gwaith ailwampio’n cael ei wneud ar y pryd ac er bod gwybodaeth ar gael, roedd arwyddion clir at beth gwybodaeth ond dim ar gyfer gwybodaeth arall.  

 

Gwnaeth yr Aelod Annibynnol sylwadau ar yr amrywiaeth rhwng gwefannau Cyngor Tref / Cymuned unigol a gofynnodd a ellid darparu arweiniad i'w cynorthwyo i gynhyrchu cynllun model er hwylustod i ddod o hyd i wybodaeth sylfaenol am gyfarfodydd ac agendâu, cofnodion, ac ati. Cafwyd trafodaeth o gwmpas yr angen i bob Cyngor gytuno i gynllun model a'r sgiliau a'r amser sy'n ofynnol gan Glercod i ddiweddaru gwefannau i'r safon ofynnol. Cytunwyd y dylai pob Cyngor gyflawni'r safon ofynnol i ddarparu gwybodaeth am ddyddiad, amser, lleoliad, agenda a chofnodion cyfarfodydd. Cydnabuwyd y byddai pob Cyngor yn cadw ei unigolrwydd o ran dylunio a chynnwys gwybodaeth gymunedol bellach.  

 

Cyngor Cymuned Bagillt

 

Rhoddodd yr Aelod Annibynnol adborth ar ei hymweliad â Chyngor Cymuned Bagillt. Dywedodd fod y cyfarfod wedi cael ei gadeirio a'i glercio yn dda a bod aelodau'r cyhoedd wedi bod yn bresennol yn ystod y cyfarfod. Dywedodd fod y wefan yn cael ei hadolygu a nododd ei bod wedi cael peth anhawster i gael cysylltiad a lleoli cofnodion ac ati.

 

Diolchwyd i'r aelod Annibynnol am ei hadborth cynhwysfawr.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd gan y Cynghorydd Arnold Woolley ynghylch yr angen i wybodaeth gael ei darparu yn y Gymraeg, dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor Sir yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a dywedodd y byddai'n gwneud ymholiadau ynghylch a ellid darparu gwasanaeth ar gyfer Cynghorau Tref / Cymuned.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiadau llafar a rhoi adborth i Gynghorau Tref a Chymuned.