Agenda item

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.  Dyma oedd y camau a gymerwyd:

 

Addysg ac Ieuenctid

  • Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop - TRAC 11-24.  Cefnogi pobl ifanc 11-24 sy'n ymddieithrio o fyd addysg, ac sydd yn wynebu'r mwyaf o risg o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Pwrpas y cyllid a ddarperir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a elwir yn TRAC 11-24, yw cefnogi datblygiad gweithlu ystwyth a gwydn a chanddo'r sgiliau priodol. Mae hyn yn gyson â gofynion y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.  Bydd y rhaglen yn darparu cymorth penodol wedi'i gynllunio'n arbennig i bobl ifanc sydd mewn perygl o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), oherwydd heriau a allai achosi iddynt ymddieithrio o ddarpariaeth addysg brif ffrwd.  Mae'r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i Gyngor Sir y Fflint dderbyn y cyllid grant hwn fel bo modd cynnig darpariaeth wedi'i chynllunio'n arbennig i ddysgwyr sy'n agored i niwed, er mwyn iddynt allu derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i barhau mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, a gwella eu cyfleoedd bywyd.

 

Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn) (Traffig Un Ffordd) 20-

Hysbysu'r Aelodau am sylwadau a gafwyd yn gwrthwynebu'r hysbyseb ynghylch y Gorchymyn Rheoli Traffig Un Ffordd ar Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Carmel, Pentref Gorsedd a Phant y Waco a ffyrdd cyfagos) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am sylw a gafwyd yn gwrthwynebu'r terfyn cyflymder 30mya arfaethedig ar Ffordd Carmel, Pentref Gorsedd a Phant y Waco.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Cymau, Abermorddu) (Terfyn Cyflymder 30mya a 40mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am sylw a gafwyd yn gwrthwynebu'r hysbyseb ynghylch y terfynau cyflymder 30mya a 40mya arfaethedig ar Ffordd Cymau, Abermorddu.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Ddienw, Lonydd Dienw Amrywiol a Threm y Foel, Rhes y Cae, Treffynnon) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r terfyn cyflymder arfaethedig o 30mya ar ffyrdd dienw, lonydd dienw a Threm y Foel, Rhes y Cae, Treffynnon.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd yr Orsaf, Sandycroft) (Terfyn Cyflymder 40mya) 201x

Hysbysu'r Aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 40mya ar Ffordd yr Orsaf, Sandycroft.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Yr A5026 a'r A5151 ac Ystâd y Goron, Lloc, Treffynnon) (Terfyn Cyflymder 50mya) 201-

Hysbysu'r aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 50mya arfaethedig ar yr A5026 a'r A5151 ac ar Ystâd y Goron, Lloc.

 

Tai ac Asedau

  • Gordaliad Budd-dal Tai - Dileu Dyled

Adroddodd y cwsmer fod ei hamgylchiadau wedi newid yn 2014, ddwywaith mewn ysgrifen ac unwaith dros y ffôn.  Ni chafodd y swm o fudd-dal tai ei ddiwygio i adlewyrchu'r newid hyd 2019.  Gan mai gwall ar ran yr Awdurdod Lleol a arweiniodd at y gordaliad, a chan na fyddai disgwyl yn rhesymol i'r cwsmer wybod am y gordaliad, mae'r gordaliad yn anadferadwy yn unol â'r Rheoliadau Budd-dal Tai.

 

Llywodraethu

  • Gwasanaethau Darparydd Datrysiadau Trwyddedu Microsoft

            Dyma gontract ar gyfer cyflenwr i ddarparu Trwyddedau Microsoft, gan       gynnwys cyngor ac arweiniad er mwyn sicrhau bod gan yr Awdurdod y            trwyddedau cywir, a'r trwyddedau gorau. Caffaelwyd y darparydd     gwreiddiol drwy fini-gystadleuaeth drwy lot 2 o Gytundeb Fframwaith y             Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Cynnyrch a Gwasanaethau             TGCh.  3 blynedd oedd hyd y contract gwreiddiol.  Ym mis Mawrth 2019,    bydd angen i Sir y Fflint lofnodi contract 3 blynedd newydd gyda Microsoft, a fydd yn galluogi'r Cyngor i barhau i ddefnyddio cynnyrch          Microsoft.  Os nad yw'r Cyngor yn llofnodi ym mis Mawrth, bydd y             trwyddedau yn costio £70,000 yn ychwanegol dros gyfnod o dair     blynedd.

Dogfennau ategol: