Agenda item

YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG

Pwrpas:        Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.

Cofnodion:

                        Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Gwasanaeth Refeniw

  • Ardrethi Busnes - Cais am Ostyngiad Caledi ar Dreth

Mae Adran 49 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi’r disgresiwn i’r Cyngor i leihau neu ddileu taliadau ardrethi pan ei fod yn fodlon y byddai'r trethdalwr yn wynebu caledi pe na bai'n gwneud hynny a'i bod yn rhesymol iddo wneud hynny gan ystyried buddiannau ei dalwyr treth y cyngor Mae cais a dderbyniwyd gan drethdalwr yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi ei wrthod ar y sail nad yw’n cael ei ystyried ei fod er budd ehangach y cyhoedd i gefnogi dyfarnu Gostyngiad Caledi ar Dreth.

 

  • Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi y dylid ystyried diddymu dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y cais hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Roedd y Gorchymyn yn cynnwys ôl-ddyledion rhent o £5,992.96 na fyddai modd eu hadennill bellach.

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint  (Linderick Avenue, Southfields Close, Muirfield Road a Selsdon Close, Bwcle (Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio) (Gorfodi Sifil a Chyfuno) (Diwygiad Rhif 12) 201.

Hysbyswyd yr Aelodau am y gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r gorchymyn arfaethedig, Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio, Diwygiad Rhif 12, ar Linderick Avenue, Southfields Close, Muirfield Road a Selsdon Close, Bwcle.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint A549 Brunswick Road, B5128 Church Road, Knowle Lane, Oak Tree Close, Mountain Close, Lôn Butterly, Pemba Drive, Victoria Road, Duke’s Field Drive,  Linthorpe Road, B5127 Mill Lane a Hawkesbury Road, Bwcle. Cynnig i Gyfyngu ar Aros a Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngiad ar Aros.

Hysbyswyd yr Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu’r gorchymyn arfaethedig, Gwaharddiad a Chyfyngiad Aros a Mannau Llwytho a Pharcio, Diwygiad Rhif 12, ar Linderick Avenue, Southfields Close, Muirfield Road a Selsdon Close, Bwcle.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Broughton Hall Road, Ffordd yr Eglwys, Llys Cadnant a Ffordd Cledwen, Brychdyn) (Parth Terfyn Cyflymder 20mya) 20-

Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu'r Parth Terfyn Cyflymder 20mya ar Broughton Hall Road, Ffordd yr Eglwys, Llys Cadnant a Ffordd Cledwen, Brychdyn.

 

  • Adeiladu Twmpathau Sinwsoidaidd a Thwmpathau gyda Phen Gwastad ar Broughton Hall Road a Ffordd yr Eglwys, Brychdyn

Rhoi gwybod i Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu am y bwriad i adeiladu twmpathau sinwsoidaidd a twmpathau gyda phen gwastad ar Broughton Hall Road a Ffordd yr Eglwys, Brychdyn.

 

  • Gwerthu neu Arwerthu Bysiau Optare

Nid oes bellach angen am saith o hen fysiau gwennol Glannau Dyfrdwy a dau fws a arferai gael eu gweithredu gan GHA Coaches, ar ôl derbyn cyllid cyfalaf gan LlC i ddisodli’r bysiau gyda cherbydau mwy effeithlon o ran ynni.

 

Bydd y saith hen fws gwennol Glannau Dyfrdwy yn cael eu hanfon i arwerthiant gyda Wilsons of Queensferry, lle yr ystyrir y byddant yn sicrhau gwell pris gwerthu o’i gymharu â’r arwerthwr a ddefnyddiwyd yn flaenorol, ac mae hyn yn cadw’r gwerthiant o fewn ardal Sir y Fflint. Cafodd y ddau gerbyd yr arferai GHA eu gweithredu eu tynnu o’r arwerthiant blaenorol gan yr ystyriwyd fod y cynigion yn rhy isel. Ers hynny, maent wedi cael eu hadnewyddu gan weithredwr lleol (P&O Lloyd) gyda’r bwriad o geisio eu hailwerthu, fodd bynnag mae P&O Lloyd bellach wedi cynnig prynu’r bysiau am werthoedd uwch na’r cynigion uchafswm yn yr arwerthiant blaenorol.

 

Mae’r ddau opsiwn yma’n ceisio sicrhau’r gwerth am arian mwyaf posibl ac yn cadw at egwyddorion Gwerth Gorau ac er lles gorau’r Awdurdod Lleol, yn arbennig o ystyried bod y cerbydau hyn wedi teithio milltiroedd mawr ac yn nesáu at ddiwedd eu hoes gweithredol.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Wepre Lane, Cei Connah) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201-

Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu’r Terfyn Cyflymder 30mya arfaethedig ar Wepre Lane, Cei Connah.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Old Warren, BrychdynCei Connah) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201-

Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu’r Terfyn Cyflymder 30mya arfaethedig ar Old Warren, Brychdyn.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (A5104 Ffordd Caer, B5125 Ffordd Caer, Brychdyn) (Ffordd Gyfyngedig, Cyfyngiad Cyflymder 30mya, 40mya a 50mya) 201-

Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu’r Terfyn Cyflymder 30mya, 40mya a 50mya arfaethedig ar yr A5104 Ffordd Caer, B5125 Ffordd Caer, Brychdyn.

 

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffyrdd Amrywiol, Cei Connah a Llaneurgain) (Terfyn Cyflymder 40mya a 50mya) 201-

Rhoi gwybod i Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu’r Terfyn Cyflymder 40mya arfaethedig ar y B5126 Mold Road, Cei Connah.

 

Tai ac Asedau

  • Trosglwyddo 5 Eiddo (Plot rhif 9-11 ac 19 ac 20 yn Kinnerton, Kinnerton Lane a Higher Kinnerton

Cyfamod Elan Homes i drosglwyddo eiddo am £1.00 yr un i’r Cyngor neu i gwmni ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, lle bo unrhyw gwmni o’r fath wedi cytuno â’r Cyngor i ddefnyddio’r Anheddau Fforddiadwy fel Tai Fforddiadwy.

Dogfennau ategol: