Agenda item

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i dderbyn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol 2019/20 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn pennu cyfraddau tâl i aelodau etholedig a chyfetholedig Awdurdodau Lleol Cymru am y  flwyddyn ariannol nesaf. Ystyriwyd y cynigion drafft ar 20 Tachwedd 2018 pan oedd Aelodau wedi gwrthwynebu’r cynnydd arfaethedig gan nad oedd modd eu cyfiawnhau.

 

Atgoffwyd Aelodau o’r rhwymedigaeth i weithredu penderfyniadau’r Panel (fel y nodir yn yr adroddiad) oni bai eu bod yn dewis ysgrifennu’n annibynnol neu’n wirfoddol ar y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i fynd heb yr holl daliad, neu ran ohono. Byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym Mehefin, unwaith fod yr holl apwyntiadau i swyddi cyflog uwch wedi eu gwneud yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Ian Dunbar.

 

Holodd y Cynghorydd Richard Jones am y posibilrwydd fod pob Aelod yn pleidleisio i fynd heb y cynnydd a dywedwyd y dylai sylwadau o’r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig (mewn llythyr neu drwy e-bost) gan Aelodau unigol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei bod yn anffodus bod amseriad yr adroddiad yn digwydd yr un pryd â gosod Treth y Cyngor ac nad oedd yr un lefel o graffu’n berthnasol i apwyntiadau i gyrff cyhoeddus eraill drwy Gymru. Wrth ailadrodd y sylwadau a fynegwyd yng nghyfarfod Tachwedd, dywedodd na fyddai’n derbyn y cynnydd arfaethedig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn  i’r Cyngor Sir ac y gellid ystyried sut mae hyn yn digwydd yn y dyfodol, o ystyried bod yr holl wybodaeth wedi’i chyhoeddi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar, dywedodd y Prif Weithredwr gan fod y Cyngor yn gwbl gyfrifol am dalu lwfansau, y byddai unrhyw benderfyniad gan Aelodau i wrthod eu cynnydd yn lleihau’r pwysau penodol hwn ar y gyllideb. Neu, efallai bydd Aelodau eisiau trosglwyddo’r cynnydd i drydydd parti os oeddent yn dymuno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carol Ellis ddiwygiad fod Aelodau’n pleidleisio p’un ai i dderbyn y cynnydd cyn ysgrifennu at y swyddog penodol, er mwyn lleihau’r pwysau ar y gyllideb. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

I helpu’r drafodaeth, dywedodd y Prif Weithredwr mai dim ond awgrym oedd y bleidlais ond mynegodd bryder y gallai hyn roi pwysau ar Aelodau wrth ystyried eu hamgylchiadau unigol.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Ellis ei bod yn awyddus i’w diwygiad sefyll.

 

Ar ôl clywed cyngor y swyddog, penderfynodd y Cynghorydd Jones beidio ag eilio’r diwygiad fel yr oedd wedi’i gynnig yn flaenorol.

 

O ganlyniad eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Helen Brown.

 

Siaradodd y Cynghorydd Neville Phillips yn erbyn y diwygiad ar sail cyngor y swyddog.

 

Tra bod y Cynghorydd Mike Peers yn deall y rhesymeg y tu ôl i’r diwygiad, roedd yn cytuno â chyngor y swyddog na ddylai Aelodau bleidleisio ond yn hytrach wneud eu penderfyniad eu hunain p’un ai i beidio â derbyn y cynnydd ai peidio.

 

Ar ôl cynnig ac eilio, crynhodd y Prif Weithredwr y diwygiad fel trydydd argymhelliad y cytunwyd arno gan y Cynghorydd Ellis fel a ganlyn: Bod y Cyngor Sir yn gwahodd pob Aelod i fynd heb y cynnydd blynyddol mewn cyflog/lwfans ar sail wirfoddol.

 

Pleidleisiwyd, ond gwrthodwyd y cynnig.

 

Pleidleisiwyd ar y prif cynnig, fel y cynigiwyd ac eiliwyd yn flaenorol, ac fe’i pasiwyd.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod angen anfon hysbysiad ysgrifenedig i fynd heb yr holl daliad, neu ran ohono at y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd erbyn 8 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r penderfyniadau y mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi’u gwneud ar gyflogau Aelodau ar gyfer 2019/20; a

 

(b)       Bod y Cyngor Sir yn nodi y bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i gyfarfod Mehefin, unwaith y bydd yr holl apwyntiadau i swyddi cyflog uwch wedi’u gwneud yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 7 Mai 2019.

Dogfennau ategol: