Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: daeth dau i law erbyn y dyddiad cau.

 

Y Cyng David Healey - Diwygio system Treth y Cyngor

 

Y Cyng Bernie Attridge - ymgyrch cenedlaethol Deddf Lucy

Cofnodion:

Derbyniwyd Dau Rybudd o Gynnig:

 

(i)         Diwygio system Treth y Cyngor - Cynghorydd David Healey

 

‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog Llywodraeth Cymru (LlC) i fanteisio ar y cyfle yn sgil dirprwyo pwerau newydd i ddiwygio system Treth y Cyngor yn radical er mwyn gallu defnyddio system decach a chynyddol i godi refeniw ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.’

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

I gefnogi ei Gynnig, dywedodd y Cynghorydd Healey nad oedd y system bresennol yn ystyried incwm y cartref, ei fod yn rhannu cymunedau ac mai dyma’r prif reswm am ddiffyg cysylltiad rhwng trigolion a chynghorau lleol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod LlC am i gynghorau gynyddu Treth y Cyngor o 6.5% heb hyd yn oed ystyried eu gofynion unigol yn golygu bod baich caledi’n cael ei drosglwyddo i drigolion. Tra bod adroddiad diweddar gan LlC ar Bolisi Treth y Cyngor yn cydnabod y posibilrwydd o ddiwygio, nid oedd yn cydnabod annhegwch y system bresennol a’r angen i weinyddu system dreth y cyngor genedlaethol y gellid ei darparu ar lefel leol.

 

Fel Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid, croesawodd y Cynghorydd Aaron Shotton y Cynnig hwn i ganfod system decach a chynyddol i drigolion drwy Gymru. Byddai’r apêl am ddiwygio treth leol yng Nghymru’n cyd-fynd â sylwadau ar gadw trethu busnes i gefnogi gwasanaethau lleol. Cyfeiriodd at y drafodaeth ar y gyllideb yn y cyfarfod blaenorol a’r sefyllfa o ran cyllid cenedlaethol oedd wedi arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod system Treth y Cyngor yn arbennig o annheg i’r genhedlaeth iau, nifer ohonynt heb eu cartrefi eu hunain. Os byddai’r Cyngor yn cytuno, roedd yn cynnig ysgrifennu llythyr ffurfiol at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a gweithgor LlC ar ddiwygio llywodraeth leol i ofyn iddynt ystyried y Cynnig.

 

Siaradodd nifer o Aelodau o blaid y cynnig, er enghraifft y Cynghorydd Peers a ddywedodd fod Gweinidog LlC eisoes yn ymwybodol fod y system wedi’i thorri a bod yr effaith yn wahanol rhwng Gogledd a De Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell fod trigolion drwy Gymru’n cael eu heffeithio i’r un graddau a dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin ei bod yn hen bryd diwygio. Tra pwysleisiodd y Cynghorydd Gladys Healey nad oedd y system bresennol yn cyfrannu at egwyddorion treth LlC ei hun, lleisiodd y Cynghorydd Carver bryderon y gallai system wahanol fod hyd yn oed yn waeth a dywedodd y Cynghorydd Heesom y dylid defnyddio Treth y Cyngor i ddelio â’r problemau â’r fformiwla cyllido. Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis y dylid cyfeirio at yr anghysondeb rhwng bandiau eiddo  yn y llythyr arfaethedig a galwodd y Cynghorydd Tudor Jones ar y Cyngor i ymhelaethu ar y Cynnig i gael ateb tecach drwy Gymru.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan rai Aelodau yngl?n â’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2019/20, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai’r diwygiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi golygu bod gwasanaethau’r Cyngor mewn perygl ac mai’r broblem oedd bod Llywodraeth y DU yn torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Richard Jones y Cynnig a chytunodd mai’r broblem wirioneddol oedd y fformiwla cyllido ond roedd yn amau a fyddai LlC yn gweithredu. Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin fod LlC yn camreoli arian.

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd, dywedodd y Prif Weithredwr fod LlC yn un o’r cyrff statudol oedd yn gorfod cydweithio i gyflawni amcanion Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol 2015.  Dywedodd y byddai’r Cynnig yn adeiladu ar sylwadau swyddogol y Cyngor dros y tair blynedd ddiwethaf ar yr arian annigonol a roddwyd i Lywodraeth Leol yng Nghymru a’r fformiwla cyllido y pen oedd yn cael effaith negyddol ar Sir y Fflint a Chyngor eraill drwy Gymru. Dywedodd fod dyletswydd ar y Cyngor i ymateb i Julie James AC, Gweinidog Lywodraeth Leol, yn dilyn ymweliad dirprwyo trawsbleidiol, ac y dylai’r gwaith oedd yn cael ei wneud gan y gweithgor trawsbleidiol gynnwys y Cynnig dros yr achos ariannu’n llawn.

 

Croesawodd Cynghorydd Healey y cynnig gan y Cynghorydd Shotton.  Cyfeiriodd at y bwlch a ragwelid yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf er gwaethaf yr arbedion effeithlonrwydd a sicrhawyd a dywedodd na allai’r Cyngor wneud mwy ac y dylai roi adborth i LlC ar y fformiwla cyllido.

 

Pleidleisiwyd ar y Cynnig fel y’i diwygiwyd, ac fe’i pasiwyd. Cadarnhawyd y byddai copi o’r llythyr yn cael ei rannu â phob Aelod ac y byddai Arweinyddion Grwpiau’n cyfarfod yn fuan i gytuno ar Gylch Gorchwyl ar gyfer y gweithgor trawsbleidiol fel y cam ymgysylltu nesaf â LlC .

 

(ii)          Ymgyrch Genedlaethol Deddf Lucy - Cynghorydd Bernie Attridge

 

‘Mae’r Cyngor hwn yn cefnogi Ymgyrch Genedlaethol Deddf Lucy i wahardd gwerthu c?n bach gan drydydd parti, a gofynnir i’r Cyngor ychwanegu ei enw at y rhestr gynyddol o sefydliadau. Bydd yn mynd ati’n rhagweithiol i dynnu sylw at yr ymgyrch i’n trigolion drwy’r Sir.

 

Mae mynd â ch?n bach oddi wrth eu mam yn aml yn creu c?n sâl, llawn trawma a chamweithredol. Dylai c?n bach gael eu gweld gyda’u mam yn y man lle ganwyd nhw. Mae eu cludo i le gwahanol i’w gwerthu’n gwneud niwed i’w lles.

 

Mae’r arfer o fridio c?n a gedwir mewn ffermydd c?n bach yn cael ei gadw allan o olwg y cyhoedd ac yn aml mae’r c?n yn dioddef o flynyddoedd o drawma corfforol a seicolegol. Mae rheoleiddio’r arfer o werthu c?n bach yn fasnachol gan drydydd partio’n aneffeithiol i atal niwed i g?n ac felly mae’n rhaid cael gwaharddiad ar werthu c?n bach gan drydydd parti er lles c?n sy’n bridio.

 

Mae ffermio c?n bach yn effeithio ar drigolion Sir y Fflint gyda’r gost a’r trallod emosiynol o brynu ci bach y gallai fod angen triniaeth gostus arno gan y milfeddyg neu a allai beidio â goroesi.

 

Bydd gwahardd trydydd parti rhag gwerthu c?n bach yn cael effaith gadarnhaol ar fridio c?n, gan sicrhau eu bod yn weladwy ac y gall y cyhoedd weithredu ar gyngor arfer gorau i weld y ci bach gyda’r fam lle ganed y ci bach.

 

Hefyd bydd yr Arweinydd yn ysgrifennu i gefnogi’r ymgyrch at y Prif Weinidog a Phrif Weinidog y DU gan dynnu sylw at gefnogaeth Sir y Fflint i gyflwyno’r ddeddf yng Nghymru a Lloegr.’

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin a ddywedodd er na fyddai gwaharddiad o’r fath yn cael gwared yn llwyr ar ffermio c?n bach, roedd yn strategaeth effeithiol i leihau graddfa’r broblem.

 

Gan gefnogi’r Cynnig, dywedodd y Cynghorydd Colin Legg fod nifer o fridwyr c?n dibynadwy a chyfrifol iawn hefyd.

 

Pleidleisiwyd ar y Cynnig ac fe’i pasiwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd David Healey ar ddiwygio’r system Treth y Cyngor, a hefyd bod llythyr ffurfiol yn cael ei ysgrifennu i Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlLC)  a gweithgor Llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol; a

 

(b)       Chefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan Gynghorydd Attridge ar ddeddf Ddeddf Lucy.

Dogfennau ategol: