Agenda item

Diweddariad Llywodraethu

I ddarparu’r diweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu ac i gytuno ar yr ymateb i ymgynghoriad MHCLG ar y Fargen Degcryfhau amddiffyniad pensiwn.

Cofnodion:

Cadarnhaodd Mr Latham eu bod yn symud ymlaen ar eitem 1.01 a bod cyfweliadau ar gyfer Cyfrifydd a Swyddog Cefnogi Llywodraethu yn cael eu cynnal fory, byddant yn cael eu hysbysebu drwy’r swydd raddedig yn fuan. Dywedodd Mr Everett eu bod wedi bod yn gweithio’n galed ar y swyddi a’r broses o ail-drefnu staff.

 

Amlygodd Mr Latham dudalen 117 a’r gwaith mae Bwrdd Cynghori’r Cynllun yn ei wneud a’i bwysigrwydd gan ei fod yn effeithio ar y Gronfa.

 

Rhoddodd Mr Middleman ddiweddariad ar y Fargen Deg, gan amlygu y bu ymgynghoriad a bod ymateb drafft yn y papurau er mwyn cytuno arno mewn egwyddor.  Rhoddodd Mr Middleman drosolwg o gefndir y Fargen Deg, gan nodi ei bod yn ymwneud â gwarchod hawliau gweithwyr sy’n cael eu tynnu o'r sector cyhoeddus at gyflogwr sector preifat. Ar hyn o bryd maent yn aros yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’n newid i gynllun sy’n cynnig buddion sy’n “weddol gymharol" i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol fel y tystiwyd gan actiwari. O dan y Fargen Deg newydd bydd y llwybr gweddol gymharol yn diflannu. 

 

Mae’r cwestiynau a ofynnwyd ac a atebwyd wedi eu nodi o dudalen 134. Mae'r ail gwestiwn yn trafod y diffiniad o gyflogwr Bargen Deg, sef yr holl gyrff cyhoeddus ar wahân i gyflogwyr addysg bellach ac addysg uwch. Mewn ymateb, mae’r Gronfa wedi gwneud sylw bod hyn yn ymddangos yn rhesymol ond bod anghysondeb posib sydd angen ei gadarnhau os taw hyn yw’r bwriad.

 

Mae Cwestiwn 3 yn ymwneud â threfniadau pontio, er enghraifft beth sy’n digwydd i’r rheiny sydd mewn cynllun gweddol gymharol pan fydd y contract yn dod i ben. Bydd eu pensiwn a’u hawliau yn cael eu trosglwyddo’n orfodol yn ôl i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sydd yn cynyddu risgiau a chostau posib i gyflogwyr gan y byddant yn cael eu trosglwyddo trosodd ar sail unigol, a all fod yn hael i unigolion oherwydd y rhagdybiaethau a ddefnyddir o'i gymharu â'r trosglwyddiad a gynigir. Yn flaenorol, byddent yn cael eu trosglwyddo “gyda’i gilydd” mewn dull a fyddai fel arfer yn gwarchod y cyflogwr ond yn rhoi canlyniad teg i’r aelodau hefyd. Dywedodd Mr Middleman nad oedd llawer o gynlluniau gweddol gymharol felly yn gyffredinol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gallai fod yn rhywbeth y gellid ei ddioddef er mwyn ei wneud yn syml i’w weithredu.

 

Dywedodd Mr Middleman bod elfen allweddol yr ymgynghoriad ar dudalen 136, sy'n trafod cyflwyno “statws cyflogwr tybiedig”. Pe bai’r Cyngor yn rhoi gwasanaethau ar gontractau allanol, yna gallai’r Cyngor fod yn “gyflogwr tybiedig” ac ni fyddai angen cytundeb derbyn na bond ar y cyflogwr allanol.

 

Tra byddai’r llwybr corff derbyniedig yn dal i fod ar gael, byddai hyn yn symleiddio’r broses yn yr achosion lle mae’r Cyngor yn cytuno i gymryd yr holl risg. Byddai hyn yn golygu na fyddai angen cyfrifiad dyled ymadael. Fodd bynnag, nododd Mr Middleman y dylid parhau i ddogfennu perthynas y cyflogwr newydd yn llawn gan fod yn rhaid iddynt barhau i dalu cyfraniadau i'r Gronfa. Mae hyn yn ei gwneud yn hanfodol bwysig i gyflogwyr yn y Gronfa fod a pholisïau clir fel y gall pob parti ddeall eu rhwymedigaethau a dylai hyn fod yn rhan o’r broses ar gyfer unrhyw gontract rhwng y cyflogwr a’r contractwr (neu unrhyw endid a dderbyniwyd yn y dull hwn).

 

Dywedodd Mr Middleman mai’r llwybr mwyaf effeithiol fyddai pe bai’n rhaid i gyflogwyr wneud ystyriaethau pensiwn yn rhan o’r broses gaffael er mwyn sicrhau bod hynny yn cael ei drin yn syth ac yn cael ei ddeall yn llwyr. Yn ddelfrydol gellid newid y Rheoliadau caffael er mwyn cyflawni hyn, ond byddai’n anodd gorfodi'r newid hwnnw.  Cytunodd Mr Everett ond nododd bod modd ei weithredu drwy bolisi'r Cyngor ar drosglwyddo gwasanaethau. Cytunodd Mr Middleman gan nodi y gallai sicrhau hynny fod yn anodd.   

 

Nododd Mr Middleman bod yr ymgynghoriad arfaethedig hefyd yn cynnwys rhai pwyntiau am y broses o uno cyflogwyr. Dywedodd y dylai fod rhyw fath o ganiatâd ar gyfer awdurdod sy'n derbyn.  Er enghraifft os yw cyflogwr yn trosglwyddo o Gronfa arall i Gronfa Bensiynau Clwyd, os yw’n methu yna mae’r risg wedi ei drosglwyddo i drethdalwyr Clwyd.

 

Gofynnodd Mr Hibbert am ddiffiniad o gynllun gweddol gymharol ac a allai olygu cynllun cyfraniad diffiniedig, gyda chyfraniadau bach (e.e. 1%) a delir gan y cyflogwr a’r cyflogai. Eglurodd Mr Middleman y gallai gweddol gymharol fod yn gynllun sector preifat sy’n darparu buddion sy’n atgynhyrchu strwythur buddion y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn llwyr, ond heb sicrwydd y trethdalwyr. Gallai hefyd fod yn gynllun â Buddion Diffiniedig gyda buddion sydd â gwerth actiwaraidd cyfwerth i sicrhau bod y buddion yn “weddol gyfwerth”. Mae’n gofyn am ardystiad actiwaraidd o gymaroldeb gweddol. Ni allai hyn fod yn gynllun DC.

 

Nododd Mr Latham bod y cyflwyniad ar dudalen 149 yn sôn am ofynion cyfrifeg. Rhaid i gyflogwyr gynnwys dyledion pensiynau yn eu cyfrifon a allai achosi problemau wrth wneud ceisiadau am gontractau. Gallai’r llwybr cyflogwr tybiedig olygu nad oes rhaid iddynt ddangos y rhwymedigaeth hon ar eu mantolen, felly mae’n iawn gofyn y cwestiwn hwn. Fodd bynnag, mae’n disgwyl mai’r ateb fydd bod angen eu cynnwys.

 

Arweiniodd Miss Gemmell y Pwyllgor drwy’r sleidiau rheoli costau. Nodwyd bod y broses reoli nawr ar stop oherwydd dyfarniad McCloud, sef achos sydd wedi ei ddwyn yn erbyn y Llywodraeth ar sail gwahaniaethu ar sail oed, sy’n ymwneud â gwarchod aelodau pan newidiodd cynlluniau sector cyhoeddus eu strwythurau buddion yn 2014 neu 2015. Roedd yr her yn ymwneud â Chynlluniau Barnwyr ac Ymladdwyr Tân. Y canlyniad oedd y canfuwyd bod yr amddiffynfeydd yn wahaniaethol. Mae’r Llywodraeth yn ystyried apêl, a allai gymryd mwy na 12 mis i’w ddatrys. Os yw’r Llywodraeth yn derbyn y dyfarniad neu’n aflwyddiannus yn yr apêl, byddai hynny yn golygu costau ychwanegol i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, wedi ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2014 o leiaf, ac ailasesiad o’r canlyniadau rheoli costau.    Pe bai’r Llywodraeth yn ennill yr apêl byddai’r broses rheoli costau yn ail ddechrau a gellid ôl-ddyddio unrhyw newidiadau i 1 Ebrill 2019, sydd ddim yn ddelfrydol o safbwynt gweinyddol. 

 

Gofynnwyd i Awdurdodau Gweinyddu sut dylid ymdrin â hyn ym mhrisiad 2019.  Yn benodol, a fyddai’n well ganddynt benderfynu eu hunain yngl?n â sut i ddelio â dyfarniad McCloud (er enghraifft, yn y prisiau actiwaraidd, mewn cyfrifiadau ymadael ac ati) neu a fyddai’n well ganddynt gael cyfarwyddyd canolog y dylai pob cronfa eu dilyn yn gyson. Dylid anfon ymateb gan y Cronfeydd erbyn 1 Mawrth 2019. Barn Mr Middleman yw y byddai dull gweithredu yn ôl cyfarwyddyd yn well er mwyn rhoi cysondeb ar draws y Cronfeydd, ond nad yw am i'r cyfarwyddyd fod yn rhy llym gan fod angen i bob Cronfa ystyried amgylchiadau lleol. Nododd Mr Middleman hefyd y gallai costau dyfarniad McCloud fod yn uwch nag effaith rheoli costau cychwynnol i gyflogwyr a bod y budd yn fwy gwerthfawr i aelodau iau.   

 

Dywedodd Mrs McWilliam y bydd hyn yn achosi cymhlethdod i aelodau a chyflogwyr, yn arbennig os yw'r budd-daliadau yn cael eu hôl-ddyddio. Bydd yr effaith ar y tîm gweinyddol hefyd yn fawr. Cytunodd Mr Middleman a nododd y byddai gweithredu newidiadau cyfraniadau gweithwyr wedi eu hôl-ddyddio yn gymhleth. Dywedodd bod y broses rheoli costau yn llai o faich na goblygiadau achos McCloud, os dywedir eu bod yn anghyfreithlon.

 

Gofynnodd Mr Jones a oedd hyn wedi ei gynnwys yn y gofrestr risg. Cadarnhaodd Mrs McWilliam bod y gofrestr risg wedi ei chadw ar lefel uchel yn fwriadol, roedd un o’r adrannau’n ymwneud â risgiau cenedlaethol ac felly roedd hyn wedi ei gynnwys. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf a gwneud sylwadau.

 

(b)  Bod y Pwyllgor wedi cytuno i ymestyn y contract Custodian presennol hyd nes nad oedd ei angen bellach oherwydd cyfuno asedau.

 

(c)  Ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion arfaethedig i’r ymgynghoriad Bargen Deg, gan amlygu unrhyw newidiadau yr hoffent eu gwneud a chytunwyd y gellid cyflwyno’r ymateb i MHCLG, yn ddibynnol ar ddirprwyo ymgorffori unrhyw newidiadau pellach a gytunwyd arnynt i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

 

Dogfennau ategol: