Agenda item

Cynllun Busnes 2019/20 i 2021/22

I ddarparu Cynllun Busnes i Aelodau’r Pwyllgor i’w gymeradwyo.

Cofnodion:

Nododd Mr Latham mai nod y cynllun busnes yw arddangos bod y Gronfa yn rheoli ei risgiau (ariannol a gweithredol) a pha adnoddau a ddefnyddir i wneud hyn. Nododd bod y rhan fwyaf o’r eitemau o fewn y cynllun busnes ar hyn o bryd yn rhai oedd yn mynd rhagddynt ac felly wedi eu cynnwys yng nghynllun y llynedd ar wahân i rai prosiectau pwrpasol.

 

Nododd Mr Latham bod y cynllun busnes yn cynnwys datganiad cenhadaeth y Gronfa ar gyfer y Gronfa ac amcanion polisïau a strategaethau allweddol y Gronfa.

 

Argymhellodd Mr Everett y dylent ychwanegu nod oedd yn ymwneud a risg penodol yn ymwneud â chydbwyso angen y Gronfa a'r gronfa(pool), gan nodi’r risgiau positif a negyddol o fewn o fewn y gronfa.Cytunodd Mr Latham a dywedodd y byddai angen diweddaru’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi hefyd.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a fyddai gwaith gyda’r Actiwari ar y prisiad yn cael ei wneud bob pedair blynedd yn hytrach na phob tair blynedd. Dywedodd Mr Middleman bod hyn yn cael ei drafod a bydd yn destun ymgynghoriad ac felly dim ond unwaith bydd y newidiadau yn y Rheoliadau yn dod i rym y gellir ei ddiweddaru, felly mae’n gywir ar y funud mai cyfeirio at dair blynedd mae’r cynllun.

 

Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at y pedwar pwynt bwled ar waelod tudalen 30. Nododd bod y pwyntiau uchaf ac isaf (yn ymwneud â thrawsnewid asedau i'r gronfa a gweithredu newidiadau strwythur buddion o ganlyniad i newidiadau cenedlaethol) yn ffactorau allanol sy’n effeithio’r Gronfa. Fodd bynnag, rhaid i’r Gronfa sicrhau eu bod yn parhau i weithio ar feysydd allweddol eraill (e.e. parhau i hyrwyddo ein cyfleusterau ar-lein a gorffen cyflwyno systemau gwell i gyflogwyr) gan fod risg bod y ffactorau allanol yn cymryd yr adnoddau i ffwrdd oddi wrth feysydd eraill.

 

Amlygodd Mr Latham dudalennau 31 a  32 sy’n dangos bod y Gronfa yn dal i fod â llif arian cadarnhaol ond bydd mwy o waith yn cael ei wneud ar y rhan hon fel rhan o'r prisiad actiwaraidd.

 

Gofynnodd Mr Hibbert am ffioedd rheolwyr y gronfa ac a fyddai werth cynnwys troednodyn yn egluro pa gyfran o’r ffioedd sydd wedi cynyddu o ganlyniad i dryloywder costau rheolwyr a pha rai sydd o ganlyniad i gostau ychwanegol. Gallai’r troednodyn egluro pam bod y ffioedd yn cynyddu a beth mae'r Gronfa yn ei wneud am y peth, gan ei fod yn gwybod bod rhesymau yn bodoli nad ydynt yn cael eu hegluro yma. Cytunodd Mrs Fielder gyda’r sylw hwn. Cadarnhaodd Mrs Fielder bod y rhan fwyaf o gynyddiadau ffioedd o ganlyniad i dryloywder costau rheolwyr lle maent yn datgan yr holl gostau o ystyried bod llawer nawr wedi eu cofrestru ar y cod tryloywder.  Nododd Mrs Fielder ei bod yn anodd amcangyfrif ffioedd perfformiad a bod costau trafodiadau yn tueddu i fod yn fach.

 

Mae llawer o waith yn mynd i mewn i’r rhifau hyn ac mae’r ffigyrau yn adlewyrchu’r cynnydd ym maint asedau’r Gronfa. Dywedodd Mr Hibbert mai ei farn ef yw bod amcangyfrifon ffioedd Cronfa Bensiynau Clwyd yn well na beth mae’n arfer ei weld. Cytunodd Mrs McWilliam y byddai nodyn byr yn ddefnyddiol gan y byddai’n lleihau’r potensial am feirniadaeth gan drydydd parti pe bai’n egluro bod rhan sylweddol o’r cynnydd o ganlyniad i well tryloywder costau gan reolwyr.

 

Holodd y Cynghorydd Jones am y ffigyrau contractau allanol a gyllidir ar dudalen 32, sydd wedi cynyddu o £300,000 i £900,000. Cadarnhaodd Mr Latham nad cynnydd mewn costau yw hyn mewn gwirionedd. Y prif reswm yw bod Prosiect Apple wedi gohirio peth gwaith felly bydd rhai costau'n dod trwodd yn 2019/20 yn hytrach nag yn 2018/19. Felly mae gweddill y gyllideb 2018/19 sydd heb ei defnyddio wedi ei symud i 2019/20, sy’n ymwneud â chysoni GMP ac ôl-groniad prosiectau allanol.  

 

Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at dudalen 37 sy’n nodi dyddiadau hyfforddi a chynadleddau ar gyfer eu dyddiaduron ac awgrymwyd eu bod yn mynychu.

 

Yna amlygodd Mr Latham beth o’r tasgau allweddol yn ymwneud â llywodraethu.  Nododd mai un yw datblygu cynllun parhad busnes ar ôl y profion parhad diweddar a gyflawnodd y tîm. Cytunodd Mr Everett y dylai’r gronfa bensiynau ddatblygu hyn fel rhan o waith y Cyngor ar barhad busnes.

 

Trafododd Mr Latham G6 a nododd bod y SAB wedi penodi Hymans i ystyried effeithiolrwydd llywodraethu mewn awdurdodau gweinyddu Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, yn arbennig o ran osgoi gwrthdaro rhwng cyfrifoldebau'r gronfa bensiwn a chyfrifoldebau eraill awdurdodau gweinyddu. Nodwyd nad yw'r prosiect yn cael ei gyfeirio ato bellach fel bod ar wahân.    Bydd holiadur yn cael ei anfon at gronfeydd eraill i gasglu eu barn o ran a oes angen gwahanu.

 

Gofynnodd Mr Hibbert am yr adolygiad o aelodau Bwrdd lleol a chyfetholedig, yn enwedig cynrychiolydd aelodau’r cynllun ar gyfer yr undebau llafur ac a oes modd ailbenodi’r cynrychiolydd presennol, yn ddibynnol ar y prosesau democrataidd arferol. Cadarnhaodd Mrs McWilliam mai penderfyniad i’r undebau llafur ydy hynny, a byddant yn cael eu holi i enwebu unigolyn, a gallant ddewis ail enwebu’r cynrychiolydd presennol pe dymunant wneud hynny.

 

Trafododd Mrs Fielder yr eitemau cyllido a buddsoddi o fewn y cynllun busnes. Mae’r Gronfa eisiau adolygu ei pholisi buddsoddi cyfrifol. Nodwyd y bydd llif arian a hylifedd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses werthuso pan fydd cyfraniadau’n cael eu hadolygu. Bydd adolygiad y prisiad actiwaraidd a’r strategaeth fuddsoddi yn cael ei gynnal eleni ac mae’r gwaith ar gyfuno asedau yn mynd rhagddo.  Bydd Mrs Fielder yn parhau i weithio ar y fframwaith rheoli risg cyflogwyr.  Fe wnaeth Mrs Fielder grynhoi drwy ddweud y disgwylir y bydd yn flwyddyn brysur arall i’r Gronfa a’r ymgynghorwyr.

 

Trafododd Ms Meacock yr eitemau gweinyddol allweddol; maent yn datblygu polisi gordaliad / diffyg talu sydd hefyd yn ofynnol fel rhan o'r broses cysoni GMP ac adolygiad y strategaeth weinyddu a fydd yn cael ei chymeradwyo fis Mehefin 2019.

 

Mae eitem A6 yn ymwneud â rheoliadau diwygio gan MHCLG sy’n newid yr hawliau i rai budd-daliadau partneriaid pan fydd aelod o’r cynllun wedi marw. Mae hwn yn newid sydd wedi ei ôl-ddyddio ac felly rhaid ail ymweld ag achosion o fudd-daliadau marwolaeth blaenorol i weld a ddylid cynyddu neu leihau eu taliad. Bydd y prosiect hwn yn cael ei drin unwaith bydd Prosiect Apple wedi ei gwblhau.

 

Mae eitem A7 yn ymwneud ag aelodau lle mae aelodau cynllun y Gronfa wedi symud a lle nad yw’r Gronfa’n gwybod beth yw eu cyfeiriad newydd. Mae'n bosib eu bod yn cyrraedd oedran ymddeol felly mae angen dod o hyd iddynt. Yn ogystal, mae’r Rheoliadau’n nodi bod yn rhaid talu pob ad-daliad o fewn 5 mlynedd i ddyddiad gadael aelodau. Gan fod y diwygiad wedi digwydd ers 1 Ebrill 2014, bydd yn bwynt 5 mlynedd ar y cynllun fis Ebrill 2019 felly rhaid ceisio dod o hyd i’r aelodau hynny cyn i’r cyfnod ddod i ben.

 

Mae eitem A12 yn cyfeirio at y gwaith parhaus o gyflwyno iConnect sydd bellach â llawer o weithwyr arno gan gynnwys dau o’r prif Gynghorau. Wrth symud ymlaen bydd Mrs Robinson a’r Tîm ELT yn gweithio gyda CBS Wrecsam i drosglwyddo ymlaen i iConnect.

 

Nododd Mrs Robinson bod hanner y tîm ELT ar hyn o bryd yn gweithio ar Brosiect Apple a bod yr hanner arall yn gweithio drwy’r achosion blaenoriaeth, er enghraifft achosion marwolaethau ac ymddeoliadau lle mae angen taliad. Maent hefyd wedi bod yn gweithio gydag iConnect i CBS Wrecsam. Nododd Mrs Robinson bod ystyried a allai unrhyw weithwyr eraill, yn ogystal â CBS   Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint fanteisio o gymryd y gwasanaethau a gynigir gan y tîm ELT yn amcan hir dymor arall.

 

Gofynnodd Mr Hibbert a oedd paragraff ar fenthyg stoc i’w gynnwys yn Natganiad y Strategaeth Fuddsoddi. Cadarnhaodd Mr Latham bod hyn eisoes wedi ei gynnwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynllun busnes yn Atodiad 1 sy’n ymwneud â’r cyfnod rhwng 2019/20 a 2021/22 yn ddibynnol ar ychwanegu amcan yn ymwneud â chyfuno asedau a nodyn yn egluro’r cynnydd yn ffioedd y rheolwyr buddsoddi.

 

Dogfennau ategol: