Agenda item

Diweddariad Metro Gogledd Ddwyrain Cymru

I ddiweddaru Craffu ar gynnydd Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys y cynigion diweddaraf i Lywodraeth Cyllid am arian.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddarparu diweddariad ar ddatblygiad Prosiect Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, gan gynnwys y cynigion diweddaraf i Lywodraeth Cymru am gyllid.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd er mwyn darparu datrysiad cludiant cynaliadwy hirdymor, roedd yn hanfodol bod pob math o gludiant yn cael eu integreiddio’n llwyddiannus.  Yn allweddol i hyn oedd cynnal a hyrwyddo Gwasanaeth Cludiant Cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd gyda chysylltiadau i Sir Y Fflint i gyd a’r rhanbarth ehangach. Mae’r cynigion yn darparu llwyfan y gellir ehangu cwmpas i ddarparu datrysiad cludiant ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol lleol, yn arbennig Brychdyn a safle Airbus gerllaw, yn darparu mynediad di-dor i bobl sydd yn dymuno gweithio yn yr ardal ac sy’n byw mewn ardaloedd eraill o Ogledd/Canolbarth Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog bod cynigion eraill wedi’u cyflwyno’n ddiweddar i’r ‘Cyllid Cludiant Lleol’ ar gyfer cyllido yn y cyfnod 2018-2021. Mae’r Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid gan Llywodraeth Cymru o £1,373,500 yn 2018/19 gydag ymrwymiad pellach o £2,675m yn 2019/20 a £1,6025m yn 2020/21 ar gyfer darparu cynlluniau eraill a nodir yn yr adroddiad.

 

                        Gwahoddodd y Prif Swyddog yr Uwch Reolwr Technegol a Pherfformiad i roi adroddiad ar gynnydd ar y cynlluniau parhaus o fewn y prosiect ehangach: 

 

  • Mynediad at gyflogaeth -  isadeiledd teithio llesol a safleoedd bysiau ar draws Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
  • Datblygiadau ar gyfer twf teithwyr – coridor Glannau Dyfrdwy
  • Cylchfan B5128 Queensferry at Ffin Sir Ddinbych
  • Gosod signalau ar Gylchfan Parkway – Parth 2 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
  • Llwybr Beiciau A5104 Brychdyn i Saltney Cam 2.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog bod ymgynghoriad ar y cynlluniau wedi digwydd gyda'r Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy, busnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Cynghorau Tref a Chymuned lleol, aelodau etholedig a Llywodraeth Cymru.  Bydd ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gyflawni yn y dyfodol agos.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog y sylwadau gan y Cynghorydd Vicky Perfect ar y cynnig Metro Gogledd Ddwyrain Cymru a chyswllt i orsaf rheilffordd y Fflint, a dywedodd bod pwysigrwydd y rheilffordd ar yr arfordir yn cael ei chydnabod.

 

Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton am yr anhawster y mae rhai bobl wedi’u profi wrth geisio cael mynediad at Barc Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Siaradodd o blaid y cynllun am isadeiledd teithio llesol a gorsaf fysiau drwy Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a chroesawodd yr uwchraddio'r gwasanaeth gwennol gyda mwy o bwyslais ar arbed ynni. Gofynnodd am ddiweddariad ar y cynllun parcio a theithio. Dywedodd y Swyddogion bod gwaith yn cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun parcio a theithio ac roedd ar hyn o bryd yn y cam cynllunio, a dylai cyllid gael ei sicrhau yn y dyfodol agos.  Mae safle addas wedi’i nodi ac mae’r gymuned fusnes o blaid cynllun parcio a theithio.  Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai’r cynllun parcio a theithio yn mynd i'r afael â thagfeydd a darparu gwasanaeth gwennol rheolaidd.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at gysylltu â gorsaf Shotton i alluogi mynediad at ganol Parc Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy yn ogystal â'r cyswllt rhwng y Fflint a Shotton, a fyddai'n galluogi mynediad pellach at gyflogaeth o Ogledd y Sir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei fod yn cefnogi’r cydsyniad y Metro Gogledd Ddwyrain Cymru, ond mynegodd bryderon nad oedd ymgynghoriad priodol wedi bod gydag Aelodau a phwysleisiodd y pwysigrwydd o’r isadeiledd ehangach y Sir.  Gan gyfeirio at y rhwydwaith trafnidiaeth integredig, soniodd am yr angen am gysylltiadau o wythiennau prif ffyrdd (A55 ac A548) i gysylltu â’r Parc Busnes Glannau Dyfrdwy. Hefyd, mynegodd nifer o bryderon ynghylch llwybr coch y dywedodd a fyddai’n arwain at rwystrau yn Llaneurgain.  Gwnaeth sylwadau i’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru a theimlai mai’r datrysiad fyddai pont newydd o’r gylchfan yn ffordd osgoi Shotwick at y gyffordd yn Bagillt/Fflint.   Dywedodd nad oedd y llwybr coch yn gwneud dim i Gei Connah a Fflint.  Ychwanegodd bod yr adroddiad yn nodi bod £13 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ddatrys materion penodol yng Nglannau Dyfrdwy, ond ddim ar gael ar gyfer gweddill ardal y Cyngor, a mynegodd safbwynt bod gweddill Sir y Fflint yn cael ei fethu gan y Cyngor. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod y Pwyllgor wedi ystyried y llwybrau fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ac wedi cefnogi’r llwybr coch.

 

Hefydd dywedodd y Cynghorydd Shotton bod y Prif Weinidog hefyd yn cefnogi'r llwybr coch, a groesawyd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Chris Dolphin yr adroddiad ond dywedodd bod hyn yn swm sylweddol o gyllid a oedd wedi seilio o amgylch Glannau Dyfrdwy.Cymrodd y cyfle i roi sylw ar Stryd Fawr Treffynnon, a chyfeiriodd bod Llywodraeth Cymru angen cefnogi gwaith gwella.  Cytunodd y Swyddogion i drafod y materion a godwyd gan y Cynghorydd Dolphin ynghylch Stryd Fawr Treffynnon yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas a fyddai bws gwennol yn ystyried angen gweithwyr sydd yn gweithio oriau shifft ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Eglurodd yr Uwch Reolwr Technegol a Pherfformiad bod patrymau gweithio shifft wedi cael eu hystyried a byddai’r gwasanaeth gwennol yn adlewyrchu patrymau shifft. Hefyd dywedodd y byddai goleuadau stryd yn cael eu darparu ar lwybrau beicio ar draws yr afon mewn ymateb i’r adborth a ddaeth i law.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Haydn Bateman am ddiweddariad ar y llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn. Eglurodd y Prif Swyddog bod cyllid sylweddol wedi dod i law a dywedodd y gellir gwneud cynnig mewn cyfarfod yn y dyfodol o'r Pwyllgor i ddiweddaru ar y cynnydd.

 

Cododd y Cadeirydd ymholiad ar y lôn fws drwy Shotton a gofynnodd sut y byddai hyn yn ffitio i mewn.  Dywedodd y Swyddog bod arolwg cynllunio cludiant wedi’i gyflawni a bod digon o le i roi lôn bws o gyffordd Asda hyd at oleuadau traffig Shotton. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr adroddiad mynegodd ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm ar y cynnydd sydd wedi'i gyflawni. Rhoddodd Sylw ar welliannau cadarnhaol ym Mharth 3 a chyfeiriodd at fanteision sydd i’w gael gan dwristiaeth o strategaeth trafnidiaeth integredig ar gyfer Sir y Fflint.  Gan gyfeirio at y cynllun parcio a theithio, gofynnodd os fyddai ffi am y gwasanaeth. Dywedodd y Prif Swyddog mai’r bwriad yw y byddai’r gwasanaeth yn un talu ac arddangos gyda’r defnydd o drwyddedau yn cael eu caniatáu.   Soniodd bod y mwyafrif o’r gymuned fusnes yn rhannu dull a delir i gynllun parcio a theithio. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cindy Hinds am ddiweddariad ynghylch amserlenni y 3 canolfan a chyfeirio at yr angen i sicrhau bod rhwydwaith bws wedi’u cysylltu â’r canolfannau a gorsafoedd trên.  Cydnabu’r Prif Swyddog y sylwadau a dywedodd bod y llinell Bidston yn allweddol i ddatblygu hyn.Ychwanegodd bod hyn yn ddyhead tymor byr.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei bryderon bod ardaloedd mawr o’r sir ddim yn cael eu hymgynghori ar y cynigion, a bod angen strategaeth ar gyfer gweddill y Sir.  Hefyd ailadroddodd ei sylwadau na fyddai llwybr coch yn datrys unrhyw un o’r materion o ran mynediad at Barc Ymgynghori Glannau Dyfrdwy o ardaloedd eraill o'r Sir. Hefyd dywedodd nad oedd cefnogaeth ar y cynigion am ddatblygiad o Borthladd Mostyn.

 

Sicrhaodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y Pwyllgor bod cynlluniau “ar y cyd” lle bo’n bosibl, ar gyfer gweddill y Sir a bod cyllid ar gyfer datblygiad ar draws Sir y Fflint yn cael ei sicrhau.  Dywedodd y byddai ymgynghoriad ar gael ar-lein.

 

Cytunodd yr Aelodau y byddai ymgynghoriad pellach yn fanteisiol a chroesawodd yr ymrwymiad o ymgynghoriad ar-lein.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnydd yn cael ei wneud ar Ddatrysiad Cludiant Integredig Ardal Glannau Dyfrdwy a’i gysylltiadau â chynlluniau ehangach Metro’r Gogledd-ddwyrain gan Lywodraeth Cymru.

 

(b)       Bod y dyfarniad diweddar o gyllid Cludiant Lleol y Llywodraeth Cymru yn cael ei nodi; a

 

(c)        Bod ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal gyda’r gymuned busnes ehangach.

 

Dogfennau ategol: