Agenda item

Treth y Cyngor ar gyfer 2019-20

Pwrpas:        Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2019-20 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad i osod taliadau Treth y Cyngor yn ffurfiol a phenderfyniadau statudol cysylltiedig ar gyfer 2019/20 fel rhan o’r strategaeth gyllideb ehangach ar sail y penderfyniad a gymerwyd gan y Cyngor ar 19 Chwefror.

 

Siaradodd y Rheolwr Refeniw am y tri praesept ar wahân oedd yn gynwysedig yn nhaliadau Treth y Cyngor yn erbyn pob eiddo. Dywedodd mai’r cynnydd arfaethedig ym mhraesept Sir y Fflint oedd 8.75% (yn arwain at dâl o £1,280.68 ar gyfer eiddo Band D; cynnydd blynyddol o £103.08).  Adroddwyd cynnydd o 7.74% ar y praesept ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ac atodwyd y gofynion praesept unigol ar gyfer y 34 o Gynghorau Tref a Chymuned drwy Sir y Fflint (cyfanswm cynnydd 2.13%) Roedd cyfanswm y swm a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir - £82,369.496, cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru - £17,886,558 a phraesept cyfun o £2,929,690 ar draws Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Yn unol  â materion gweithdrefnol eraill, gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo parhad cynllun Premiwm Treth y Cyngor a’r arfer fod swyddogion penodedig yn arwain achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r penderfyniad oedd gosod Treth y Cyngor yn ffurfiol ar ôl cau’r broses gyllidebu ar gyfer 2019/20 yn y cyfarfod blaenorol. Byddai’r ffigurau penodol yn cael eu cynnwys ym miliau Treth y Cyngor ynghyd ag opsiynau talu mewn rhandaliadau. Oherwydd cyfyngiadau statudol ar wybodaeth sydd ar filiau Treth y Cyngor, eleni byddai taflen wybodaeth ffeithiol gyda lluniau ar gyfer y gyllideb yn egluro sut mae’r cyfanswm yn cael ei gyfrifo.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at y drafodaeth hir ar y gyllideb oedd wedi arwain at benderfyniad anodd, gan gydnabod yr angen i ddiogelu gwasanaethau ac ystyried effaith caledi yn y dyfodol. Croesawodd y daflen wybodaeth ffeithiol gyda lluniau a baratowyd gan swyddogion ac anogodd Aelodau i’w rhannu i helpu i ddeall y sefyllfa.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers nad oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor wedi’i gefnogi gan bob Aelod ac y gallai’r swm a wariwyd i adennill dyledion heb eu talu fod wedi cael ei ddefnyddio’n well tuag at y diffyg ariannol. O ran trydydd argymhelliad ar yr adroddiad, siaradodd am lefel Treth y Cyngor heb ei dalu oedd wedi’i hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gofynnodd am gamau gweithredu i wella cyfraddau casglu.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai dyled benthyciadau cyfalaf yn unig oedd y ddyled ac y byddai adroddiad ar gasglu Treth y Cyngor yn mynd gerbron Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod yr adroddiad yn rhoi mwy o fanylion am effaith y penderfyniad yngl?n â’r gyllideb ac y byddai pob band prisio’n cael ei osod yn uwch na £1,000 y flwyddyn, gan effeithio’n arbennig ar y rhai ar incwm is. Dywedodd fod y cynnydd arfaethedig o 8.75% ar gyfer praesept y Cyngor yr uchaf a osodwyd gan Sir y Fflint ac ymysg yr uchaf yng Nghymru ar gyfer 2019/20.  Aeth ymlaen i gyfeirio at raddfa’r cynnydd dros y saith mlynedd diwethaf ac awgrymodd bod hyn i’w briodoli i ostyngiad yn y Grant Cynnal Refeniw a hefyd y dull a gymerwyd gan y Weinyddiaeth i ddefnyddio Treth y Cyngor fel ffordd o gydbwyso’r gyllideb.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod tri Chyngor arall yng Nghymru’n bwriadu cynyddu Treth y Cyngor fwy na 9%.  Atgoffodd Aelodau o’u dyletswydd gyfreithiol i osod Treth y Cyngor yn ffurfiol erbyn y dyddiad cau statudol oedd yn agosáu.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y dylai’r Cyngor osod Treth y Cyngor ar lefel oedd yn adlewyrchu’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod blaenorol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Carver nad oedd cynnydd Treth y Cyngor yn unol â thâl na chynnydd mewn pensiwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom y byddai’r Cynnig arall a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi bod yn haws ei reoli. Dywedodd fod y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch yn y gyllideb a bod angen adolygu strategaeth ariannol y Cyngor i atal sefyllfa debyg y flwyddyn nesaf.

 

Darllenodd y Cynghorydd Arnold Woolley ran o lythyr Swyddfa Archwilio Cymru ar ddull darbodus a argymhellir tuag at y polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw y lleisiodd bryderon yn ei gylch.

 

Siaradodd y Cynghorydd Derek Butler am yr angen i wneud penderfyniadau’n seiliedig ar ffeithiau a bod nifer o gyfleoedd wedi bod ar gael drwy gydol y broses gyllidebu i Aelodau godi materion penodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell fod dyletswydd ar Aelodau i wneud penderfyniadau’n seiliedig ar gyngor proffesiynol swyddogion arbenigol cymwys, yn cynnwys swyddogion statudol. Ar y sail honno y cefnogwyd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor, yn hytrach na’r diwygiad lle byddai wedi bod yn ormod o risg dibynnu mwy ar gronfeydd.

 

Mewn ymateb i sylwadau am Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, yn wahanol i rai Awdurdodau eraill, nid oedd y Cyngor wedi cynnig torri gwasanaethau ond yn hytrach roedd yn adeiladu tai’r Cyngor ac yn ystyried dulliau arloesol o ddenu cyllid. Pwyntiodd at y ffaith fod Treth y Cyngor ar gyfartaledd yn Lloegr yn £1,700 y flwyddyn gyda rhai Awdurdodau’n bwriadu cynyddu hyn o £2,000.  Roedd hyn yn dangos nad oedd Llywodraeth y DU yn ariannu gwasanaethau Cynghorau’n ddigonol.

 

Ar gyfer 2020/21, dywedodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol, os defnyddir £0.300m o gronfeydd wrth gefn, cyfrifir bod cap cyllidebol o £9.7m, yn seiliedig ar bwysau a ragwelid a heb unrhyw dybiaethau ar Dreth y Cyngor neu Grant Cynnal Refeniw.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis fod y cynnydd yn anodd ei gyfiawnhau i drigolion o ystyried y cynnydd arfaethedig gan Awdurdodau cyfagos a byddai’n cael effaith sylweddol ar holl berchnogion eiddo. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Band D yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin i bwrpas dangosol drwy Gymru, gan gydnabod y gwahaniaethau rhwng bandiau.

 

I gydnabod y penderfyniad anodd a wnaed, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod yn rhaid gwrando ar gyngor swyddogion statudol. Dywedodd y byddai’r bwlch a ragwelid yn y gyllideb ar gyfer 2020/21 wedi cynyddu pe bai Aelodau wedi cytuno i ddyrannu arian wrth gefn pellach. Fel un o nifer o bwysau sylweddol, tynnodd sylw at y cynnydd ym mhensiynau athrawon a fyddai’n effeithiol ar bob ysgol.

 

Yn ei hawl i ymateb, siaradodd y Cynghorydd Aaron Shotton am yr angen i gydnabod y gwaith a wnaed gan y swyddogion, y gweithlu, cydweithwyr Undeb Llafur a Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu i ymateb i heriau caledi a diogelu gwasanaethau, oedd yn gosod Sir y Fflint ar wahân i nifer o Awdurdodau eraill. Dywedodd nad oedd y pwynt a godwyd am fenthyca’n adlewyrchu’r buddsoddiad mewn adeiladau ysgol a’r rhaglen adeiladu tai’r Cyngor, a bod defnydd pellach o arian wrth gefn ond yn cynyddu pwysau ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel y cydnabuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai unrhyw benderfyniad yn erbyn gosod Treth y Cyngor yn groes i’r rheol chwe mis ar y penderfyniad a gymerwyd ar 19 Chwefror gan arwain at fethiant gan y Cyngor i gydymffurfio â’i ddyletswydd gyfreithiol.

 

I egluro, rhoddodd y Prif Weithredwr gyngor technegol ar y risgiau i unrhyw oedi o ran gosod Treth y Cyngor, gydag oblygiadau o ran adnodau a llif arian yn ogystal â’r effaith ar drigolion.

 

Gwnaed cais gan y Cynghorydd Peers i gofnodi’r bleidlais a chefnogwyd hyn gan 10 Aelod.

 

Pleidleisiwyd fel a ganlyn ar yr argymhellion yn yr adroddiad:

 

O blaid y cynnig:

Cynghorydd: Paul Cunningham, Bernie Attridge, Glyn Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Geoff Collett, David Cox, Ron Davies, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Ray Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Tudor Jones, Richard Lloyd, Billy Mullin, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Mike Reece, Ian Roberts, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas, Martin White, Andy Williams a David Wisinger

 

Yn erbyn y cynnig:

Cynghorydd: Mike Allport, Janet Axworthy, Haydn Bateman, Marion Bateman, Helen Brown, Clive Carver, Bob Connah, Jean Davies, Rob Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, George Hardcastle, Patrick Heesom, Dennis Hutchinson, Richard Jones, Brian Lloyd, Dave Mackie, Mike Peers, Ralph Small, Owen Thomas ac Arnold Woolley

 

Ymatal:

Cynghorydd Colin Legg

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Gosod Treth y Cyngor 2019-20 fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       Cymeradwywyd i barhau â’r polisi o beidio â rhoi gostyngiad yn lefel taliadau Treth y Cyngor am ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Hefyd lle nad yw eithriadau’n berthnasol, bod cyfradd Treth y Cyngor yn cael ei godi ar lefel o 50% yn uwch na’r gyfradd safonol o Dreth y Cyngor am ail gartrefi ac aneddiadau gwag hirdymor; a

 

(c)       Chymeradwyo swyddogion penodedig i gyhoeddi achosion cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi heb eu talu.

Dogfennau ategol: