Agenda item

Adolygiad Blynyddol o Arfarniadau

Pwrpas:        Diweddariad ar berfformiad o ran cwblhau’r gwerthusiadau staff blynyddol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad diweddar gyda lefelau arfarnu manwl wedi’u cwblhau gan wasanaethau yn ogystal â phortffolios.  Byddai sefyllfa diwedd blwyddyn yn cael ei chynnwys o fewn Cynllun y Cyngor fel Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA).

 

Ar yr adeg yr oedd yn adrodd, dywedodd Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod 91% o arfarniadau wedi’u cwblhau a’u trefnu ar draws y Cyngor.  Ers hynny cadarnhawyd bod 24 o arfarniadau eraill wedi’u trefnu yn Strydlun a Chludiant. Wrth gydnabod y targed o 100%, roedd yn bwysig nodi amrywiaeth y gweithlu ac arferion cyffredin o reoli perfformiad fel cyfarfodydd  un-i-un a chyfarfodydd tîm yn ogystal â’r dull a ddefnyddir yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal cyfarfodydd ‘goruchwylio’ manwl rheolaidd a gofnodir. Rhoddwyd sicrwydd y byddai gwaith yn parhau gyda gwasanaethau a rheolwyr i fonitro’r gyfradd gwblhau ac ansawdd arfarniadau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod hwn yn adroddiad cadarnhaol oedd yn cydnabod bod angen gwelliannau pellach i gyrraedd y targed.  Tynnwyd sylw Aelodau at y ffocws ar gwblhau arfarniadau ystyrlon wedi’u cysylltu ag adroddiad arfaethedig gan y Cabinet ar fodelu tâl a chodiadau tâl.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones y cynnydd a wnaed a’r niferoedd oedd wedi’u cynnwys ar gyfer bob portffolio er mwyn darparu cyd-destun. O ran y rhai nad oeddent yn cyrraedd 100%, canmolodd y gwelliant yn ffigurau terfynol Strydlun a Chludiant a chwestiynodd wasanaethau eraill â niferoedd is heb unrhyw arfarniadau wedi’u trefnu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod disgwyl i’r holl arfarniadau gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, yn arbennig y portffolios hynny gyda thimau mwy sefydlog mewn swyddfeydd.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr fod disgwyl i’r ffigurau ar gyfer Cymuned a Menter gynyddu yn sgil cyfnod o newid. Roedd y gwelliannau yn Strydlun a Chludiant yn deillio’n rhannol o ddatblygu model pwrpasol oedd yn diwallu anghenion y gwasanaeth hwnnw. Dywedodd fod adolygiad wedi’i gynnal o system cefn swyddfa i gryfhau’r trefniadau monitro ymhellach.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Jones ei gydweithwyr o’r penderfyniad blaenorol i wahodd Prif Swyddogion i egluro eu rhesymau pam nad oedd eu meysydd wedi cyrraedd y targed. Cydnabuwyd hyn gan y Prif Weithredwr a awgrymodd fod y Pwyllgor yn aros tan ddiwedd y flwyddyn ariannol i weld p’un ai a oedd ffigurau ar lefel dderbyniol. Dywedodd fod y modelau arfarnu ar gyfer staff Theatr Clwyd a gwasanaethau wedi’u trosglwyddo i Fodelau Darparu Eraill – oedd heb eu cynnwys yn y ffigurau – yn gweithio’n dda.

 

Gan groesawu’r cynnydd a wnaed, dywedodd y Cynghorydd Axworthy fod cwblhau’n arfarniadau’n un o brif gyfrifoldebau rheolwyr ac os methir â gwneud hyn y dylid dwyn y mater i sylw lefel uwch. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd fod rheolwyr yn deall pwysigrwydd cwblhau arfarniadau ansawdd a bod disgwyl iddynt eu cyflawni, fel y dangoswyd gan y penderfyniad i gynnwys hwn fel DPA yn y drefn adrodd i Gynllun y Cyngor.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones y rhan yr oedd y Pwyllgor yn ei chwarae i gynyddu pwysigrwydd cwblhau arfarniadau a chydnabuwyd hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr a’i thîm am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd  a wnaed yn erbyn y targed a osodwyd ar gyfer cwblhau arfarniadau ar gyfer portffolios a’r Cyngor yn gyffredinol; a

 

(b)       Diolch i’r Prif Swyddogion am eu gwaith yn sicrhau’r cynnydd hyd yma ond gan eu hatgoffa fod y Pwyllgor yn monitro’r sefyllfa’n agos ac yn cadw’r hawl i ddwyn i gyfrif y rhai nad ydynt yn cyrraedd cyfraddau cwblhau o 100% erbyn diwedd y flwyddyn.

Dogfennau ategol: