Agenda item

Y Cylch Cynllunio Cyllid a Busnes

Pwrpas:        Derbyn darlun o’r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad a gwybodaeth ar yr ystod o wybodaeth perfformiad sydd ar gael ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i lunio adroddiadau perfformiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol adroddiad yn dangos y cylch ariannol a chynllunio busnes a manylion y gwahanol Ddangosyddion Perfformiad Allweddol sydd ar gael i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu eu defnyddio i adrodd ar berfformiad. Gofynnwyd am y ddwy eitem gan y Pwyllgor.

 

Rhoddwyd model gyda diagramau o’r cylch ariannol a chynllunio busnes yn dangos tair elfen benodol – ariannol, darparu a pherfformiad, a mesurau rheoli a chyd-destun allanol. Ategwyd hyn gan gyflwyniad yn egluro datblygiad y model a sut roedd yn gweithio.

 

Wrth ddiolch i’r swydd a’r timau dan sylw, dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn gwerthfawrogi lefel y manylder ac awgrymodd fwy o gysondeb o ran y penawdau a ddefnyddid. O safbwynt amserlenni, dywedodd mai’r set llawn o gynlluniau portffolio a Chynllun y Cyngor ddylai ddod gyntaf er mwyn rhoi gwybodaeth am osod Treth y Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am gymhlethdod y broses o osod y gyllideb a’r angen i gynlluniau busnes fod yn barhaus, yn arbennig er mwyn addasu i’r newidiadau dan arweiniad y Llywodraeth yn ystod y flwyddyn – fel yr adlewyrchir yn sylwadau ysgrifenedig y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod datblygiad y model, a fyddai’n newid dros amser, yn ddefnyddiol i esbonio’r broses a’r amserlenni.

 

Yn ystod y drafodaeth, eglurodd y Swyddog Gweithredol fod cynlluniau portffolio’n cynnwys gwybodaeth am feincnodi a’u bod felly wedi’u gosod ar ôl Cynllun y Cyngor. Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at Gynllun y Cyngor fel dogfen strategaeth hirdymor.

 

Gan gydnabod y broses gymhleth a’r gwaith caled a wnaed gan swyddogion, dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd ffordd effeithiol o werthuso gwariant portffolio’n agored.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y pwyntiau a godwyd wedi’u cynnwys o fewn y broses gyllidebol tri-cham lle’r oedd lefelau gwariant gwasanaethau wedi’u cefnogi gan ddatganiadau cadernid wedi’u rhannu cyn ystyried yr holl gynigion gwasanaeth. Roedd y dull yn caniatáu amser i ganolbwyntio ar gynlluniau portffolio yn amodol ar unrhyw opsiynau ychwanegol y gellid eu codi gan Aelodau yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach yn y mis.

 

Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Heesom yngl?n â rheolaeth ariannol, rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr a Chynghorydd Shotton fod adroddiadau cadernid Swyddfa Archwilio Cymru wedi adlewyrchu perfformiad cadarnhaol y Cyngor ar effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd a rheolaeth ariannol. Byddai’r cynnydd sylweddol posibl yn Nhreth y Cyngor yn benderfyniad i Aelodau o/gan ystyried y diffyg opsiynau eraill.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod cyfleoedd o hyd i’r Weinyddiaeth baratoi ‘Cynllun B’ er mwyn pontio’r bwlch ariannol oedd yn weddill, i osgoi cynnydd uwch yn Nhreth y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y drafodaeth a geir ar y gyllideb yn y Cyngor Sir a’r angen i gadw’r pwysau ar LlC am gyllid tecach i osgoi’r baich cynyddol ar gyfer Treth y Cyngor i drigolion Sir y Fflint. Ar ôl trafod yn helaeth yn y misoedd diwethaf, roedd mwyafrif helaeth yr Aelodau wedi cytuno nad oedd unrhyw opsiynau eraill ar ôl oedd yn dderbyniol i’r Cyngor.

 

Ar ail ran yr adroddiad, rhannwyd gwybodaeth am y DPA ar draws gwasanaethau yn cynnwys rhai oedd wedi’u tan ddatblygu. Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn gynharach yn y cyfarfod ac awgrymodd y gellid coladu’r data i’w ystyried mewn gweithdy cyn diwedd Mawrth er mwyn i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu allu penderfynu pa fesurau oedd fwyaf gwerthfawr. Cytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu a chefnogi’r model gyda diagramau o’r Cylch Ariannu a Chynllunio Busnes; a

 

(b)       Chynnal gweithdy cyn diwedd Mawrth i ystyried beth yw’r ffordd orau i’r Cyngor ac yn benodol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ddefnyddio’r wybodaeth am berfformiad ar gyfer cynllunio sefydliadol a monitro.

Dogfennau ategol: