Agenda item
Goddefebau
- Cyfarfod Pwyllgor Safonau, Dydd Llun, 7fed Ionawr, 2019 6.30 pm (Eitem 46.)
- View the declarations of interest for item 46.
Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Cofnodion:
Bu i’r Dirprwy Swyddog Monitro gyflwyno gau gais goddefeb i’w hystyried, a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi’r agenda.
Y Cynghorydd Adele Davies-Cooke
Roedd y Cynghorydd Sir Adele Davies-Cooke yn dymuno siarad ac ysgrifennu at swyddogion ynghylch cais cynllunio 058118 oedd yn gysylltiedig â thir yn ei pherchnogaeth. Byddai’r oddefeb yma yn caniatáu i’r Cynghorydd Davies-Cooke a’ g?r (fel yr ymgeisydd ar y cyd) i gyfathrebu â swyddogion yngl?n â’r cais oedd yn dod yn fater cymhleth. Nid oedd yn dymuno siarad na phleidleisio ar y cais pan oedd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio.
Fel ymateb i sylwadau, nododd swyddogion, er bod cais blaenorol tebyg wedi cael ei wrthod gan y Pwyllgor, bod y Swyddog yn yr achos hwnnw wedi ceisio caniatâd i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio. Cyfeiriwyd at y gwaharddiadau oedd nawr yn gymwys wrth ganiatáu ceisiadau i siarad â swyddogion, sydd yn ymwneud â thystion a nodiadau’r trafodaethau hynny.
Bu i Edward Hughes gynnig caniatáu goddefeb ar sail hynny, ac eiliwyd hynny gan Ken Molyneux. Cytunwyd ar hynny drwy bleidlais.
Y Cynghorydd Mike Peers
Roedd cais gan y Cynghorydd Sir Mike Peers yn gofyn am ganiatâd i gymryd rhan mewn trafodaethau’r Pwyllgor Cynllunio a chyfarfodydd eraill y Cyngor ynghylch materion mewn perthynas â Gr?p Tai Pennaf ble roedd ei fab yn cael ei gyflogi yn yr adran TG. Roedd y Cynghorydd Peers yn dymuno siarad ac aros y yr ystafell ar gyfer trafodaethau o’r fath, fel aelod o’r cyhoedd, ond nid i bleidleisio. Roedd cais cynllunio a gyflwynwyd gan Gr?p Tai pennaf i fod i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio.
Mewn perthynas â’r Pwyllgor Cynllunio, dywedodd y Cynghorwyr mai mater personol oedd hwnnw yn hytrach na cysylltiad sy’n rhagfarnu, fel y nodir hynny ym Mharagraff 10(2)(c) Cod Ymddygiad Aelodau. Yn absenoldeb mwy o wybodaeth, nid oedd yn bosibl cynghori a fyddai yna fuddiant sy’n rhagfarnu petai’r mater yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd eraill y Cyngor.
Yn ystod y drafodaeth, bu i Aelodau gwestiynu lefel effaith y cais ar fab y Cynghorydd Peers, ynghyd â’r canfyddiad ynghylch a ddylid trin y mater fel cysylltiad sy’n rhagfarnu.
Penderfynodd y Pwyllgor nad oedd hwn yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac felly ni ellid caniatáu goddefeb. Cymheiriaid y Cynghorwyr ddylai benderfynu a ddylai aros yn yr ystafell a phleidleisio yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor Cynllunio. Nid oedd digon o wybodaeth ar gael er mwyn ystyried y cais i siarad yng nghyfarfodydd eraill y Cyngor, oherwydd gallent gynnwys amgylchiadau pan allai cysylltiad sy’n rhagfarnu godi.
PENDERFYNWYD:
(a) Caniatáu goddefeb i Gynghorydd Sir y Fflint Adele Davies-Cooke o dan baragraff (d) Rheoliadau Pwyllgor safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i roi sylwadau llafar ac ysgrifenedig i swyddogion Cyngor Sir y Fflint mewn perthynas â chais cynllunio 058118 neu unrhyw gais sydd yn gyffelyb ym marn y Swyddog Monitro. Mae hynny yn caniatáu siarad â swyddogion cyn belled a bod o leiaf un tyst yn bresennol, fydd yn sicrhau bod o leiaf tri pherson yn rhan o’r drafodaeth, a bod y drafodaeth yn cael ei chofnodi. Pan fo’r eitem yn cael ei hystyried yn y Pwyllgor Cynllunio, bydd y Cynghorydd Davies_Cook i adael i cyfarfod cyn trafod y cais a phleidleisio arno. Dylai’r goddefeb gael ei chaniatáu am 12 mis, gan ddod i ben ay 7 Ionawr 2020; a
(b) Gwrthod y cais am oddefeb gan y Cynghorydd Sir Mike Peers mewn perthynas â thrafod materion ar y Pwyllgor Cynllunio mewn perthynas â Gr?p Tai Pennaf oherwydd nad oes ganddo fuddiant sy'n rhagfarnu ar y mater. Hefyd gwrthodir y cais i siarad ar yr un mater mewn cyfarfodydd eraill y Cyngor oherwydd nad oes digon o wybodaeth ar gael.