Agenda item
Y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfleusterau Gofal Ychwanegol Fflint a Threffynnon
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Dydd Iau, 13eg Rhagfyr, 2018 2.00 pm (Eitem 44.)
- Cefndir eitem 44.
Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr Gwasanaethau Integredig adroddiad i ddarparu diweddariad ar ddatblygiad dau gynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint.
Dywedodd yr Uwch-Reolwr bod y cynllun gofal ychwanegol yn y Fflint (Llys Raddington) wedi’i orffen ac yn llawn.Mae’r adborth gan y preswylwyr a’r teuluoedd yn gadarnhaol o ran y broses symud i mewn a’r cyfleusterau sydd ar gael. Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at daith ddiweddar y Pwyllgor o amgylch yr adeilad a diolchodd i’r aelodau am eu sylwadau a’u hadborth cadarnhaol. Dywedodd bod gwaith adeiladu cynllun gofal ychwanegol Treffynnon yn mynd rhagddo ac, ar ôl ei orffen, bydd y cyfleuster yn cynnwys 55 o randai a rhandai penodol ar gyfer bobl sydd â dementia. Bydd y cynllun ar gael i oedolion h?n (50 oed a h?n) ond bydd rhywfaint o hyblygrwydd i dderbyn unigolion iau gydag anghenion gofal tebyg. Mae cefnogi unigolion mewn cyfleuster gofal ychwanegol yn fwy cost effeithiol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol na gofal preswyl, sy’n gyfrifol am sicrhau bod anghenion gofal yn cael eu diwallu.Dywedodd yr Uwch-Reolwr bod disgwyl i’r gwaith adeiladu orffen yn ystod gwanwyn 2020, a bod enw'r cynllun yn destun ymgynghoriad gyda grwpiau Cymraeg, aelodau lleol a’r Cyngor Tref.
Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y swyddogion i sylwadau a chwestiynau ar gostau refeniw a’r posibilrwydd o gynlluniau tebyg eraill yn Sir y Fflint.
Gofynnodd y Cyng. Paul Johnson sut mae Cynllun Gofal Ychwanegol Treffynnon yn cael ei hyrwyddo i drigolion lleol, yn arbennig pobl oedrannus.Dywedodd yr Uwch-Reolwr bod digwyddiad cyn gwerthu wedi’i gynnal a bod sesiynau gwybodaeth pellach a digwyddiadau hyrwyddo yn cael eu cynnal mewn lleoliadau lleol ddechrau 2019. Siaradodd y Cyng. Gladys Healey o blaid cynllun Llys Raddington a gofynnodd a fyddai modd trefnu digwyddiad gwybodaeth ar gyfer preswylwyr ei ward.
Gofynnodd y Cyng. Hilary McGuill a oes unrhyw beth yn cael ei wneud i fynd i’r afael â chostau atgyweirio ac ailwampio cynlluniau h?n.Eglurodd yr Uwch-Reolwr fod rhai costau cynnal a chadw yn rhan o’r ffioedd ar gyfer y rhandai a chadarnhaodd fod cronfa ar gael ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw i sicrhau y cedwir yr adeiladau mewn cyflwr da.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn parhau i gefnogi datblygiad cynlluniau gofal ychwanegol yn Sir y Fflint;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi ac yn ymgysylltu â’r digwyddiadau cyhoeddusrwyddac ymgynghori a fydd yn hyrwyddo datblygiad gofal ychwanegol Treffynnonsy’n dechrau yn 2019; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi ystod oedran newydd datblygiad gofal ychwanegol Treffynnon.
Dogfennau ategol:
- Update on Flint and Holywell Extra Care facilities, eitem 44. PDF 123 KB
- Appendix 1 - Llys Raddington arists impression, eitem 44. PDF 6 MB
- Appendix 2 - Llys Raddington Show Flat, eitem 44. PDF 3 MB
- Appendix 3 - Llys Raddington group picture, eitem 44. PDF 1 MB
- Appendix 4 - Llys Raddington outside picture, eitem 44. PDF 2 MB
- Appendix 5 - Holywell existing and proposed plans, eitem 44. PDF 4 MB
- Appendix 6 - Holywell proposed ground and first floor plans, eitem 44. PDF 2 MB
- Appendix 7 - Holywell proposed second and third floor plans, eitem 44. PDF 1 MB