Agenda item

Goddefebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

Cofnodion:

Dennis a Jeannie Hutchinson, Cynghorwyr Tref Bwcle

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndirol ar gais am ollyngiad gan Gynghorydd Tref Bwcle, Dennis Hutchinson (a'i wraig), sydd ar hyn o bryd â chontract i ddarparu gwasanaethau yn y Sir. Fel rhan o adolygiad o lwybrau bysiau lleol, cytunodd y Cyngor Sir i gais gan Gyngor Tref Bwcle am amser ychwanegol er mwyn dod i gytundeb ar ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad, yn arbennig y gwasanaeth ‘Shopper Hopper’ a weithredwyd gan gwmni'r Cynghorydd Hutchinson.  Roedd y ddau Gynghorydd yn ceisio gollyngiad i fod yn bresennol, heb gymryd rhan na phleidleisio, pan gaiff y mater ei ystyried yng nghyfarfod nesaf Cyngor Tref Bwcle. 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch caniatáu i Gynghorwyr gyda chysylltiad sy'n rhagfarnu gael yr un hawliau ag aelodau’r cyhoedd o ran cael aros yn yr ystafell i arsylwi cyfarfodydd, heb gael effaith ar onestrwydd y ddadl. Nodwyd hefyd bod Cyngor Tref Bwcle eisoes wedi elwa o gael estyniad i ddyddiad cau’r ymgynghoriad a'i bod yn bosibl nad yw contractwyr bysiau eraill yn ymwybodol o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn arbennig i drafod y testun hwn.

 

Cynigodd Julia Hughes i wrthod y gollyngiad, ac eiliwyd hyn gan Jonathan Duggan-Keen.  O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Woolley i’w ymataliad o’r bleidlais gael ei gofnodi.

 

Y Cynghorydd Veronica Gay

 

Gofynnwyd i aelodau'r Pwyllgor ystyried cais am ollyngiad gan y Cynghorydd Sir a Chynghorydd Tref Saltney, Veronica Gay, a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r agenda. Fel aelod o gr?p cefnogi Dementia a gwirfoddolwr mewn Caffi Cofio misol, roedd y Cynghorydd Gay yn ceisio gollyngiad i wneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig ar faterion penodol sy’n effeithio’r gr?p a’r Caffi, heb gymryd rhan yn y bleidlais.

 

Eglurwyd er iddo gael ei ystyried yn gysylltiad personol, bod y Cynghorydd Gay yn ceisio gollyngiad fel rhagofal diogelwch i’w galluogi i siarad a rhoi ei henw i sylwadau ysgrifenedig. 

 

Mynegwyd barn ar werth cyfraniad gwybodaeth Cynghorydd Gay at sylwadau perthnasol heb hawliau pleidleisio. Teimlai rhai Aelodau ei bod yn aneglur a yw hwn yn wasanaeth cyhoeddus neu beidio, ac y dylid codi’r mater â  Chynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas ag unigolion gyda sawl cysylltiad yn ceisio gollyngiad mewn amgylchiadau tebyg.

 

Cadarnhaodd Swyddogion delerau’r cais am ollyngiad gan gynnwys y cyfnodau amser a’r camau diogelu arferol.  Cynigwyd ac eiliwyd hyn gan y Cadeirydd ac Edward Hughes.  O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.  Roedd y penderfyniad yn berthnasol i'r Cynghorydd Gay yn ei rôl fel Cynghorydd Sir yn ogystal â Chynghorydd Tref.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Gwrthod y cais am ollyngiad gan Gynghorwyr Tref Bwcle, Dennis a Jeannie Hutchinson mewn perthynas â thrafod gwasanaethau bysiau lleol yng Nghyngor Tref Bwcle; a

 

 (b)      Bod Cynghorydd Sir y Fflint a Chynghorydd Tref Saltney, Veronica Gay, yn derbyn gollyngiad dan baragraffau (d) (e) (f) a (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i roi sylwadau ar lafar ac yn ysgrifenedig i Gyngor Tref Saltney a Chyngor Sir y Fflint ar faterion yn ymwneud â gr?p cymorth Dementia Saltney a'r Caffi Cofio misol.  Bydd y Cynghorydd Gay yn gadael y cyfarfod ar ôl siarad, cyn trafodaeth a phleidlais ar y cais mewn cyfarfodydd cyhoeddus.  Ar gyfer cyfarfodydd preifat â swyddogion Cyngor Sir, mae gofyn i o leiaf un tyst fod yn bresennol, i sicrhau bod o leiaf tri unigolyn yn rhan o’r sgwrs, a bod y drafodaeth yn cael ei chofnodi.  Mae’r ollyngiad i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 3 Rhagfyr 2019.

Dogfennau ategol: