Agenda item

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20: Rhagolygon Diweddariedig a Chynigion Cyllideb Cyfnod 1 a 2

Pwrpas:        Rhoi gwybod am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb 2019/20 a chymeradwyo Cam 1 a Cham 2 cynigion y gyllideb.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20: Rhagolwg wedi’i Ddiweddaru a Chynigion Cyllideb Cam 1 a 2, a oedd yn nodi’r datrysiadau ar gyfer y camau hynny.  Roedd Cam 1 yn ymdrin â datrysiadau cyllideb cyllid corfforaethol, gyda Cham 2 yn ymdrin â datrysiadau cyllideb ar gyfer y portffolios gwasanaeth.

 

            Roedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar wedi ystyried y cynigion ar gyfer y ddau gam, ar ôl ystyried argymhellion ac adborth gan y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu portffolio a oedd wedi cyfarfod yn ystod Hydref a Thachwedd.  Roedd sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cynnwys effeithlonrwydd cost cludiant a chronfeydd wrth gefn a balansau.  Byddai swyddogion yn darparu ymatebion i effeithlonrwydd cludiant a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y dyfodol ar gronfeydd wrth gefn a balansau.  Fe wnaeth Aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gefnogi’r ymgyrch #CefnogiGalw yn ffurfiol.

 

            Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion ar y rhagolwg wedi’i ddiweddaru cyn y setliad dros dro a manylion y pwysau newydd.  Rhoddodd Tabl 2 o’r adroddiad y rhagolwg diwygiedig.

 

            Roedd cynigion cyllideb Cam 1 wedi’u rhannu yng ngweithdai Aelodau yng Ngorffennaf a Medi, gyda chynigion yn gyfanswm o £7.937 miliwn.  Drwy gydol Hydref a Thachwedd, roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol wedi ystyried y cynigion Cam 2.   Roedd y cynigion hynny’n gyfanswm o £0.963 miliwn a byddai’n cyfrannu £0.630m at y gyllideb unwaith y byddai targedau incwm a gostyngiadau gweithlu wedi gostwng.

 

            Yn amodol ar lwyddiant ymgyrchu ar gyfer Setliad Llywodraeth Leol gwell ac ar ôl ystyried y cynigion a wnaed ar gyfer Camau 1 a 2, roedd y bwlch a oedd yn weddill ar gyfer Cyllideb Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2019/20 oddeutu £6.7 miliwn.

 

            Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), gyda chefnogaeth lawn ei haelodau, yn benderfynol bod y Setliad Dros Dro yn gwbl annigonol i fodloni'r anghenion cyllido sydd wedi’u gweld o ran llywodraeth leol yng Nghymru.  Fel Cyngor wedi’i ariannu’n isel fesul capita, a Chyngor wedi’i ariannu’n isel yn y setliad blynyddol yn seiliedig ar fformiwla ar gyfer 2019/20, roedd Sir y Fflint yn arbennig o agored i’r risgiau o gyllid annigonol ar gyfer llywodraeth leol.

 

             I wrthbwyso’r angen am gynnydd blynyddol llawer uwch na'r arfer mewn Treth y Cyngor, gwahoddwyd y Cyngor i adnewyddu ei ymgyrch am gyllid tecach i lywodraeth leol drwy roi pwysau ar y canlynol gan Lywodraeth Cymru (LlC):

 

·         Y £30 miliwn ychwanegol sy’n cael ei gadw ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru i’w drosglwyddo i Gynghorau (mae hwn yn werth tua £1.3 miliwn i Sir y Fflint);

·         Y £15 miliwn ychwanegol sy’n cael ei gadw ar gyfer ysgolion yng Nghymru i’w dalu i Gynghorau (mae hwn yn werth £0.800 miliwn i Sir y Fflint a’i hysgolion);

·         £13 miliwn yn ychwanegol i’w ganfod fel nad oedd yr un Cyngor yn wynebu gostyngiad blynyddol yn eu grant llywodraeth (yn werth tua £1.9 miliwn i Sir y Fflint); a’r

·          £33 miliwn o gyllid 'canlyniadol’ ychwanegol sy’n dod i Gymru o ganlyniad i gyllideb ddiweddar y Canghellor, i’w dalu i Gynghorau yn ôl ymrwymiad Llywodraeth Cymru (sy’n werth tua £1.6 miliwn i Sir y Fflint).

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai Cam 3 o’r broses pennu’r gyllideb yn cynnwys gosod cyllideb gytbwys gyda gwybodaeth am y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol.   Roedd disgwyl i’r gyllideb derfynol a chytbwys gael ei gosod gan y Cyngor 19 Chwefror 2019. Yn y cyfamser, dylid canolbwyntio ar y gweithgaredd ymgyrchu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bithell i CLlLC, y Prif Weithredwr a’r Arweinydd am yr ymgyrch proffil uchel roeddent wedi’i harwain, er mwyn cael Llywodraeth Cymru i ddeall sefyllfaoedd awdurdodau lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Mabwysiadu Cam 1 – datrysiadau cyllideb Cyllid Corfforaethol ar gyfer 2019/20, ar ôl ystyried unrhyw adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol;

 

(b)       Mabwysiadu Cam 2 – datrysiadau cyllideb portffolio ar gyfer 2019/20, ar ôl ystyried unrhyw adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac adborth ac argymhellion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu portffolio; a

 

(c)        Bod y Cyngor yn cael ei wahodd yn ffurfiol i gefnogi’r ymgyrch wedi’i hadnewyddu ar gyfer cyllid tecach i lywodraeth leol yng Nghymru ac ar gyfer Sir y Fflint.

Dogfennau ategol: