Agenda item

Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda materion cyfredol sy’n effeithio rheolaeth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  

Cofnodion:

Rhannodd Miss Fellowes y wybodaeth ddiweddaraf yn gryno yngl?n â’r materion allweddol oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.Amlygodd y materion canlynol:

·         Cadarnhawyd y byddai’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn 2.4% ym mis Medi 2018, ac felly byddai pensiynau’n cynyddu 2.4% fis Ebrill 2019.

·         Cyhoeddodd Adran Actiwari'r Llywodraeth ei Adroddiad Adran 13 fis Medi, ac ni soniwyd am y Gronfa ynddo.Roedd y pedwar prif gwmni actiwaraidd oedd yn cynghori cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol â nifer o bryderon yngl?n â’r adroddiad, ac roeddent wedi mynegi’r rheiny mewn llythyr ar y cyd i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun.  Nid oedd dim dwywaith na fyddai’r trafodaethau’n parhau yngl?n â’r pryderon hynny.

·         Bu trafodaeth yngl?n â symud i gylch prisio pedair blynedd, gan gynnal prisiad 2019 fel y bwriadwyd, ond gan adolygu cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr ar ganol y cylch (2022 yn ôl pob tebyg), a chynnal y prisiad statudol dilynol yn 2024. Byddai Mercer yn rhannu mwy o wybodaeth am hyn faes o law.

·         Ym mis Hydref penderfynodd yr Uchel Lys gydraddoli’r Isafswm Pensiwn Gwarantedig ar gyfer yr aelodau hynny oedd wedi ymryddhau o Gynllun y Wladwriaeth.Roedd hynny’n effeithio ar bob aelod oedd ag Isafswm Pensiwn Gwarantedig ers 17 Mai 1990, a disgwylid y byddai’n cael effaith ar gostau a rhwymedigaethau cynlluniau sector preifat.O ran y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chronfa Bensiynau Clwyd, y farn ar y cychwyn oedd y byddai unrhyw effaith yn dibynnu ar broffil yr aelodau, ac y byddai’n debygol o fod yn llawer llai arwyddocaol oherwydd y dull mynegeio a ddefnyddid gyda’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a oedd yn debygol o gael ei ledaenu.Roedd yr actiwariaid yn cadw golwg barhaus ar hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Jones a oedd holl awdurdodau gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn dilyn yr un cylch ar gyfer prisio actiwaraidd.Cadarnhaodd Mr Middleman fod pob awdurdod gweinyddu yng Nghymru a Lloegr yn dilyn yr un cylch, a bod Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr Alban flwyddyn ar ei hôl hi.Yn 2024 byddai pawb yn dilyn yr un drefn pe byddai’r newidiadau arfaethedig yn digwydd.Dywedodd Mr Middleman fod pedair blynedd yn amser hir i gronfa oedd â pholisi rheoli risg gweithredol, ac felly ei bod yn bwysig meddu ar y grym i adolygu’r cyfraniadau ar ganol y cylch pe byddai angen.

            Gofynnodd Mr Hibbert am yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r drefn Rheoli Costau.Eglurodd Mr Middleman drefn y Trysorlys, lle byddai’n rhaid i’r aelodau ysgwyddo’r costau pe byddent yn mynd yn fwy na 2% yn uwch na’r targed, ond yn elwa pe byddai’r costau’n gostwng mwy na 2% islaw’r targed (drwy hwb i’w buddion neu ostyngiad yn eu cyfraniadau).  Fodd bynnag, roedd Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun yn gweithredu trefn arall a fedr fod yn drech na threfn y Trysorlys, lle’r oedd rhywfaint o ddisgresiwn pe byddai’r costau’n gyfwerth â rhwng 0-2% o gyflogau.  Yn ôl y data diweddaraf ynghylch tueddiadau, roedd yn debygol y byddai rhywfaint o hwb i fuddion a/neu ostyngiadau mewn cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (yn enwedig gostyngiadau ar sail disgwyliad oes).

Roedd Mr Middleman yn disgwyl y ceid mwy o fanylion am y mater yn fuan, a’r bwriad oedd gweithredu’r drefn fis Ebrill nesaf.Byddai’r newidiadau yn sgil hynny’n effeithio ar systemau cyflogres, cyfathrebu a gweinyddu, ac er y byddai’n cael effaith ar y Prisiad Actiwaraidd hefyd, ni fyddai’r cyfraniadau’n newid tan 2020.

Holodd Mr Latham faint fyddai’r cynnydd yng nghyfradd y cyfraniadau.  Dywedodd Mr Middleman nad oedd hynny wedi’i gadarnhau eto, ond y gallai fod yn fwy na 1% pe byddai popeth arall yn aros yr un fath.Dywedodd Mr Middleman mai swm cyfartalog oedd hwn ar draws y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond y byddai’r effaith ar bob cyflogwr yn amrywio.Gallai’r effaith fod yn fwy neu’n llai ar rai cyflogwyr, gan ddibynnu ar y newidiadau y byddent yn eu gwneud a phroffil aelodaeth y cyflogwr.

Dywedodd Mr Hibbert y gallai effaith y newidiadau mewn buddion fod yn gostus o safbwynt y Gronfa, oherwydd newid y drefn weinyddu.Ymatebodd Mr Middleman drwy ddweud fod newid cyfraniadau’r aelodau’n fwy o fater i’r cyflogwyr, ac y byddai’n rhaid mynd i’r afael â hyn yn chwim os oedd am ddod i rym ar 1 Ebrill 2019. Gallai rhai o’r newidiadau mewn buddion fod yn anos nag eraill, ac roedd hi’n bosib y gellid cael gwared â rhai cymhlethdodau o ran afiechyd, er enghraifft, dewis Haen 3, a fu’n bwnc trafod ers tro.

Cytunodd Mrs McWilliam â’r hyn a ddywedodd Mr Middleman yngl?n â newidiadau yn y cynllun, a bod angen i’r holl aelodau a’r cyflogwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Pwysleisiodd y byddai’n her i gyflogwyr a’r Gronfa fel ei gilydd i weithredu’r newidiadau mewn byr o amser.

Cadarnhaodd Mr Middleman y byddai angen ymgynghori ar y newidiadau i ddechrau, gan y byddai’n rhaid diwygio’r Rheoliadau.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nododd aelodau’r Pwyllgor yr adroddiad a derbyn yr wybodaeth yngl?n â’r materion presennol oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rhai ohonynt yn berthnasol i weithrediad y Gronfa.

Dogfennau ategol: