Agenda item

Diweddariad Llywodraethu

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Cofnodion:

            Gadawodd Mr Everett yr ystafell pan drafodwyd yr eitem hon.

 

Dywedodd Mr Latham na lwydddd y Gronfa i benodi tri aelod newydd yn y Tîm Cyllid.Wedi rhoi sylw i’r swydd Swyddog Buddsoddiadau a phrofi’r farchnad, dywedodd Mr Latham y câi’r swydd ei hail-hysbysebu fel Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, gan nad oedd y cyflog yn ddigon i ddenu rhywun â’r cymwysterau priodol.Cafwyd yr un drafferth â’r swydd Cyfrifydd, ond yn yr achos hwnnw penderfynwyd ail-hysbysebu’r swydd ar raddfa uwch.Câi’r swydd Swyddog Llywodraethu a Chymorth ei hail-hysbysebu ar yr un raddfa ag o’r blaen.

                      O ran y Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, mynegodd Mr Hibbert bryder yngl?n â phenodi a hyfforddi rhywun oedd newydd raddio, a fyddai wedyn yn medru gadael yr awdurdod gweinyddu ar ôl dwy neu dair blynedd i gael swydd yn rhywle arall am well cyflog.  Cytunodd Mr Latham fod yno berygl o hynny, ac y gallai mwy o uwch-swyddi ddod ar gael gyda’r Gronfa yn y dyfodol, pe byddai’r swydd Raddedig yn llwyddo.Dywedodd y Cadeirydd fod yr un peth yn digwydd gydag awdurdodau eraill.Credai Mr Latham y gallai anghenion Cronfa Clwyd fod yn wahanol oherwydd ei strwythur, ond bod yr heriau’r un fath gyda chronfeydd eraill. 

                      Holodd Mr Hibbert a oedd cyfleoedd i rannu’r swydd â chronfa arall, ond cadarnhaodd Mr Latham na fyddai hynny’n bosib oherwydd nifer o elfennau unigryw’r swydd benodol hon.  Amlygodd y Cadeirydd y perygl o ran colli gwybodaeth ac arbenigedd y swyddogion presennol.

                      Yna soniodd Mr Latham fod Marsh and McLennan yn y broses o brynu JLT, a bod y cwmni hefyd yn berchen ar Mercer.  Roedd hynny’n golygu, pe cwblheid y contract presennol â JLT yna câi hwnnw ei newyddu er mwyn cydnabod newid y cwmni.

                      Aeth Mr Latham ymlaen i’r rhan nesaf a oedd yn ymwneud â’r Bwrdd Pensiynau. Cynhaliwyd cyfarfod fis Hydref a rhoddwyd braslun o’r prif bynciau trafod yn yr adroddiad, gan y sylw a roddwyd i ddull y Gronfa o reoli perygl seiberdroseddu. Aeth Mr Latham a Mr Pumford i gyfarfod Bwrdd Lleol Cronfa Bensiynau Swydd Gaer ac roedd y Byrddau’n cydweithio i weld a allent ddysgu rhywbeth gan ei gilydd.Holodd y Cadeirydd a oedd y gwaith yn addawol.Cadarnhaodd Mr Pumford y bu’n ymarfer da iawn a thra buddiol.

                      Rhannodd Mr Latham y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Soniodd yn benodol am y prosiect ymwahanu oedd yn mynd rhagddo, a’r broblem y gallai gwrthdaro buddiannau godi rhwng rheoli Cronfa Bensiynau’r Cynllun a swyddogaethau ac amcanion y rhiant-awdurdod lleol.                       

                      Dywedodd Mr Hibbert y bu’n bresennol mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Wasanaeth Pensiynau Unsain, lle canwyd clodydd Cronfa Bensiynau Clwyd am ei pholisi buddsoddi cyfrifol.

                      Aeth Mr Latham ymlaen i sôn fod dolen gyswllt ar dudalen 40 i weld adroddiadau blynyddol y Bwrdd Pensiynau Lleol a’r Cynghorydd Annibynnol, a gwahoddodd aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau ynghylch hynny.

Cyfeiriodd Mr Latham hefyd at eitem 1.06 ar y rhaglen, gan sôn y cafwyd ymateb da iawn i’r Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol, er yr hoffai weld mwy o bobl yn dod y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Latham y bu rhai o aelodau’r Pwyllgor mewn cynhadledd yng Nghaerdydd yn ddiweddar a oedd yn ymwneud â buddsoddi cyfrifol.Ar sail yr ymateb a gafodd Mr Latham, roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb mawr yn hyn, a dymunai’r aelodau gael mwy o wybodaeth am waith y Gronfa.Yn y gorffennol bu’r Gronfa’n cyhoeddi adroddiad ar wahân ar fuddsoddi cyfrifol pan gynhelid panel.Dywedodd Mr Latham eu bod yn ceisio cadarnhau a ddymunai’r Pwyllgor gynnwys y mater ar raglen cyfarfod ym mis Chwefror neu fis Mawrth 2019. Cytunodd yr aelodau y dymunent wneud hynny gan fod hwn yn bwnc llosg.   Cadarnhaodd Mr Latham hefyd y byddai’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â datblygiad polisi’r Bartneriaeth pe byddai modd.

Soniodd Mr Latham am adolygu’r polisïau ar waelod tudalennau 41 a 42, gan gynnwys adolygu’r Polisi Hyfforddiant a’r Polisi Tor-cyfraith.Gan gyfeirio at eitem 1.10 ar y rhaglen, gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor ystyried a oeddent yn llwyr ddeall eu cyfrifoldebau o ran y ddau bolisi hwn.Pwysleisiodd y Cadeirydd y dylai aelodau’r Pwyllgor grybwyll unrhyw anghenion yn y dyfodol wrth Mrs Fielder.  Dywedodd Mr Hibbert y dymunai gael mwy o hyfforddiant ar agweddau gweinyddol, a chytunwyd y byddai hynny’n digwydd yng nghyfarfod mis Chwefror neu fis Mawrth, a byddai Mrs McWilliam yn cysylltu â Mr Hibbert i drafod pa fath o hyfforddiant y dymunai ei gael.

Gan gyfeirio at Gydymffurfiaeth â Chod Ymarfer y Rheoleiddiwr Pensiynau ar dudalen 42, soniodd Mr Latham fod Mrs Fielder a Mrs Williams wedi mynd drwy hyn â chrib fân ac y byddent yn llunio cynllun gweithredu ar gyfer gwella cydymffurfiaeth.

Dywedodd Mrs Fielder y cynhelid hyfforddiant diweddaru i aelodau’r Pwyllgor ar 19 Rhagfyr rhwng 12pm a 6pm yn yr ystafell Pensiynau.Diolchodd Mrs Fielder i bawb am eu hymrwymiad wrth gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant a chynadleddau ar hyd y flwyddyn a fu.

Gan gyfeirio at eitem 1.16 ar y rhaglen, dywedodd Mr Latham y cymerodd y Pwyllgor ran yn arolwg Hymans Robertson yngl?n â ffydd yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn genedlaethol.Cyflwynwyd y canlyniadau yn Atodiadau 13 a 14. Soniodd Mr Latham fod y Pwyllgor a’r Bwrdd eisoes wedi cwblhau eu hunanasesiadau o’u hanghenion hyfforddiant.

Yn olaf, roedd Mr Latham wedi cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio ar 21 Tachwedd yngl?n â Llywodraethu’r Gronfa.Yn dilyn y cyfarfod hwn roedd Mr Everett yn bwriadu siarad â Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio i’w helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r modd yr oedd y Pwyllgor hwnnw’n cyflawni ei swyddogaeth ar ran yr awdurdod gweinyddu yngl?n â’r Gronfa Bensiynau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf a gwneud sylwadau.

 

(b)  Y bu’r Pwyllgor yn trafod pa gamau gweithredu y gellid eu cymryd ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd yn nigwyddiad Buddsoddi Cyfrifol Cymru yn ddiweddar, gan gadarnhau y dylid cynnwys dull y Gronfa o ran Buddsoddi Cyfrifol/Ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol ar raglen y cyfarfod nesaf er trafodaeth.

 

(c)  Y bu’r Pwyllgor yn ystyried y Polisi Hyfforddiant presennol a’r Weithdrefn ar gyfer Cofnodi ac Adrodd ynghylch Tor-cyfraith, ac wedi cadarnhau na fyddent yn gofyn am unrhyw newidiadau yn yr un ohonynt

 

 

Dogfennau ategol: