Agenda item

Y Canllaw Diweddaraf ar Ddefnydd o'r Cyfryngau Cymdeithasol gan CLlLC

Pwrpas: Diweddaru’r Pwyllgor ar y Canllaw Diwygiedig gan CLlLC

 

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i roi’r diweddaraf i’r Pwyllgor ar y canllawiau diwygiedig gan CLlLC.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd nad oedd y Cyngor wedi mabwysiadu protocol arwahân ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ond ei fod wedi cylchredeg y canllawiau a gyhoeddwyd gan CLlLC i Aelodau oedd yn mynd i’r afael â’r materion a gaiff eu codi gan y cyfryngau cymdeithasol yn glir a chynhwysfawr.Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro mai pwrpas y canllawiau a oedd wedi eu diweddaru oedd i alluogi Cynghorwyr i elwa o’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol tra’n lleihau’r risgiau cysylltiedig fel niwed i enw da a/neu dorri’r cod ymddygiad, yn ogystal â darparu cyngor ymarferol ar sut i reoli'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn lles personol y Cynghorwyr.Roedd y canllawiau a oedd wedi eu diweddaru hefyd yn darparu dolen i ganllawiau newydd yn ymwneud yn benodol ag ymdrin â chamdriniaeth ar-lein.Roedd copi o’r canllawiau ynghlwm â’r adroddiad. 

 

                        Yn ystod trafodaeth ymatebodd y Swyddog Monitro i’r cwestiwn a godwyd gan Glerc Cyngor Tref Saltney yn ymwneud â pha gamau y gellid eu cymryd pe bai'r polisi cyfryngau cymdeithasol yn cael ei dorri.Eglurodd y byddai'r Ombwdsmon, wrth ymchwilio i gwyn, yn edrych i weld a oedd darpariaethau’r cod ymddygiad wedi eu torri ac y byddai’n defnyddio canllawiau atodol, pan fo diffyg eglurder o fewn y cod, neu’n edrych am eglurhad pellach yngl?n â beth allai hynny olygu. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro mai dim ond os oedd y cod ymddygiad wedi ei dorri y gallai’r Ombwdsmon weithredu.Wrth ymateb i gwestiynau pellach a godwyd gan Glerc Cyngor Tref Saltney yn ymwneud â sut i atal unrhyw achosion o dorri’r polisi cyfryngau cymdeithasol, eglurodd y Swyddog Monitro mai Cadeiryddiaeth gref oedd yr amddiffyniad cyntaf yn erbyn ymddygiad annerbyniol a allai ddatrys materion yn gynnar. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Lloyd nifer o bryderon yn ymwneud â'r defnydd amhriodol o'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod etholiadau lleol. Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai’r Awdurdod yn mynd i’r afael â'r cwynion a wnaed i’r Cyngor ac y byddai’n edrych i weld a oedd ymgeiswyr wedi torri’r rheolau, ond nid oedd ganddo'r adnoddau i fonitro'r defnydd helaeth o'r cyfryngau cymdeithasol yn llawn.Dywedodd fod yr aelodau presennol yn ddarostyngedig i’r cod ymddygiad yn ystod etholiadau lleol a dywedodd y byddai'r ddeddf etholiadol yn cael ei thorri pe byddai ymgeiswyr yn dweud anwiredd am gymeriad ymgeisydd arall (er enghraifft eu gwrthwynebydd).  

 

                        Tynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro sylw at dudalen 34 yng nghanllawiau CLlLC sydd wedi eu diweddaru a sydd ynghlwm i'r adroddiad ar fonitro'r cyfryngau cymdeithasol.

 

                        Wrth ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson ar fater camdriniaeth arlein gan droliaid, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y canllawiau ar aros yn ddiogel ac ymdrin â throliaid a gaiff eu cynnwys yng nghanllawiau CLlLC ar y cyfryngau cymdeithasol a thynnodd sylw at yr wybodaeth ar dudalennau cymorth Facebook a Twitter yngl?n â sut i atal defnyddwyr a rhoi gwybod am gamdriniaeth.

 

                        Wrth ymateb i ymholiad pellach gan Gyngor Cymuned Nannerch yn ymwneud â sut yr ymdrinnir ag achos o dorri’r polisi cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Swyddog Monitro pe bai’r mater yn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Safonau byddai wedyn yn cael ei gyfeirio at yr Ombwdsmon a fyddai’n ystyried a oedd yna achos o dorri'r Cod Ymddygiad.Os oedd y Cynghorau Tref a Chymuned wedi mabwysiadu eu polisi cyfryngau cymdeithasol eu hunain byddai’n cael ei ddefnyddio i farnu’r amgylchiadau o gylch y mater.

 

                        Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod canllawiau CLlLC yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â rheoli'r defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol a chreu hunaniaeth bersonol a gwaith ar wahân.

 

                        Cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley y byddai geiriad yr argymhelliad yn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio i ddweud ‘Mae’r Pwyllgor yn argymell fod Aelodau yn cydymffurfio â’r Canllawiau a Ddiweddarwyd’.Eiliwyd hyn a chafodd ei gymeradwyo pan gynhaliwyd pleidlais ar y mater.

 

                        Cytunodd y Swyddog Monitro i gylchredeg canllawiau diweddaraf CLlLC i'r holl Aelodau ac i Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned i’w hysbysu ei fod wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Safonau ac yr argymhellwyd ei fod yn cael ei ddwyn i sylw’r Cynghorau Tref a Chymuned nad oedd â pholisi eisoes.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Fod y Pwyllgor yn argymell fod Aelodau yn cydymffurfio â’r Canllawiau a Ddiweddarwyd.

Dogfennau ategol: