Agenda item

(i) Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CYLLIDEBAU CENEDLAETHOL; GOBLYGIADAU A'R RHAGOLYGON LLEOL DIWEDDARAF

Pwrpas:        Derbyn cyflwyniad gan y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar safle’r gyllideb genedlaethol a’r goblygiadau.

Cofnodion:

(ii) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 1 - CYLLID CORFFORAETHOL

 

(iii) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 2 – YR HOLL BORTFFOLIOS

 

(iv) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 2 – GWASANAETHAU CORFFORAETHOL

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd ar broses y gyllideb flynyddol a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:

 

·         Cyflwyniad a phwrpas yr adroddiadau cyllid

·         Cam 1 Cyllideb 2019/20

o   Datrysiadau’r gyllideb gorfforaethol

·         Cam 2 Cyllideb 2019/20

o   Crynodeb o gynigion cynllun busnes ar lefel portffolio

o   Cynigion cynllun busnes gwasanaethau corfforaethol

·         Y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa’r gyllideb genedlaethol

·         Datganiadau Cyllideb DU y Canghellor

·         Rhagolwg y gyllideb leol wedi’i ddiweddaru 2019/20

·         Dewisiadau ac opsiynau strategol

o   Crynodeb o sefyllfa gyllidebol Cymru

o   Adborth sesiynau’r gweithlu

o   #CefnogiGalw – sefyllfa ymgyrchu a’r drafodaeth gyhoeddus

o   #EinDiwrnod 20 Tachwedd

·         Y camau nesaf a therfynau amser

 

Roedd Cam 1, a ddaeth i ben, yn cynnwys datrysiadau ar gyfer cyllid corfforaethol a'r costau ar gyfer y sefydliad cyfan fel y nodwyd yn yr adroddiad.   Roedd rhan o’r cyfanswm o £7.937m yn isafswm o gynnydd Treth y Cyngor o 4.5% ac roedd at ddibenion dangosol ar y cam hwn, net y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.   Roedd gostyngiadau ar gyfer cymorthdaliadau Model Darparu Amgen (ADM) wedi’u cynnwys yng nghynlluniau busnes y sefydliadau hynny.   Rhannwyd datganiadau dull ategol ar gyfer pob cynnig, ag eithrio’r gostyngiad yn swyddi rheoli corfforaethol a’r ffrydiau incwm newydd lle bo’r gwaith yn parhau, a’r adolygiad anomaleddau cludiant a oedd yn adlewyrchu canlyniadau penderfyniadau blaenorol ar hawl i gludiant.

 

Roedd cynigion Cam 2 yn cynnwys penderfyniadau gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a oedd wedi adolygu eu portffolios perthnasol.   Roedd y pwysau o ran costau, buddsoddiadau ac arbedion effeithlonrwydd yn cael eu hargymell i’w mabwysiadu heb eithriad.   Gydag incwm ac arbedion effeithlonrwydd lleihau'r gweithlu / swyddi wedi'u targedu wedi'u nodi mewn man arall yn y strategaeth, byddai cyfanswm cynigion effeithlonrwydd portffolio'r cynllun busnes yn cyfrannu £0.630m i'r bwlch a ragwelwyd yn y gyllideb.   Roedd hyn yn cynnwys cyfanswm o £0.360m ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol a chrynhodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) eu meysydd perthnasol.

 

Eglurwyd y byddai unrhyw adborth gan y Pwyllgor yn cael ei rannu gyda'r Cabinet wrth ystyried mabwysiadu'r cynigion ar gyfer Camau 1 a 2, cyn eu cyflwyno i'r Cyngor Sir.

 

Yn ystod diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb genedlaethol gan y Prif Weithredwr, atgoffwyd yr Aelodau bod Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol yn nodi gostyngiad o 1% yng Nghyllid Allanol Cyfun (AEF) ar gyfer Sir y Fflint a oedd yn gyfystyr â £1.897m ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau tuag at ddyfarniad cyflog athrawon cenedlaethol a chynnydd mewn galw am brydau ysgol am ddim.

 

Ers adrodd am y rhagolwg o £13.7m o fwlch yn y gyllideb ym mis Medi, roedd nifer o newidiadau i bwysau a phwysau ychwanegol wedi arwain at fwlch cyllidebol diwygiedig o £13.9m.   Byddai effaith y gostyngiad mewn arian yn AEF a gweithrediad cynigion Cam 1 a 2 yn gadael bwlch cyllidebol o £6.7m ar gyfer 2019/20.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi cytuno nad oedd cwmpas ar gyfer arbedion effeithlonrwydd mawr pellach y tu hwnt i'r rhai a nodwyd eisoes.   Yr unig opsiwn oedd ar gyfer mynd i'r afael â'r bwlch yn y gyllideb oedd newidiadau i gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) a gosod Treth y Cyngor.   Atgyfnerthodd adborth o’r ddwy sesiwn gyda’r gweithlu y pryderon am faint ac effaith y mesurau caledi.

 

Cyflwynwyd sylwadau drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar annigonolrwydd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol, yn enwedig ar gyfer Sir y Fflint fel un o’r rhai ar waelod tabl cyllid Cymru.   Yng nghyfarfod y Cyngor, byddai gofyn i'r Aelodau gefnogi lansiad ymgyrch #CefnogiGalw a oedd yn cynnwys cyfres o 'alwadau' i gyflawni cyllid tecach ar gyfer cynghorau yng Nghymru.   Hyd yn oed pe bai’n cael ei gyflawni’n llawn, gallai’r opsiynau (oddeutu £5.6m ar gyfer Sir y Fflint) arwain at gynnydd o 7% yn Nhreth y Cyngor – ond byddai’n cael ei osod yn erbyn yr angen i gyflwyno cynnydd llawer uwch.

 

Eglurodd y Cynghorydd Shotton bod y ‘galwadau’ hyn yn adlewyrchu’r rhai a geisir gan CLlLC, gan gynnwys yr angen i gael hyblygrwydd ar gyllid ychwanegol ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol i gynorthwyo i ddiwallu pwysau allweddol a bod y cyllid 'canlyniadol’ newydd sydd heb ei ddyrannu yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cynghorau.   Tra bo’r trafodaethau yn parhau, roedd angen cefnogaeth ar gyfer ymgyrch Cefnogi Galw er mwyn dylanwadu ar Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr.

 

Yn ystod y cyfarfod, derbyniodd y Prif Weithredwr gadarnhad y byddai cyllid gan Lywodraeth y DU i ddiwallu dyfarniad cyflog athrawon ar gyfer 2019/20 yn cael ei gynnwys yn y Setliad, tra byddai’r swm ychwanegol ar gyfer y flwyddyn bresennol yn cael ei ddosbarthu fel grant penodol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Woolley bod y Pwyllgor yn llwyr gefnogi ymgyrch #CefnogiGalw.   Croesawyd hyn gan y Prif Weithredwr a nododd y byddai gwybodaeth bellach am yr ymgyrch yn cael ei chyhoeddi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones bod ffigwr dangosol o’r fath ar gyfer Treth y Cyngor yn dro cyntaf ar gyfer y Cyngor ac yn arddangos maint yr her ariannol.   Atgoffodd y Prif Weithredwr bod cap Treth y Cyngor LlC wedi'i godi a bod y 7% posibl a nodwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys y 4.5% yn y gyllideb ac roedd yn dibynnu ar amrywiadau yn absenoldeb unrhyw ddatrysiadau eraill.   Roedd cynnydd dangosol blynyddol o 3% wedi’i osod gan y Cyngor yn y flwyddyn flaenorol.   Dangoswyd cynnydd o 4.5% dangosol ar egwyddor tebyg yn nodi bod yr heriau ariannol yn llawer mwy na’r blynyddoedd blaenorol.   Mewn ymateb i sylwadau ar gymhareb nifer y gweithwyr i’r gwariant, eglurwyd nad oedd y ffigyrau a nodwyd mewn adroddiad adolygiad gan gymheiriad anffurfiol blaenorol yn seiliedig ar ddata presennol ac roeddent cyn trosglwyddo rhai gwasanaethau penodol i ADMau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton bod yr holl ‘alwadau’ yn rhesymol a bod modd eu cyflawni.   Croesawodd yr arwyddion bod rhywfaint o symudiad cadarnhaol mewn ymateb i ymgyrch gref a siaradodd am y posibilrwydd o drafodaethau ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn a chyfalaf i gynorthwyo i liniaru pwysau refeniw.

 

Darparodd y swyddogion eglurhad ar ffigyrau effeithlonrwydd ar gyfer y cynnydd yn Nhreth y Cyngor, gostyngiadau pwysau costau corfforaethol a phwysau portffolio a buddsoddiadau.   Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Prif Weithredwr y gallai sesiwn wybodaeth ar ddeall cyllid pensiwn fod o gymorth i'r Aelodau.   Yn dilyn ymholiadau ar effeithlonrwydd costau cludiant, cytunodd y swyddogion y byddant yn darparu ymatebion ar gyfanswm ffigwr o £183,000, gwerth y refeniw prisiau a ragwelir a gedwir gan weithredwyr a hyfywedd Opsiwn 2.

 

Crynhodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ganlyniad y drafodaeth mewn cyfres o benderfyniadau a gytunwyd gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynigion y gyllideb ar gyfer Cam 1 a 2 fel y nodwyd yn eitemau 6-9 ar y rhaglen i'w hargymell i’r Cabinet a’r Cyngor;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r argymhellion gan y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu arall.

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn llwyr gefnogi strategaeth #CefnogiGalw; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn derbyn y bydd angen mynd i'r afael â'r cwestiynau ar gostau cludiant y tu allan i'r cyfarfod cyn y gellir llunio ymateb, ac yn nodi y bydd gwaith pellach yn cael ei gyflawni ar anomaleddau cludiant i sefydlu a ellir gwella swm yr arbedion effeithlonrwydd.