Agenda item

Cynnydd i Ddarparwyr

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad ar y cynnydd i ddarparwyr

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynnydd i Ddarparwyr - Creating a Place Called Home … Delivering What Matters, a hefyd dywedodd wrth y Pwyllgor am y llwyddiant diweddar yng Ngwobrau Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru 2018.Gwahoddodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu i gyflwyno fideo byr ar Gynnydd i Ddarparwyr ac i adrodd am y prif ystyriaethau fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Darparodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu wybodaeth gefndir a dywedodd mai newid allweddol diweddar yn y sector gofal fu cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector symud oddi wrth gomisiynu gwasanaethau ar sail tasgau a symud tuag at sicrhau bod darparwyr yn cefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol eu hunain a hyrwyddo lles. Dywedodd fod yr ethos hwn hefyd wedi’i adlewyrchu yn Adroddiad Comisiynydd Pobl H?n Cymru 2014, ‘Lle i’w Alw’n Gartref? - Adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl h?n sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru’ a oedd ynghlwm i’r adroddiad.  Er mwyn symud y cysyniad hwn ymlaen,  gwnaeth yr Awdurdod estyn gwahoddiad agored i bob cartref gofal preswyl yn Sir y Fflint, a gwnaeth 16 o’r 26 Cartref Gofal Nyrsio a Phreswyl ymrwymo i fod yn rhan o’r rhaglen. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod y cartrefi hyn yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau darparwr mewnol yr Awdurdod ei hun, a thimau gwaith cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, timau rheoli ac ati, i weithredu arfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn.  

 

Gwnaeth yr Uwch Reolwr egluro, er mwyn cydnabod y cynnydd roedd y cartrefi gofal yn ei gyflawni o ran gweithredu arferion gofal sy’n canolbwyntio ar unigolyn, roedd yr Awdurdod wedi datblygu ei becyn gwaith hunanasesu ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ ei hun.  Er mwyn dangos cynnydd, cyflwynodd yr Awdurdod 3 lefel o achrediad a gaiff eu dilysu gan Dîm Contract a Chomisiynu Sir y Fflint mewn partneriaeth â’r Rheolwyr Cartrefi Gofal. Ym mis Medi 2018, cafodd y prosiect ei gydnabod yn gyhoeddus gan ennill Gwobrau Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru am ganlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygiad staff. Roedd y prosiect hefyd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus – Dathlu cyflawniad rhagorol ac arloesedd ym maes darparu gwasanaethau llywodraeth leol y DU.  I gloi, soniodd yr Uwch Reolwr am y cynnydd a oedd wedi’i wneud hyd yma gan gartrefi gofal preswyl yn Sir y Fflint, fel a nodir yn yr adroddiad. 

 

Mynegodd Cynghorydd Hilary McGuill bryder am gartrefi gofal nad oeddent wedi eu hymrwymo i’r Rhaglen eto. Eglurodd yr Uwch Reolwr fod pob cartref gofal yn ymwybodol o’r Rhaglen a’u bod yn ymgysylltu ond eu bod ar wahanol gamau o ran cynnydd.    Dywedodd fod y Tîm Monitro Contract yn gweithio’n agos gyda chartrefi gofal, gan ddarparu canllawiau a chefnogaeth, i wella perfformiad lle bo angen i’w galluogi i gyflawni’r canlyniadau a safonau dymunol.

 

Soniodd y Cynghorydd Gladys Healey am breswylwyr Sir y Fflint a oedd yn mynd i gartrefi gofal mewn ardaloedd eraill, gan nodi Wrecsam a Swydd Gaer fel enghreifftiau, a gofynnodd sut roedd y cartrefi gofal yn cael eu monitro.  Eglurodd yr Uwch Reolwr fod gan bob awdurdod Dîm Monitro Contract a bod monitro arfer yn cael ei ailadrodd ar draws y rhanbarth.  Gan ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Healey o ran arferion gwael, amlinellodd yr Uwch Reolwr yr ymyriadau a gymerwyd gan y Tîm Monitro Contract i nodi ac atal unrhyw ddirywiad o ran safonau gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)         Bod effaith Cynnydd i Ddarparwyr – Creating a Place Called Home Delivering What Matters yn cael ei nodi; a

 

(ii)        Bod y camau gweithredu a’r mentrau sy’n mynd rhagddynt i ddatblygu’r rhaglen ymhellach yn cael eu cefnogi.

Dogfennau ategol: