Agenda item

Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad ar y Strategaeth Anabledd Dysgu

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad am Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun i egluro’r Strategaeth a dywedodd y byddai’n mynd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gael cymeradwyaeth ym mis Tachwedd 2018, yna byddai’n mynd drwy brosesau cymeradwyo’r chwe awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Sarah Bartlett, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol, Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru, a’i gwahodd i gyflwyno’r adroddiad.  Eglurodd y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol, er mwyn gwireddu’r weledigaeth a darparu gwasanaethau ar sail beth oedd yn bwysig i bobl, roedd pum pecyn gwaith wedi’u cynllunio a fyddai’n egluro sut byddai pethau’n newid i sicrhau bywydau da i bobl ag anableddau dysgu. Mae’r pecynnau gwaith yn dilyn dull ar sail asedau i adeiladu ar y sgiliau, rhwydweithiau ac adnoddau cymunedol oedd gan bobl ag anableddau dysgu eisoes. Cânt eu cynhyrchu ar y cyd â phobl ag anableddau dysgu a’u rhieni/gofalwyr. Yr allwedd i gyflawni’r weledigaeth fydd gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu gwerthfawrogi’n wirioneddol a’u cynnwys yn eu cymunedau. Soniodd Sarah Barlett am y pum pecyn gwaith a amlinellir yn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr ymgynghoriadau eang a gynhaliwyd ar y Strategaeth a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a dywedodd fod cwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor yn cael eu croesawu.

 

Wrth gydnabod y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran yr angen i egluro targedau a chamau gweithredu yn y Strategaeth, tynnodd y Prif Swyddog sylw at y mesurau ar dudalen 90 yr adroddiad fel enghraifft o’r camau gweithredu i’w cymryd i weithredu’r Strategaeth.Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion/Blynyddoedd Cynnar fod hon yn Strategaeth Gogledd Cymru gyffredinol ac roedd gwaith yn barhaus yn Sir y Fflint o ran gweithredu’r strategaeth ar lefel leol.Cyfeiriodd at yr angen i roi sylw i ofynion nifer o Ddeddfau yn y sector.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at nifer y plant yn yr adroddiad gydag anhawster dysgu difrifol neu ddwys. Soniodd am yr angen i rieni fod â sicrwydd bod Datganiad o Angen Addysgol ar waith drwy gydol addysg eu plentyn o’r ysgol gynradd i addysg uwch a choleg neu brifysgol. Gofynnodd pa mor dda roedd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cysylltu â gwasanaethau Addysg.Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Anabledd, Datblygiad ac Adferiad - Gwasanaethau Oedolion fod gan nyrsys a gweithwyr cymdeithasol dimau wedi’u cyd-leoli sy’n gweithio’n dda iawn. Ychwanegodd o ran angen addysgol, mae tîm trosglwyddo a phanel trosglwyddo sy’n cyfarfod gyda chynrychiolwyr addysgu bob mis.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin fod cyfeiriad yn cael ei wneud at y Lluoedd Arfog yn y Strategaeth. Cytunodd y Prif Swyddog i symud hyn ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at hyfforddiant i Feddygon Teulu o ran anableddau dysgu a gofynnodd a oedd hyfforddiant wedi’i gynllunio neu a oedd eisoes yn digwydd. Dywedodd y Prif Swyddog fod rhywfaint o hyfforddiant yn digwydd, fodd bynnag mae angen rhagor o gysonder ar draws y rhanbarth. Ychwanegodd fod pobl ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o fod ag iechyd corfforol gwael.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Sarah Bartlett a swyddogion am eu presenoldeb a’u hatebion manwl i gwestiynau Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Bod y Pwyllgor yn cefnogi Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru drafft ac argymell bod y Cabinet yn ei chymeradwyo.

Dogfennau ategol: