Agenda item

Dyfarniad Tâl Athrawon 2018

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth am gost amcangyfrifedig a sefyllfa gyllido                         bresennol y dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer athrawon a                   staff cymorth ysgolion

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad gyda manylion am amcan gost a safle cyllid presennol ar gyfer y dyraniadau cyflog cenedlaethol i athrawon a staff cymorth ysgolion. Roedd hyn yn fater o bryder sylweddol gan fod y pwysau ariannol sy’n wynebu cynghorau ac ysgolion yn golygu nad oedd capasiti i dderbyn unrhyw bwysau ariannol pellach.

 

Disgrifiodd y Prif Swyddog y sefyllfa fel un 'difrifol' a rhoddodd ganmoliaeth i ymdrechion y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor i wneud sylwadau nad ellid disgwyl i’r Cyngor dalu cost dyfarniad cenedlaethol lle nad oedd ganddo lawer o ddylanwad drosto. Roedd amcan lefel uchel o gyfran Sir y Fflint o gyllid ychwanegol i’w ddarparu gan Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynnydd mewn cyflog yn gyfystyr â thua 50% o gyfanswm y bil. Yn ychwanegol at y cynnydd mewn cyflog, roedd gwybodaeth ddiweddar am y cynnydd rhagweladwy mewn costau cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon yn achosi mwy o bryder. Tynnwyd sylw at y risgiau i gadernid ariannol ysgolion a goblygiadau posibl o ran staffio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at Grynodeb Gweithredol yr adroddiad ac eglurodd nad oedd dyfarniad cyflog athrawon wedi ei gyllido’n llawn yn Lloegr, fel yr eglurwyd yn llawn ym mharagraff 1.01. Aeth ymlaen i bwysleisio pwysigrwydd o sefydlu’r egwyddor mai’r rhai sy’n gyfrifol am ddyfarnu’r cynnydd mewn cyflog a ddylai ei gyllido.

 

Eglurodd y rheolwr cyllid bod y cynnydd mewn costau cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon yn anrhagweladwy a bod gwybodaeth hwyr yn effeithio gallu ysgolion a chynghorau i gynllunio’n effeithiol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes y dylai difrifoldeb y mater gael ei gyfleu i breswylwyr, ac yn arbennig i rieni mewn perthynas â’r goblygiadau i ddysgwyr ifanc. Wrth ddiolch i’r uwch swyddogion a’r Arweinydd am ymgyrchu, dywedodd bod cydgyfrifoldeb ar holl aelodau etholedig i godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa. Ychwanegodd ei fod yn cefnogi cynnydd mewn cyflog, ond y dylai'r gost gael ei gyllido'n llawn.

 

Dywedodd David Hÿtch er bod y cynnydd mewn cyflog i athrawon yn hir-ddisgwyliedig, cwestiynodd beth oedd modd ei gyflawni. Cyfeiriodd at yr ystod graddau a dywedodd bod y cynnydd ar gyfer yr Uwch Raddfa Gyflog ac Arweinyddiaeth yn dal i fod o dan lefelau chwyddiant. Ychwanegodd na fyddai’r newidiadau yn mynd i’r afael â phroblemau gyda recriwtio a chadw, llanw athrawon na’r gwahaniaeth rhwng athrawon dosbarth a’r rhai ar lefelau rheolaethol.

 

Cynigodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor gefnogi’r safbwyntiau a fynegwyd bod y sefyllfa yn annerbyniol ac y dylai’r dyfarniad gael ei gyllido’n genedlaethol wrth i’r Cyngor barhau i ymgyrchu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd White at gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Airbus a dywedodd y dylai addysg bobl ifanc hefyd gael ei gyllido’n iawn er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial cyflogadwyedd.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd o gyfathrebu rheolaidd gydag ysgolion a Phenaethiaid er mwyn rhannu gwybodaeth a chynnig cefnogaeth ar y darlun sy’n newid yn gyflym. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn ymwybodol o werthfawrogiad ysgolion o’r ddeialog gyfredol.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r penderfyniadau gwahanol i adlewyrchu’r pryderon a godwyd, yn ychwanegol at y pwynt a wnaed gan y Cynghorydd Roberts o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cymell bod dyfarniad cyflog gweithlu addysg yn cael ei ariannu’n genedlaethol; ac

 

 (b)      Yn ei rôl yn y dyfodol, bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd o ariannu unrhyw ddyfarniad cyflog athrawon yn llawn.

Dogfennau ategol: