Agenda item

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 5)

Pwrpas:          Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis  5  a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 fel yr oedd ym Mis 5 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

O ran Cronfa'r Cyngor, roedd y diffyg weithredol wedi gostwng i £0.303miliwn o £0.660miliwn yn y mis blaenorol.  O ran safle rhagdybiaethol y portffolios, roedd y gorwariant ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir yn ystod y flwyddyn yn cael ei wrthbwyso’n bennaf gan y tanwariant sylweddol ar Gyllid Canolog a Chorfforaethol. 

 

Amcangyfrifwyd y byddai 97% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Ymhlith y risgiau sy’n cael eu holrhain, argymhelliwyd y dylid cyfrannu o leiaf £0.015miliwn o arian wrth gefn y Cyngor tuag at costau cyfreithiol yr ymchwiliad cenedlaethol annibynnol i Gam-Drin Plant yn Rhywiol.

 

Tynnwyd sylw at y pwysau sylweddol sydd ar ysgolion o ganlyniad i’r gwobrau tâl athrawon a gwobrau tâl eraill na wyddys amdanynt pan osodwyd y gyllideb.  Fel y soniwyd dan yr eitem diwethaf, byddai newidiadau arfaethedig i bensiynau athrawon yn golygu cynnydd yng nghyfraddau cyfraniadau cyflogwyr. 

 

Mae crynodeb o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn dangos gostyngiad blynyddol gyda chyfanswm yr amcanestyniad ar ddiwedd y flwyddyn yn £11.101miliwn.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.067m yn is na’r gyllideb, gan adael balans o £1.165m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

O ran cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’n bosibl newid enw Flintshire Enterprise Ltd am nad yw'n bodoli mwyach.  Cytunodd swyddogion i ymchwilio i hyn.

 

Tynnodd y Cynghorydd Heesom sylw at newidiadau i’r gyllideb ar gyfer Strydwedd a Chludiant a chludiant i'r ysgol yn benodol.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r adroddiad nesaf i'r Cabinet yn mynd i'r afael â materion na ddatryswyd i'w ystyried gan Trosolwg a Chraffu yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at incwm o daliadau meysydd parcio nad yw wedi cyrraedd y targed rhagamcanol a gofynnodd a fyddai'n bosibl ei adolygu eto oherwydd yr effaith sylweddol ar fasnachwyr canol tref a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr.  Dywedodd y gallai'r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo a chefnogi adfywiad canol trefi, oherwydd bod llawer o bobl yn dewis ffyrdd eraill o sopia, megis Parc Brychdyn lle y gellir parcio am ddim.  Roedd Aelodau eraill yn cefnogi’r farn hon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mullin bod hyfywedd canol trefi yn broblem genedlaethol o ganlyniad i newid yn y ffordd mae pobl yn dewis siopa.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at y diffyg incwm gan gynnwys yr oedi mewn gweithredu ffioedd yn y Fflint.  Caiff manylion pellach eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Rhagfyr fel rhan o adolygiad canol y flwyddyn o'r Strategaeth Barcio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at y dulliau gwahanol o adfywio canol trefi.  Trafododd y Cynghorodd Johnson welliannau i ganol tref Treffynnon sydd wedi cael ei chynnwys yn y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain.  Dywedodd bod hygyrchedd strydoedd mawr yn cynnwys adolygu darpariaeth parcio, fodd bynnag, cydnabuwyd bod canol trefi yn wahanol ym mhobman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad Monitro Cyllid Refeniw Mis 5 a chyflwyno’r materion canlynol gerbron y Cabinet fel meysydd i’w hystyried:

 

  • Diffyg incwm o feysydd parcio;
  • Cynnwys effaith y costau hynny ar adfywio canol trefi yn yr adolygiad o’r Strategaeth ym mis Rhagfyr;
  • Y ‘llithriad’ parhaus yn y gyllideb Strydwedd a Chludiant rhwng gwir gostau a chostau y cyllidebwyd, yn enwedig ynghylch atebion cludiant.

Dogfennau ategol: