Agenda item

Diweddariad Llywodraethu

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Cofnodion:

Mr Latham a gyflwynodd yr eitem hon ar yr agenda, gan ddweud bod y Gronfa wedi methu â phenodi o blith yr ymgeiswyr am y swyddi a hysbysebwyd. Roedd yn gweithio gydag Adnoddau Dynol i geisio datrys y sefyllfa.  Dywedodd Mr Everett fod popeth yn cael ei wneud, ond fod canfod ymgeiswyr o safon addas yn cymryd amser.  Soniwyd hefyd fod cynllunio ar gyfer olyniaeth yn bwnc trafod ledled y Cyngor, ac felly nid problem i’r gronfa bensiynau yn unig oedd hyn.

 

Aeth Mrs McWilliam ymlaen i drafod arolwg Aon o strwythurau trefniadaeth a chyflogau’r Awdurdodau Gweinyddu o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Roedd 31 o Awdurdodau Gweinyddu wedi cwblhau’r arolwg.  Dywedodd ei bod yn anodd bod yn gwbl wrthrychol gan nad oedd pob awdurdod gweinyddu’n gweithredu’r un fath (er enghraifft, roedd gan Gronfa Clwyd fuddsoddiadau sylweddol yn y farchnad breifat, yn wahanol efallai i gronfeydd eraill yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Ar y cyfan, roedd y mwyafrif a ymatebodd wedi dweud eu bod yn cael trafferthion, ac felly'n ystyried eu adnoddau a'u strwythurau.  Roedd oddeutu 20% hefyd yn talu Tâl Atodol/Premiwm y Farchnad, a oedd yn gyson â’r trafodaethau blaenorol a gafwyd yngl?n â pholisi recriwtio.

 

Soniodd Mr Latham y cynhelid seminar ar fuddsoddi cyfrifol yng Nghaerdydd ar gyfer aelodau Partneriaeth Pensiynau Cymru, ac y dylai aelodau o’r Pwyllgor roi gwybod i Mrs Fielder a fyddent yn gallu mynd.

 

            Hefyd, gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor gymeradwyo’r newidiadau yn y Polisi Gwrthdaro Buddiannau yn Atodiad 9.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau

 

(b)       Cymeradwyodd y Pwyllgor y newidiadau a gynigiwyd yn y Polisi Gwrthdaro Buddiannau.

 

Dogfennau ategol: