Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 10)

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 10), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 10 y flwyddyn ariannol.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Gan ystyried fod y Cyngor yn nesáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd amrywiadau sylweddol ar y sefyllfa derfynol yn annhebygol.

 

            Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

  • Arian dros ben gweithredol o £0.743 miliwn (£0.233 miliwn ym Mis 9); a
  • Balans disgwyliedig o £8.527 miliwn yn y gronfa at raid ar 31 Mawrth 2019 a ostyngwyd i £6.306 miliwn ar sail y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2019/20.

 

Roedd y symudiad cadarnhaol o £0.510 miliwn yn sgil amrywiadau diweddar iawn gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r sir yn dod i ben a’r hysbysiad ynghylch incwm Trethi Annomestig. Ni fyddai modd rhagweld yr amrywiadau hynny pan osodwyd cyllideb flynyddol 2019/20. Byddai’r gwelliannau i’r canlyniad yn cael effaith gadarnhaol ar argaeledd cronfeydd wrth gefn a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn a fyddai’n helpu diogelu’r Cyngor yn erbyn y risgiau hysbys yn 2019/20. Ni fyddai defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn i helpu cydbwyso’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gynaliadwy. A byddai cyngor ar faint y cronfeydd wrth gefn y gellid eu tynnu i lawr wedi parhau heb newid ar adeg gosod y gyllideb flynyddol, hyd yn oed gyda'r sefyllfa well.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.067 miliwn yn is na’r gyllideb; a
  • Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165 miliwn.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; cyllid canolog a chorfforaethol; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion - risgiau ac effeithiau; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi a chais i ddwyn cyllid yn ei flaen.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr, gan fod cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi ei ganslo, anfonwyd yr adroddiad Cabinet at Aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyn y dosbarthwyd rhaglen y Cabinet i gael unrhyw sylwadau. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau. Ychwanegodd fod gwybodaeth wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ar hysbysiadau grant hwyr, yn manylu ar y grant, a oedd yn ychwanegol neu’n newydd, y swm a’r effaith ar gyllideb 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019;

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

 (c)       Cymeradwyo’r cais i ddwyn ymlaen ym mharagraff 1.23.

Dogfennau ategol: