Agenda item
Datganiad Cyfrifon 2017/18
Adroddiad i gyflwyno fersiwn archwiliedig terfynol y Datganiad Cyfrifon 2017/18 ar gyfer argymhelliad Aelodau i'r Cyngor, yn cynnwys adroddiad yr archwiliwr allanol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2017/18 gydag adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru mewn cysylltiad ag archwiliad y datganiadau ariannol a Llythyr Sylwadau ar gyfer Cyngor Sir Y Fflint. Roedd ymateb ysgrifenedig llawn wedi ei ddarparu i gwestiynau a godwyd ar y cam drafft, a doedd dim ymholiadau pellach gan Aelodau ers hynny. Cadarnhawyd mai cyflwyniadol yn unig oedd yr holl gamddatganiadau perthnasol a’u bod wedi eu cynnwys yn y fersiwn derfynol. Fel rhan o ymateb y Cyngor i ganfyddiadau’r archwiliad, tynnwyd sylw at yr angen i ddiweddaru’r polisi cyfrifo ar gyfer croniadau o incwm a gwariant. Roedd yn gysur nodi sylwadau Swyddfa Archwilio Cymru, yn cydnabod bod y cyfrifon wedi eu paratoi i safon uchel ac yn cael eu cefnogi gan bapurau gweithio manwl ac amserol.
Rhannwyd copi o Ddatganiad Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd, y mae cymeradwyaeth ar ei gyfer wedi ei ddirprwyo i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, er gwybodaeth. Roeddynt wedi eu cymeradwyo'n ffurfiol ar 5 Medi 2018.
Mewn newid i’r arferol, cyflwynodd Richard Harries o Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad 260 ISA (Safon Ryngwladol ar Archwilio) ar ffurf cyflwyniad oedd yn cynnwys:
· canlyniad cyffredinol
· Cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol
· sefyllfa’r archwiliad a materion yn codi o’r archwiliad
· 2018-19 a’r blynyddoedd dilynol
Gwnaeth sylwadau ar safon uchel y cyfrifon a fyddai’n cael barn archwilio diamwys (‘glân’) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Dywedodd bod ymgysylltu cadarnhaol wedi bod rhwng swyddogion Cyngor a Swyddfa Archwilio Cymru drwy gydol y broses a bod y canfyddiadau wedi eu trafod gyda’r tîm rheoli er mwyn helpu i nodi gwelliannau pellach. Eglurodd gysyniad materoliaeth a fabwysiadwyd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol a chanmolodd gyflawniadau’r Cyngor o gwblhau’r gwaith yn gynt na’r angen cyn y newidiadau i derfynau amser statudol a fyddai’n her i bawb. Er mwyn hwyluso hyn, cynlluniwyd trafodaethau er mwyn ystyried sut i gydweithio er mwyn gwella’r broses, i helpu’r Cyngor ddatblygu ei drefniadau cau cynnar ymhellach.
Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, a’r Rheolwr Cyllid dros dro am eu gwaith ar y cyfrifon ac i gydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru am y cymorth a’r gefnogaeth yn ystod y broses archwilio. Diolchwyd i’r Rheolwr Cyllid Pensiynau hefyd am ei gwaith da ar gyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd.
Croesawodd y Prif Weithredwr yr ymdrech a wnaed fel tîm ar yr archwiliad a’r lefel uchel o sicrwydd a roddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Siaradodd yn gadarnhaol am berchnogaeth gorfforaethol o’r cyfrifon a rôl effeithiol y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon o ran bod a throsolwg dros y cyfrifon, a fyddai’n parhau. Dywedodd y dylid cydnabod cadw digon o gapasiti o fewn y swyddogaeth Gyllid er mwyn bodloni terfynau amser statudol tynn yn y dyfodol yn ystod trafodaethau ar opsiynau cyllideb ar gyfer 2019/20.
Yn dilyn sylwadau ar y cyflwyniad i gyfleu canfyddiadau’r archwiliad, dywedodd Richard Harries y byddai Swyddfa Archwilio yn gwneud penderfyniad ar y dull gorau i’w ddefnyddio mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Argymell y dylai’r Cyngor Sir gymeradwyo fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2017/18;
(b) Nodi cyflwyniad 260 ISA Swyddfa Archwilio Cymru; ac
(c) Argymell y dylai’r Cyngor Sir dderbyn y Llythyr Sylwadau.
Dogfennau ategol:
- Statement of Accounts 2017-18, eitem 22. PDF 91 KB
- Enc. 1 - Statement of Accounts, eitem 22. PDF 2 MB
- Enc. 2 - Summary of corrections, eitem 22. PDF 238 KB
- Enc. 3 - FCC Letter of Representation, eitem 22. PDF 156 KB
- Enc. 4 - Report to Clwyd Pension Fund Ctte, eitem 22. PDF 237 KB
- Enc. 5 - CPF Statement of Accounts, eitem 22. PDF 479 KB
- Enc. 6 - WAO Clwyd Pension Fund ISA 260, eitem 22. PDF 389 KB