Agenda item
Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)
- Cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu, Dydd Llun, 30ain Gorffennaf, 2018 10.00 am (Eitem 3.)
- View the reasons why item 3. is restricted
- Cefndir eitem 3.
Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y ffurflen gais yn gofyn am fanylion unrhyw achos lle cafodd yr ymgeisydd rybudd neu'i gael yn euog o unrhyw drosedd, ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu tair trosedd yn ymwneud â gyrru. Wedi derbyn data’r DVLA yngl?n â’r ymgeisydd, fodd bynnag, nodwyd gwaharddiad o ddeunaw mis am drosedd ddifrifol yn ymwneud â gyrru, ac nid oedd yr ymgeisydd wedi datgelu’r gwaharddiad hwnnw.
Dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod datgeliad manylach am yr ymgeisydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dangos y’i cafwyd yn euog fis Mawrth 2018 o feddu ar gyffur a reolir. Gofynnwyd i’r ymgeisydd roi eglurhad ysgrifenedig o’r euogfarn, ac fe atodwyd y rhain i’r adroddiad.
Yn sgil natur yr euogfarn, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarn a nodwyd yn natgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei euogfarn am yrru’n beryglus, ac esboniodd mai achos o ddwyn hunaniaeth oedd hyn. Dywedodd nad ef oedd yn gyrru’r cerbyd pan gyflawnwyd y drosedd a bod rhywun wedi mynd â’r cerbyd heb ei ganiatâd. Dywedodd yr ymgeisydd fod hwn yn un rheswm pam iddo newid ei enw wedi hynny. Aeth yr ymgeisydd ymlaen i ddweud nad oedd wedi cynnwys yr wybodaeth yn ei ffurflen gais gan ei fod wedi tybio, gan nad ef a gyflawnodd y drosedd, na fyddai hi'n ymddangos yn ei gofnodion. Dywedodd na wyddai fod y drosedd wedi’i chofnodi tan iddo gael ei arestio fis Medi 2017 am drosedd arall.
Cyfeiriodd yr ymgeisydd at esboniad ysgrifenedig oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd yn ymdrin â’i euogfarn ddiweddaraf am feddu ar gyffur a reolir. Esboniodd iddo gyfaddef i’r drosedd pan ddaethpwyd o hyd i’r sylwedd yn ei fan, ond nid ef oedd yn berchen ar y cyffur ac nid oedd am ei ddefnyddio. Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl yngl?n â’r amgylchiadau o ran dod o hyd i’r cyffur, a gofynnodd pam fod Heddlu Gogledd Cymru wedi stopio a chwilio’r cerbyd. Rhoes yr ymgeisydd wybodaeth gefndirol gan esbonio ei fod wedi rhoi pas adref i ffrind yn y fan, a’i fod yn tybio felly bod y cyffur yn perthyn i'w ffrind oedd wedi ei adael yn y fan ar ddamwain. Dywedodd yr ymgeisydd y cafodd brawf cyffuriau ar adeg y drosedd a bod y canlyniadau wedi dangos nad oedd wedi cymryd cyffuriau. Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd esbonio pam oedd wedi pledio’n euog i’r drosedd os oedd yn gwybod fod y sylwedd anghyfreithlon yn perthyn i’w ffrind a oedd wedi’i adael yn y fan.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am ei hanes cyflogaeth a'i amgylchiadau presennol. Rhoes yr ymgeisydd fanylion yngl?n â’i waith presennol ac yn y gorffennol, yn ogystal â’i uchelgeisiau i’r dyfodol.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Panel ofyn mwy o gwestiynau.
Gofynnwyd i’r ymgeisydd a oedd yn deall mor ddifrifol oedd ei euogfarn am feddu ar gyffur a reolir, a gofynnwyd iddo pam nad oedd wedi rhoi eglurhad llawn o’r ffaith bod rhywun wedi teithio yn y fan, nac wedi rhoi manylion y teithiwr hwnnw, pan gafodd ei arestio gan Heddlu Gogledd Cymru. Dywedodd yr ymgeisydd y daethpwyd o hyd i’r sylwedd yn ei feddiant ef ac yn ei fan, ac felly ei fod yn euog yn ôl y gyfraith.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl yngl?n â’i euogfarn am yrru’n beryglus, a gofynnodd iddo pam nad oedd wedi datgelu’r gwaharddiad yn ei ffurflen gais. Dywedodd yr ymgeisydd y credai fod Heddlu Gogledd Cymru yn gwybod mai achos o ddwyn hunaniaeth ydoedd, ac felly nad oedd yn euog o'r drosedd ac y câi ei dileu o’i gofnodion. Gofynnodd y Cyfreithiwr wrth yr ymgeisydd a fedrai ddarparu unrhyw dystiolaeth i ddangos ei fod wedi ceisio profi ei fod yn ddieuog a dileu’r euogfarn o’i gofnod. Dywedodd yr ymgeisydd eto na wyddai fod y drosedd wedi’i chofnodi tan iddo gael ei arestio fis Medi 2017 am drosedd arall. Dywedodd y Cyfreithiwr mai mater syml oedd ailagor achos llys, a gofynnodd i’r ymgeisydd a oedd wedi ceisio cyngor cyfreithiol yngl?n â hynny. Dywedodd yr ymgeisydd ei fod wedi hysbysu Heddlu Gogledd Cymru a’r Llys mai achos o ddwyn hunaniaeth ydoedd, a’i fod wedi ceisio cyngor, ond ni chafodd wybod sut i fynd ati i ddileu’r euogfarn o’i gofnodion.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at yr w?s yn galw’r ymgeisydd i’r llys, a gyflwynwyd iddo am ei drosedd o yrru’n beryglus yn 2014, a gofynnodd i’r ymgeisydd egluro’r amgylchiadau oedd wedi arwain at y drosedd. Dywedodd yr ymgeisydd nad oedd wedi derbyn y dogfennau yngl?n â’r w?s, ac felly nad oedd yn ymwybodol o fanylion yr euogfarn. Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd esbonio pam iddo newid ei enw, a manylu ar ei resymau dros wneud hynny. Dywedodd yr ymgeisydd y newidiodd ei enw am resymau personol ac i’w ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.
Cyfeiriodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu at gais blaenorol a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), a oedd yn nodi euogfarn arall yr honnodd yr ymgeisydd oedd wedi digwydd oherwydd camadnabod.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl ynghylch ei euogfarn am feddu ar gyffur a reolir, gan ofyn faint o'r sylwedd dan sylw y daethpwyd o hyd iddo pan gafodd ei arestio. Gofynnodd y Cyfreithiwr wrth yr ymgeisydd a oedd yn defnyddio cyffuriau a reolir, neu wedi defnyddio rhai yn y gorffennol. Dywedodd yr ymgeisydd y defnyddiodd gyffuriau a reolir yn y gorffennol, ond ni allai gofio’n iawn pryd oedd y tro diwethaf iddo wneud. Gofynnodd y Cyfreithiwr wrth yr ymgeisydd a fedrai gadarnhau pryd y defnyddiodd gyffur a reolir ddiwethaf, neu roi rhyw syniad pryd oedd hynny. Dywedodd yr ymgeisydd na allai gofio'n iawn, ond y gallai fod oddeutu tair blynedd yn ôl. Dywedodd yr ymgeisydd nad oedd yn defnyddio cyffuriau a reolir a’i fod yn ysmygu sigaréts. Pan ofynnodd y Cyfreithiwr wrth yr ymgeisydd unwaith eto i gadarnhau pryd y defnyddiodd gyffur a reolir ddiwethaf, dywedodd nad oedd yn cofio ac “os na fedrwch chi ddweud y gwir, mae'n well dweud nad ydych chi'n si?r”. Gofynnodd y Cyfreithiwr beth oedd barn yr ymgeisydd yngl?n â defnyddio cyffuriau a’u cludo. Pwysleisiodd y Cyfreithiwr y byddai’r ymgeisydd yn delio ag aelodau o’r cyhoedd a phlant pe byddai’n cael trwydded.
Gofynnodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd pam oedd yn dymuno cael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd). Dywedodd yr ymgeisydd fod ganddo swydd ond ei fod yn dymuno gweithio mwy o oriau a hybu ei incwm.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod wrth i’r panel benderfynu’r cais.
3.1 Penderfynu’r Cais
Wrth benderfynu’r cais, ystyriodd y panel ganllawiau’r Cyngor (Canllawiau Cyngor Sir y Fflint ar Ymdriniaeth ag Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol a chosbau eraill a gofnodir) a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Talodd y Panel sylw yn benodol i baragraff 4.13, a oedd a wnelo â throseddau’n ymwneud â chyffuriau. Pryderai’r Panel yn fawr yngl?n â’r anghysonderau yn nisgrifiad yr ymgeisydd o’i euogfarnau, gan gynnwys yr un am yrru’n beryglus a’r un diweddaraf am feddu ar gyffur a reolir, a’i fod wedi methu â chadarnhau pryd ddefnyddiodd ef gyffur a reolir ddiwethaf, er y gofynnwyd iddo sawl gwaith i roi bras amcan o hynny. Roedd y Panel o’r farn na fu’r ymgeisydd yn ddiffuant wrth ddisgrifio’r gwir amgylchiadau oedd wedi arwain at ei euogfarn am feddu ar gyffur a reolir, ac yn pryderu yngl?n â’r ffaith iddo ddweud “os na fedrwch chi ddweud y gwir, mae'n well dweud nad ydych chi'n si?r”.
Roedd y Panel yn dra ymwybodol o’r ddyletswydd gyffredinol i ddiogelu’r cyhoedd, ac wedi pwyso a mesur daethant i’r casgliad y byddai rhoi trwydded i’r ymgeisydd yn tanseilio diogelwch y cyhoedd.
Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.
3.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd fod y Panel wedi ystyried yr holl sylwadau a wnaethpwyd, gan gynnwys disgrifiad yr ymgeisydd o’i droseddau. Roedd y Panel yn pryderu’n fawr yngl?n ag eglurhad yr ymgeisydd o’i droseddau, a’i fod wedi methu â chadarnhau pryd ddefnyddiodd ef gyffur a reolir ddiwethaf. Roedd y Panel o’r farn na fu’r ymgeisydd yn ddiffuant, a’i fod wedi gwneud hynny’n waeth drwy ddweud “os na fedrwch chi ddweud y gwir, mae'n well dweud nad ydych chi'n si?r”. Dywedodd y Cadeirydd fod gan y Panel ddyletswydd gyffredinol i ddiogelu’r cyhoedd, a gan ystyried hynny daethpwyd i’r casgliad nad oedd yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), ac felly gwrthodwyd y cais.
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd y gallai gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad ymhen 21 diwrnod.
PENDERFYNWYD:
Gwrthod y cais am nad oedd yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.