Agenda item

Deilliant Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anomeladdau Cludiant Ysgolion

Pwrpas:        I hysbysu Cabinet o ddeilliant yr ymgynghoriad, trefniadau cludiant lleol a'r camau nesaf i ddarparu gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy.  Mae'r adroddiad hefyd yn dangos manylion yr amserlen ar gyfer ymdrin ag anomaleddau o fewn trefniadau cludiant ysgolion a ddaeth i'n sylw yn dilyn adolygiad gwasanaeth ym mis Medi 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anghysonderau o ran Cludiant i'r Ysgol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yngl?n â'r llwybrau bws y rhoddwyd cymhorthdal ar eu cyfer, a chanlyniad yr ymgynghoriad yngl?n ag adolygu’r rhwydwaith bysus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad er mwyn rhoi sylw i’r gwasanaethau hynny a sicrhau gwasanaeth cludiant cyhoeddus fforddiadwy a chynaliadwy yn y dyfodol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion yngl?n â’r dull a gynigiwyd ar gyfer ymdrin â threfniadau anstatudol ar gyfer cludiant i’r ysgol a sefydlwyd yn y gorffennol, a’r anghysonderau o ran y trefniadau hynny, yn sgil adroddiad a gyflwynwyd mewn gweithdy i’r holl Aelodau fis Tachwedd 2017. Cyflwynwyd adroddiad hefyd mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd ar 12 Gorffennaf.

 

            Gan gyfeirio at adolygu’r rhwydwaith bysus, esboniodd y Cynghorydd Thomas bod y cwmnïau bysus wedi gwneud nifer o newidiadau yn y rhwydwaith bysus masnachol, a oedd wedi cael effaith ar gymunedau ac wedi creu bylchau posib yn y ddarpariaeth; nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hynny. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw’r rhwydwaith bysus dan adolygiad ac ymyrryd pan oedd hynny’n briodol.

 

Er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy cynaliadwy roedd yn ofynnol gwneud adolygiad trwyadl. Yn ystod y drefn ymgynghori cyflwynwyd pedwar o ddewisiadau i'r cyhoedd, Aelodau Etholedig a Chynghorau Tref a Chymuned. Sef:

 

  • Dewis 1 – rhoi’r gorau’n llwyr i roi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws;
  • Dewis 2 – gwneud dim a dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau hynny oedd eisoes yn eu cael;
  • Dewis 3 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.
  • Dewis 4 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau yn y rhwydwaith craidd a chyflwyno gwasanaeth sy'n ymatebol i'r galw mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.

 

Roedd yr Aelodau Etholedig a’r Cynghorau Tref a Chymuned yn bennaf o blaid Dewis 3, a chafwyd rhai ymatebion gan unigolion o blaid Dewis 2. Dewis 3 oedd yr un gorau gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd hefyd.  Pe gweithredid y dewis hwnnw, y nod fyddai darparu cludiant lleol mewn cymunedau nad oeddent yn y rhwydwaith craidd ar ffurf bysus bach.Byddai’r trefniadau hynny'n gweithio'n debyg i wasanaethau bws arferol, gydag amserlen a llwybrau parhaol. Efallai, serch hynny, na fyddai’r gwasanaethau bws bach yn mynd mor aml â'r bysus masnachol arferol nac yn cynnig yr un lefel o wasanaeth. Roedd llwybrau wedi’u nodi ar gyfer trefniadau teithio lleol, ac roedd rhestr o’r rheiny ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cwblhawyd y gwaith i optimeiddio llwybrau cludiant i’r ysgol ac ail-gaffael y gwasanaeth fis Medi 2017. Sicrhawyd y budd mwyaf posib drwy wneud defnydd mor effeithiol â phosib o’r cerbydau, cynllunio’r llwybrau yn y ffordd fwyaf cost effeithiol, a darparu cerbydau o faint addas yn ôl nifer y teithwyr cymwys. Wrth wneud y gwaith canfuwyd bod nifer o drefniadau cludiant anstatudol wedi’u sefydlu yn y gorffennol a oedd yn mynd y tu hwnt i’r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol. Roedd y rheiny’n gyfleoedd i sefydlu dulliau newydd o ddarparu’r gwasanaeth a sicrhau arbedion. Cyflwynwyd manylion am yr anghysonderau dan sylw mewn atodiad i’r adroddiad, ynghyd â chynigion yngl?n â sut y gellid ymdrin â phob trefniant yn ei dro.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion y tocynnau teithio rhatach. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd ystyried y dewisiadau ar gyfer adennill y costau’n llawn, a chyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r sylwadau a wnaethpwyd yn y cyfarfod hwnnw.

 

Adolygu’r Rhwydwaith Bysus

 

  • Y consensws oedd y dylid bwrw ymlaen â dewis 3;
  • Dymunai’r Aelodau gael sicrwydd y byddai’r ymgynghori â chynghorau tref a chymuned yn parhau cyn yr eid ati i lunio amserlenni a'u rhannu;
  • Mynegwyd pryder am fod gofyn i’r Pwyllgor argymell dewis heb wybod pa effeithiau/toriadau a fyddai ar lwybrau bysus.

 

Anghysonderau Hanesyddol o ran Cludiant i'r Ysgol

 

  • Mynegwyd pryder yngl?n â brodyr a chwiorydd – os na fyddai modd sicrhau cludiant ar gyfer brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd, gallai rhieni deimlo fod hynny'n cyfyngu ar eu dewis o ysgolion; a
  • Gofynnwyd am sicrwydd yr ymgynghorwyd ag Ysgol Pencoch gan fod pryderon yngl?n â’r effaith ar blant diamddiffyn. Rhoddwyd sicrwydd y cynhaliwyd trefn ymgynghori drwyadl.

 

Tocynnau Teithio Rhatach

 

  • Awgrymwyd cael golwg ar yr hyn yr oedd awdurdodau cyfagos yn ei godi, a chynyddu’r prisiau yn unol â’u rhai hwy.

 

Y penderfyniadau ffurfiol a wnaethpwyd yng nghyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd oedd:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn argymell mabwysiadu Dewis 3 (dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd) mewn pedair ardal ddaearyddol o'r Sir;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r lefelau gwasanaeth a gynigiwyd ar y rhwydwaith bysus strategol craidd;

 

 (c)       Cefnogi darparu gwasanaeth bws bach yn fewnol er mwyn ategu’r trefniadau teithio lleol, lle bo hynny'n gost effeithiol.

 

 (d)      Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r dull argymelledig o ymdrin â threfniadau anstatudol ar gyfer cludiant i’r ysgol a sefydlwyd yn y gorffennol, fel y’u nodwyd wrth adolygu’r gwasanaeth;

 

 (e)      Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid ystyried ymhellach y ddarpariaeth ar gyfer brodyr a chwiorydd o ran cludiant i'r ysgol; a

 

 (f)       Bod y Pwyllgor yn argymell mabwysiadu Dewis 2 fel y strwythur prisiau gorau ar gyfer tocynnau teithio rhatach, ac adolygu effaith y cynnydd mewn prisiau ar ôl blwyddyn.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Shotton fynd drwy’r argymhellion yn yr adroddiad i’r Cabinet fesul un, a chytunwyd ar hynny. Derbyniwyd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd yn cefnogi argymhellion (a) – (c) yn yr adroddiad.

 

Cafwyd trafodaeth ac fe gytunwyd y dylai argymhelliad (ch) ddweud “am y flwyddyn academaidd i ddod, bod y Cyngor yn gweithredu ei bolisïau cludiant presennol yn llwyr, ac yn ymdrin â’r anghysonderau hanesyddol fel y nodir yn yr adroddiad".

 

O ran Dewis 2 a’r tocynnau teithio rhatach, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r tâl yn £300 pe byddai'r Cabinet yn cymeradwyo’r dewis hwn. Ni fyddai hynny’n talu’r costau i gyd, ond byddai’n eu talu’n rhannol, a gallai swyddogion weithio ar ddadansoddi risgiau ac effeithiau’r penderfyniad hwnnw ac efallai cynnal adolygiad hirdymor yn ei gylch. Cynigiodd y Cynghorydd Thomas y dylid cymeradwyo Dewis 3. Cafwyd pleidlais a gwrthodwyd y cynnig hwnnw. Cafwyd pleidlais ar Ddewis 2 ac fe’i pasiwyd. Cytunwyd felly y byddai argymhelliad (d) yn dweud “£300 fydd pris Tocyn Teithio Rhatach ar gyfer 2018/19 (Dewis 2) yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd, a chynhelir adolygiad o’r pris ar gyfer y blynyddoedd sy’n dilyn”.

 

Cytunwyd hefyd ar argymhelliad ychwanegol, (e), "Bod swyddogion yn llunio adroddiad arall yngl?n â sut i ymdrin â brodyr a chwiorydd, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn nodi'r gwaith a wnaethpwyd wrth adolygu'r rhwydwaith bysus, yn ogystal â'r ymgynghoriad, ac yn rhoi cymeradwyaeth i fabwysiadu Dewis 3 (dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd) mewn pedair ardal ddaearyddol o'r Sir;

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r lefelau gwasanaeth a gynigiwyd ar y rhwydwaith bysus strategol craidd;

 

 (c)       Bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i ddarparu gwasanaeth bws bach yn fewnol er mwyn ategu’r trefniadau teithio lleol, lle bo hynny'n gost effeithiol;

 

 (d)      Am y flwyddyn academaidd i ddod, bod y Cyngor yn gweithredu ei bolisïau cludiant presennol yn llwyr, ac yn ymdrin â’r anghysonderau hanesyddol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 (e)      £300 fyddai pris Tocyn Teithio Rhatach ar gyfer 2018/19 (Dewis 2) yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd, a chynhelid adolygiad o’r pris ar gyfer y blynyddoedd sy’n dilyn; a

 

 (f)       Bod swyddogion yn llunio adroddiad arall yngl?n â sut i ymdrin â brodyr a chwiorydd, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd.

Dogfennau ategol: