Agenda item

Canlyniad Ymgynghoriad Cyhoeddus am Gludiant Cyhoeddus ac Anghysondebau gyda Chludiant Cymdeithasol

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor Craffu am ganlyniad yr ymgynghoriad                   am drefniadau cludiant lleol a’r amserlen ar gyfer delio gyda’r                 anghysondebau gyda threfniadau cludiant ysgolion a ganfyddwyd                 yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth ym mis Medi 2017.

 

 

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad ynghylch Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anghysonderau o ran Cludiant i'r Ysgol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yngl?n â'r llwybrau bws y rhoddwyd cymhorthdal ar eu cyfer, a chanlyniad yr ymgynghoriad yngl?n ag adolygu’r rhwydwaith bysus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad er mwyn rhoi sylw i’r gwasanaethau hynny a sicrhau gwasanaeth cludiant cyhoeddus fforddiadwy a chynaliadwy yn y dyfodol.  

 

Adolygu’r Rhwydwaith Bysus

 

            Adroddodd Rheolwr y Rhaglen Cludiant ar yr adolygiad o’r rhwydwaith bysus. Er mwyn hwyluso’r adolygiad, cynhaliwyd proses ymgynghori gyhoeddus dros gyfnod o 8 wythnos gyda’r cyhoedd, aelodau etholedig a chynghorau tref a chymuned a wahoddwyd i roi adborth ar y cynigion. Y pedwar dewis a gyflwynwyd i’w hystyried oedd:-

 

  • Dewis 1 – rhoi’r gorau’n llwyr i roi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws;
  • Dewis 2 – gwneud dim a dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau hynny oedd eisoes yn eu cael;
  • Dewis 3 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.
  • Dewis 4 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau yn y rhwydwaith craidd a chyflwyno gwasanaeth sy'n ymatebol i'r galw mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.

 

            Roedd aelodau etholedig a chynghorau tref a chymunedyn bennaf o blaid Dewis 3, ond cydnabuwyd nad oedd un dewis i blesio pawb a byddai’n rhaid i’r agwedd tuag at gludiant amrywio o un ardal i’r llall yn dibynnu ar angen a galw lleol.    O dan y dewis a ffefrir, y nod fyddai darparu cludiant lleol mewn cymunedau nad oeddent yn y rhwydwaith craidd ar ffurf bysus bach, a oedd yn fwy addas ar gyfer natur y llwybrau mewn ardaloedd gwledig. Roedd llwybrau arfaethedig wedi’u nodi ar gyfer trefniadau teithio lleol, ac roedd rhestr o’r rheiny ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Daeth Rheolwr y Rhaglen Cludiant i’r casgliad y cynigiwyd bod y newid arfaethedig o ran darpariaeth gwasanaeth yn cael ei gyflwyno o 1 Hydref 2018 yn raddol ac roedd cynllun gweithredu ac amserlen arfaethedig ynghlwm wrth yr adroddiad. 

 

            Esboniodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y cwmnïau bysus wedi gwneud nifer o newidiadau yn y rhwydwaith bysus masnachol, a oedd wedi cael effaith ar gymunedau ac wedi creu bylchau posib yn y ddarpariaeth; nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hynny. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw’r rhwydwaith bysus dan adolygiad ac ymyrryd pan oedd hynny’n briodol.    

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad ac am y sesiynau ymgynghori helaeth a gynhaliwyd. Dywedodd, yn dilyn yr ymarfer ymgynghori, a ddengys yn yr adroddiad, ei bod yn ymddangos bod consensws ar gyfer Dewis 3 a bod y dewis hwn yn cysylltu’n dda â’r trefniant cludiant newydd ar gyfer Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.  Gofynnodd a oedd contractwr wedi’i ddewis i ddarparu Gwasanaeth Bws Gwennol Glannau Dyfrdwy. Dywedodd y Prif Swyddog bod y Cyngor wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru a’r UE i brynu pedwar bws bach 16 sedd a pum Bws Allyriad Carbon Isel gyda’r bwriad o ddefnyddio'r Bysus Allyriad Carbon Isel fel rhan o Wasanaeth Bws Gwennol presennol Glannau Dyfrdwy. Byddai Gwasanaeth Bws Gwennol Glannau Dyfrdwy yn cael ei ail-gaffael dros yr haf a’i redeg gan gontractwr allanol a byddai’r gwasanaeth yn cael ei ail-frandio a’i lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cynigiwyd y byddai’r pedwar bws bach 16 sedd yn cael eu defnyddio ar gyfer trefniadau teithio lleol, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad, a’u rhedeg yn fewnol o fewn Portffolio Strydwedd. Y bwriad oedd darparu gwasanaeth bysus bach proffesiynol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel a chynnal rheolaeth well o weithrediadau cludiant teithwyr.   

 

            Ceisiodd y Cynghorydd Chris Dolphin gael sicrwydd y byddai’r ymgynghoriad â chynghorau tref a chymuned yn parhau cyn yr eid ati i lunio amserlen a’i rhannu. Mynegodd bryder am fod gofyn i’r Pwyllgor argymell dewis heb wybod pa effeithiau/toriadau a fyddai ar lwybrau bysus. Rhoddodd Reolwr y Rhaglen Cludiant sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai ymgynghoriad â chynghorau tref a chymuned a gweithredwyr yn cael ei gynnal cyn llunio amserlen. Roedd adborth gan gymunedau wedi’i goladu i nodi’r bylchau yn y gwasanaeth presennol a byddai’r adborth hwn yn cael ei rannu â chymunedau drwy ymarfer ymgynghori pellach i sicrhau bod gwybodaeth yr adborth yn gywir.    Dywedodd yr Aelod Cabinet, drwy nodi’r bylchau yn y gwasanaeth a’r ymgynghoriad parhaus â chynghorau tref a chymuned, mai'r gobaith oedd cynnig gwasanaeth wedi’i drefnu yn hytrach na gwasanaeth cyn-archebu.                        

 

Anghysonderau Hanesyddol o ran Cludiant i'r Ysgol

 

            Esboniodd y Prif Swyddog y cwblhawyd y gwaith i optimeiddio llwybrau cludiant i’r ysgol ac ail-gaffael y gwasanaeth fis Medi 2017. Wrth wneud y gwaith, canfuwyd bod nifer o drefniadau cludiant anstatudol wedi’u sefydlu yn y gorffennol a oedd yn mynd y tu hwnt i’r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol. Roedd y rheiny’n gyfleoedd i sefydlu dulliau newydd o ddarparu’r gwasanaeth a sicrhau arbedion.

 

            Darparodd y Prif Swyddog, Rheolwr yr UCI a Rheolwr y Rhaglen Cludiant fanylion am yr anghysondebau ynghyd â chynigion yngl?n â sut y gellid ymdrin â phob mater, fel y dangosir yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

            Esboniodd yr Aelod Cabinet y byddai disgyblion presennol yn parhau i dderbyn yr un gwasanaeth. Gwnaeth Arweinydd y Cyngor sylw ar y cludiant a ddarperir i fyfyrwyr fynychu Gr?p Drama FUSE yn Theatr Clwyd ac esboniodd, yn y gorffennol, darparwyd y cludiant hwn drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Bws Gwennol Glannau Dyfrdwy.  Pan ddaeth grant Llywodraeth Cymru i ben, gwnaethpwyd penderfyniad ar y pryd i’r Cyngor barhau i roi cymhorthdal i’r gwasanaeth hwn.    Roedd hyn yn torri'r Polisi Cludiant presennol ac nid oedd yn deg i’r grwpiau eraill ar draws y Sir.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Evans, esboniodd y Prif Swyddog y byddai'r gwasanaethau yn cael eu hail-gaffael bob blwyddyn i sicrhau bod bws o faint cywir yn cael ei ddefnyddio er mwyn osgoi cael seddi gwag.  Os oedd gwasanaeth â seddi gwag eisoes yn weithredol, yna byddai modd cynnig y seddi gwag hyn am gyfradd ratach.           

 

            Darllenodd y Cynghorydd Marion Bateman y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar Gludiant i’r Ysgol, ac nid oedd yn credu bod y canllawiau hyn wedi’u dilyn o fewn ei ward. Diolchodd i’r Aelod Cabinet am ymyrryd mewn mater diweddar a cheisiodd sicrwydd y byddai’r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol yn cael ei gymhwyso’n gyson ar draws y Sir yn y dyfodol. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin bryder ynghylch brodyr a chwiorydd a dywedodd os nad oedd yn bosibl i frodyr a chwiorydd gael mynediad at gludiant, roedd yn bosib i rieni deimlo eu bod yn colli eu dewis o ran pa ysgol i anfon eu plant.  Cynigodd bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid ystyried ymhellach y ddarpariaeth ar gyfer brodyr a chwiorydd o ran cludiant i'r ysgol ac fe gefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Colin Legg, esboniodd Reolwr yr UCI, os oedd ysgol agosaf y plentyn yn llawn, yna byddai cludiant yn cael ei ddarparu i’r ysgol agosaf wedi hynny.                                                   

 

            Ceisiodd Mrs. Lynne Bartlett sicrwydd yr ymgynghorwyd ag Ysgol Pencoch, Y Fflint gan y byddai’r cynigion yn effeithio ar blant diamddiffyn. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd bod Rheolwr yr UCI a’i thîm wedi ymgysylltu’n llawn ag Ysgol Pencoch yn ystod yr ymarfer ymgynghori.           

 

Tocynnau Teithio Rhatach

 

            Adroddodd Rheolwr yr UCI fod cynnig i gynyddu pris seddi gwag rhatach er mwyn sicrhau adennill costau’n llawn. Dangoswyd y dewisiadau i’w hystyried er mwyn adennill y costau’n llawn o fewn yr adroddiad, ynghyd â’r ffioedd ar gyfer seddi gwag rhatach mewn awdurdodau lleol cyfagos, at ddibenion cymharu. Dangoswyd manylion pellach ynghylch y Cynllun Seddi Gwag Rhatach arfaethedig ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Esboniodd yr Aelod Cabinet fod y cynigion i adennill costau’r seddi gwag rhatach wedi’u dwyn ymlaen yn dilyn y gefnogaeth fel y dewis a ffefrir yn y Gweithdy i’r holl Aelodau a gynhaliwyd fis Tachwedd 2017.         

 

            Dywedodd y Cynghorydd Evan ei fod yn teimlo’n anghyfforddus â’r gost gynyddol arfaethedig ac awgrymodd y dylai’r Cyngor gael golwg ar yr hyn yr oedd awdurdodau cyfagos yn ei godi, a chynyddu’r prisiau yn unol â’u rhai hwy. Dywedodd bod angen mwy o wybodaeth am hyn a’r cynnydd posibl o ran pris seddi rhatach. Esboniodd y Prif Swyddog y byddai’r gost yn parhau i fod yn llai na’r hyn oedd yn cael ei dalu ar hyn o bryd.  

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad, eu presenoldeb ac am ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan Aelodau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn argymell mabwysiadu Dewis 3 (cefnogi rhoi cymhorthdal ar     gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol,      cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd)o fewn           pedair ardal ddaearyddol o’r Sir;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r lefelau gwasanaeth a             gynigiwyd ar y rhwydwaith bysus strategol craidd; 

 

 (c)       Cefnogi darparu gwasanaeth bws bach yn fewnol er mwyn ategu’r trefniadau     teithio lleol, lle bo hynny'n gost effeithiol.

 

 (d)      Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r dull argymelledig      o ymdrin â threfniadau anstatudol ar gyfer cludiant i’r ysgol a sefydlwyd yn y    gorffennol, fel y’u nodwyd wrth adolygu’r gwasanaeth;

 

 (e)      Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet y dylid ystyried ymhellach y ddarpariaeth  ar gyfer brodyr a chwiorydd o ran cludiant i'r ysgol; a 

 

 (f)       Bod y Pwyllgor yn argymell mabwysiadu Dewis 2 fel y strwythur prisiau gorau      ar gyfer tocynnau teithio rhatach, ac adolygu effaith y cynnydd mewn prisiau ar ôl             blwyddyn.

 

 

Dogfennau ategol: