Agenda item

Cais i Drosglwyddo Trwydded Gweithredwr Llogi Preifat

I'r Aelodau ystyried cais i drosglwyddo trwydded gweithredydd llogi preifat a phenderfynu a yw'r ymgeiswyr yn addas ac yn briodol i ddal y drwydded.

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais i drosglwyddo Trwydded y Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat. Dangoswyd y cais yn Atodiad A. Roedd deiliaid presennol y drwydded wedi darparu eu caniatâd ysgrifenedig i’r trosglwyddo a dangoswyd hyn yn Atodiad B ac Atodiad C.

 

            Dechreuodd y Cyfreithiwr ar ei gwestiynau i’r Ymgeiswyr a gofynnodd am ba hyd yr oedden nhw wedi dal eu trwyddedau.

 

            Rhoddodd yr ymgeiswyr fanylion yngl?n â hanes eu trwydded, ond roedd yna beth dryswch fodd bynnag yn ymwneud â’r dyddiadau y rhoddwyd y drwydded flaenorol i Ymgeisydd (b) a gofynnwyd i Arweinydd y Tîm Trwyddedu gael eglurhad yngl?n â hyn.  Gohiriwyd y cyfarfod ar 2.22 pm

 

Ail ddechreuodd y cyfarfod am 2.29 pm a rhoddodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu eglurhad yngl?n â’r wybodaeth oedd ar y system drwyddedu yngl?n ag Ymgeisydd (b). 

 

            Yna gofynnodd y Cyfreithiwr i’r Ymgeiswyr pam y dylai’r Panel gefnogi’r cais hwn.

          Mewn ymateb cyfaddefwyd y camgymeriadau oedd wedi'u gwneud yn y gorffennol. Ond roeddent wedi dysgu ohonynt ac yn hyderus gyda chymorth deiliad presennol y drwydded na fyddent yn gwneud yr un camgymeriadau eto.

 

            Gofynnwyd i'r Ymgeiswyr ddarllen eu negeseuon e-bost ar dudalen 15 a 17 ac fe wnaed hynny.

           Mewn ymateb i nifer o gwestiynau a godwyd gan y Cyfreithiwr rhoddodd yr Ymgeiswyr eglurhad ar y digwyddiad a arweiniodd at dderbyn yr 17 pwynt ar Drwydded y Gweithredwr.

           

            Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y troseddau'n ymwneud â gyrru heb yswiriant a gofynnodd sut yr oedd hyn wedi digwydd.

            Mewn ymateb cyfeiriodd yr Ymgeiswyr at fwrgleriaeth a ddigwyddodd yn y swyddfa a rhoddwyd gwybodaeth gefndir yn ymwneud â'r amgylchiadau a arweiniodd at yr erlyn.  Ychwanegodd ei fod wedi cael cadw ei drwydded ar sail caledi eithriadol ond cafodd ei wahardd rhag gyrru am 8 diwrnod.

 

            Yna gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad ar eu swyddogaethau yn y cwmni tacsi blaenorol.  Cadarnhawyd mai dim ond gyrwyr oeddent.

 

            Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y cais ac at dudalen 4 a gofynnodd pam y gwrthodwyd y drwydded ond gwrthodwyd yr apêl yn y Llys Ynadon.              Atebodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu drwy ddweud nad oedd yn sicr beth oedd y polisi ar y pryd a’i fod yn wahanol i’r polisi sydd mewn grym erbyn hyn. Rhoddodd eglurder ar linell amser y drwydded. 

 

            Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at dudalen 8, rhan 6 manylion yr ymgeisydd “a oes unrhyw unigolyn yn 1 uchod erioed wedi eu gwrthod o ran trwydded cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni neu fod trwydded o’r fath wedi ei atal / diddymu” a gofynnodd pam ei fod wedi croesi ‘do a na’ ac wedi ysgrifennu ‘na’ oddi tano.


           
Wrth ymateb dywedodd Ymgeisydd (a) nad oedd ei drwydded erioed wedi ei diddymu a dywedodd Ymgeisydd (b) ei fod wedi bod i’r llys a bod y drwydded wedi ei rhoi.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd yna fwriad i gamarwain ac ymatebodd y ddau nad oedd yna fwriad.

 

            Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at yr un dudalen (b) euogfarnau neu rybuddion – a gofynnodd pam fod hwn wedi ei adael yn wag.  Mewn ymateb dywedasant eu bod wedi camddarllen y ffurflen gan gredu ei bod yn cyfeirio at euogfarnau presennol.  Gofynnodd y Cyfreithiwr a oeddent wedi gadael hwn ar bwrpas, ond yr ymateb i hyn oedd ei fod yn gamgymeriad diniwed. Gofynnwyd iddynt a oeddent wedi cwblhau’r math yma o ffurflen o’r blaen ac ymatebodd y ddau mai dim ond ffurflenni trwydded bathodyn yr oeddent wedi'u cwblhau. Dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cwestiwn hwn yn ymddangos ar yr holl ffurflenni gan gynnwys y ffurflen trwydded bathodyn. Ymddiheurodd y ddau eto gan ddweud eu bod wedi camddarllen y ffurflen.

 

            Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y wefan ar dudalen 5 1.15 a oedd yn fyw ar hyn o bryd ac yn cynnwys eu gwybodaeth gyswllt. Amlinellodd deiliad presennol y drwydded ei hanes fel gweithredwr tacsi ac eglurodd pam fod y dudalen ar y we wedi ei datblygu a hynny er mwyn darparu gwell gwasanaeth i’w cwsmeriaid.  Roedd wedi gofyn am i’r wybodaeth ar y wefan gael ei newid i enwau’r Ymgeiswyr.  Cadarnhaodd fod yr holl archebion yn cael eu trosglwyddo i’w gwmni. Eglurwyd wrtho gan Arweinydd y Tîm Trwyddedu y gallai Cwmnïau gael dau gyfeiriad wedi eu rhestru ar gyfer eu busnes, ond nid dau enw. Cytunodd i gau'r dudalen ar y we ar unwaith.

 

            Gofynnodd y Cyfreithiwr i Ymgeisydd (b) sawl pwynt oedd ganddo ar ei drwydded. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw bwyntiau ar y drwydded hon ers 2016. Roedd yn cyfeirio at yr oriau a yrrwyd bob wythnos ac roedd y troseddau hyn am 2 neu 3 milltir dros y cyfyngiad, swm nad oedd ef yn ei ystyried yn ormodol gan ei fod yn gyrru 40,000 o filltiroedd y flwyddyn. Ychwanegodd fod yna gamerâu ac offer mewn grym erbyn hyn mewn ceir i sicrhau nad oedd camgymeriadau’n cael eu gwneud eto.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Cox ers faint o flynyddoedd yr oedd wedi bod yn rhydd o euogfarnau a dywedodd Ymgeisydd (a) mai yn 2013 oedd ei unig euogfarn a chadarnhaodd Ymgeisydd (b) mai yn 2013 roedd ei drosedd olaf.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y dechnoleg newydd mewn ceir tacsi erbyn hyn a gofynnodd a oedd y dechnoleg hon wedi ei gosod yn eu cerbydau, a chadarnhaodd y ddau ei bod eisoes wedi ei gosod.

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod yr ymgeiswyr yn derbyn fod llawer o gamgymeriadau wedi eu gwneud a bod rhaid i’r panel benderfynu a ydynt yn gymwys ac addas i ddal trwydded gweithredwr.

 

 

3.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Wrth wneud penderfyniad ar y cais, ystyriodd y panel sylwadau ysgrifenedig a llafar yr ymgeiswyr. Wrth ystyried yr amgylchiadau teimlai'r panel eu bod yn gymwys ac addas i ddal trwydded Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat.

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeiswyr yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

3.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaed, fod y panel, yn cytuno i roi’r drwydded Gweithredwyr Cerbyd Hurio Preifat am gyfnod prawf o 12 mis gyda'r ymgeiswyr i ysgwyddo unrhyw gostau fyddai'n codi gan gynnwys o wiriadau GDG, ond nid wedi'i gyfyngu i hynny'n unig, ar neu yn agos i ddyddiad terfyn y cyfnod prawf.

 

PENDERFYNWYD: