Agenda item

Hybu twristiaeth a rheoli cyrchfan

Pwrpas:        Darparu diweddariad i Aelodau am y dulliau gweithio newydd ar                 gyfer hyrwyddo i ymwelwyr rhwng y Gwasanaethau Cefn Gwlad               a Thwristiaeth a thrafod dulliau gwaith y dyfodol ar gyfer rheoli                 cyrchfannau a rôl pob gwasanaeth.

 

 

 

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) yr adroddiad yngl?n â Hybu Twristiaeth a Rheoli Cyrchfannau, a oedd yn ymdrin â’r dulliau a ddefnyddiwyd yn Sir y Fflint a’r rhanbarth ehangach i hybu’r economi dwristiaeth drwy weithgarwch hyrwyddo, a rheoli a gwella’r profiad a gynigir i ymwelwyr. 

 

            Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’r Gwasanaeth Twristiaeth, a oedd ill dau wedi chwarae rhan arwyddocaol ar y cyd, a byddai cyfleoedd i gydweithio mwy yn y dyfodol yn sgil ailstrwythuro yn ddiweddar.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad a gwnaeth sylw ar y cynnig twristiaeth yn Sir y Fflint. Cynnig a oedd y Pwyllgor wedi ei weld dros ei hun yn ystod ei gyfarfod diweddar a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dreftadaeth Maes Glas.  Gwaeth sylw ar gyflwyniad diweddar y sgyrsiau a’r teithiau cychod ger y Cei a chanmolodd waith Ceidwaid y Sir ar hyd llwybr yr arfordir. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Vicky Perfect i’r Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) a’i dîm am osod meinciau newydd ar hyd llwybr yr arfordir ger Castell Fflint. Gwnaeth sylw ar lwyddiant y digwyddiad Rock the Castle yn Y Fflint a fynychwyd gan 2,000 o bobl a diolchodd i Geidwaid yr Arfordir am eu cyfraniad ac am feirniadu’r gystadleuaeth castelli tywod. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dolphin i’r Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) a’i dîm am eu gwaith caled. Gofynnodd pryd a fyddai modd gosod arwydd i ymwelwyr ar yr A55 i hyrwyddo Ffynnon Sant Gwenffrewi ac ardaloedd cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) fod y Cyngor yn darparu arwyddion brown a gwyn a bod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i nodi lle'r oedd bylchau ar draws y Sir. Roedd angen bod yn ofalus â’r cyllid oedd ar gael ond pan fyddai mwy o arian ar gael gan Lywodraeth Cymru, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa i gyflwyno ceisiadau am gyllid drwy gael y cynlluniau priodol ar waith.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Datblygu Economaidd bod angen newid agweddau am Sir y Fflint. Dywedodd bod 80% o Sir y Fflint yn wledig ond nid oedd hyn wedi’i gydnabod drwy argaeledd cyllid Ewropeaidd. Y gobaith oedd y byddai yn cael ei ddatrys drwy Gynnig Twf Gogledd Cymru ac er bod yr economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn rhan gymharol fechan o economi Sir y Fflint, roedd yn dal i wneud cyfraniad pwysig, a oedd yn cynhyrchu oddeutu £252m  y flwyddyn.

 

            Wrth drafod Cynnig Twf Gogledd Cymru, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai Sir Y Fflint yn gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd buddsoddi cyfalaf yng Nghaergybi o ran Llongau Mordeithiau a phleserdeithiau o fewn cwmpas 1 awr.  Dywedodd bod nifer yr ymwelwyr Japaneaidd ar draws Gogledd Cymru wedi cynyddu o 84% ac er bod gan Sir y Fflint lawer iawn o atyniadau, nid oedd y llety yn yr ardaloedd o’r un safon â’r llety yng Nghernyw neu’n Ardal y Llynnoedd.           

                    

            Gwnaeth y Cynghorydd Legg sylw ynghylch Mynydd Helygain a diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith caled i gynnal y mynydd. Dywedodd bod arwyddion yn bwysig, yn enwedig ar gyfer cyfleusterau toiled gan y gallai hyn fod yn broblemus i rai ymwelwyr. Gwnaeth sylw ynghylch yr angen i ddiogelu tir comin oherwydd ei ddaeareg, fflora a hanes diwydiannol a mynegodd bryder yngl?n â cherbydau modur ar dir comin. Dywedodd y byddai’n fodlon cynnal taith o Fynydd Helygain ar gyfer unrhyw Aelod a oedd â diddordeb.         

 

            Mewn ymateb i awgrym gan yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad yn nodi y dylai'r Cynghorydd Legg fod yn Llysgennad Twristiaeth, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) fod 30 o Lysgenhadon Twristiaeth ar draws y Sir a oedd yn gynrychiolwyr busnesau yn bennaf. Roeddent wedi cytuno â chyfres o egwyddorion i groesawu ymwelwyr i’r ardal.

 

            Cwestiynodd y Cynghorydd Evans y ffigwr o 2.7m o ymweliadau diwrnod i Sir y Fflint, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gofynnodd pa fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo ymweliadau diwrnod a gofynnodd a fyddai modd darparu mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor am hyn yn dilyn y cyfarfod. Roedd o’r farn bod y Cyngor yn colli cyfle drwy beidio ag annog caffis a thafarndai ar hyd llwybr yr arfordir, yn debyg i’r rhai ar Gors Burton. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) fod nifer yr ymwelwyr yn cael eu cyfrifo drwy Fodel STEAM. Roedd y model hwn yn cael ei ddefnyddio ar draws Gymru a gellid rhannu’r adroddiad diweddaraf â’r Pwyllgor. Dywedodd hefyd fod prosiect yn cynnwys Sustrans yn edrych ar gysylltu llwybrau beicio arfordirol Y Fflint a Chei Connah a chynyddu nifer yr ymwelwyr.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Haydn Bateman fod ymwelwyr â Thraeth Talacre wedi cysylltu ag ef yn ddiweddar gan eu bod wedi’u siomi’n arw â’r holl sbwriel yn yr ardal a bod y biniau yn orlawn. Gofynnodd hefyd a oedd gwaith yn mynd rhagddo i wella’r goleudy ar Draeth Talacre. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) fod cydbwysedd o ran denu pobl i ardaloedd ond roedd perygl hefyd y gallai hynny ddifetha’r ardaloedd. Ychwanegodd ei bod yn briodol i sicrhau fod gwaith cynnal a chadw a rheoli ardal yn cael ei wneud i sicrhau fod yr ardal yn ddigon gwydn i ymdopi â nifer yr ymwelwyr ychwanegol. Dywedodd fod y goleudy ar Draeth Talacre bellach yn eiddo preifat a dywedodd fod y perchennog presennol wedi bod yn mynd i’r afael â’r gwaith adeiladu y tu mewn i’r adeilad cyn symud ymlaen i adnewyddu’r tu allan.  

 

            Diolchodd y Rheolwr Gwasanaeth (Mynediad a’r Amgylchedd) i’r Aelodau am eu geiriau caredig a dywedodd y byddai’n cyfleu eu diolchiadau i’r ceidwaid a’r swyddogion twristiaeth ar ôl y cyfarfod.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dulliau presennol a newydd o hyrwyddo Sir y Fflint i ymwelwyr a rheoli cyrchfannau.

Dogfennau ategol: