Agenda item
Cais am Drwydded Eiddo
I'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad a oedd yn gwahodd Aelodau i ystyried a phennu cais o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 ar gyfer Trwydded Safle i Thrifty’s, 7 Ffordd Broughton Hall, Brychdyn, Sir y Fflint.
Roedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sul 07:00 tan 22:00.
Cyflwynwyd sylwadau gan Mr Mark Griffiths, perchennog y Swyddfa Bost leol, a deiseb gan aelodau'r gymuned leol i gefnogi ei lythyr. Roedd sylwadau wedi cael eu derbyn hefyd gan Mrs Marian Griffiths, mam Mr Griffths.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau nad oedd gan y Swyddog sy’n gyfrifol am yr ardal unrhyw wrthwynebiadau i’r cais. Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau na fyddent yn gwneud unrhyw sylwadau am y cais.
Roedd y camau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu yn cael eu gosod allan yn Atodiad E yr adroddiad ac roedd y cais wedi cael ei hysbysebu yn y dull cywir.
Sylwadau gan yr Ymgeisydd
Cyfeiriodd Mr Soni at y ddeiseb a oedd wedi’i chyflwyno a dywedodd bod llawer o’r enwau ar y rhestr yn dod o du allan i’r ardal leol. Teimlai bod gwrthdaro buddiannau yn gysylltiedig â Mr Griffiths gan ei fod yn berchennog ar y Swyddfa Bost leol a phe bai’r cais hwn yn cael ei gymeradwyo, byddai’n arwain at gystadleuaeth iach yn yr ardal, rhywbeth a welwyd gyda phob siop Thrifty arall.
Dywedodd nad oedd gan yr Heddlu unrhyw wrthwynebiadau i’r cais ac ychwanegodd y byddai camerâu TCC yn recordio y tu fewn a thu allan i'r siop bob amser a fyddai o bosibl yn lleddfu ofnau Mr Griffiths am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai’r offer TCC a’r lluniau a gynhyrchir o safon uchel a byddai gan y siop weithredwyr TCC hyfforddedig. Darparodd fanylion am Challenge 25 ac enghreifftiau o ble’r oedd hyn wedi’i orfodi mewn siopau Thrifty eraill. Roedd gan Thrifty 9 o drwyddedau mewn siroedd gwahanol ac nid oedd unrhyw un o’r siopau hynny wedi cael problemau gyda chwsmeriaid dan oed yn ceisio prynu alcohol. Nod y cwmni oedd gwneud i’w cwsmeriaid deimlo’n ddiogel a’u croesawu.
Hefyd, dywedodd bod y safle yn arfer bod yn siop Co-op a oedd yn berchen ar drwydded. Teimlai y byddai dod â'r adeilad hwn, a oedd wedi bod yn wag am gyfnod hir, i ddefnydd eto yn helpu i leihau nifer y bobl ifanc sy'n ymgasglu yn yr ardal. Mynegodd ei ddymuniad i weithio gyda’r gymuned i gadw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gorffennol.
Sylwadau gan y Partïon â Chysylltiad
Diolchodd y Cynghorydd Mullin i’r Cadeirydd am adael iddo siarad ar ran Mr Griffiths. Ei brif bryder oedd agosrwydd safleoedd eraill yn yr ardal sydd hefyd yn gwerthu alcohol a teimlai y byddai hyn yn creu problemau gyda phobl ifanc.
Esboniodd yr ymgeisydd bod y cwmni yn fanwerthwr cyfrifol ac roedd alcohol yn ategol i’r nwyddau eraill a werthir yn y siop.
Cwestiynau
Gofynnodd y Cynghorydd Sharps i Mrs Jones a oedd ganddi unrhyw beth i’w ychwanegu yngl?n ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal ac ailadroddodd y pwyntiau am ymddygiad gwrthgymdeithasol presennol a amlinellwyd yn y llythyr cyflwyno gan Marian Griffiths.
Gofynnodd y Cynghorydd Sharps a oedd y partïon â chysylltiad yn teimlo y byddai camerâu TCC ychwanegol yn fanteisiol i’r ardal. Ymatebodd y Cynghorydd Mullin trwy ddweud bod camerâu TCC yn weithredol yn y Ganolfan Gymunedol lle mae pobl ifanc hefyd yn ymgasglu. Er gwaethaf y buddsoddiad mewn offer ac yn y cynllun, nid oedd yr Heddlu wedi gweithredu ar gudd-wybodaeth a roddwyd iddyn nhw. Esboniodd yr ymgeisydd, pe bai un o’u siopau eraill yn ffonio’r Heddlu byddent yn ymweld â’r safle, a credai y byddai’r un peth yn digwydd yn yr ardal hon hefyd.
Gofynnodd y Cynghorydd Reece pa fanwerthwyr eraill yn yr ardal oedd â thrwydded safle.
Dywedodd y Cynghorydd Cox ei fod yn gwerthfawrogi’r pryderon am agosrwydd y lleoedd a oedd yn gwerthu alcohol ond ni allai weld unrhyw dystiolaeth i ddangos bod hynny’n creu problemau ar hyn o bryd. Ychwanegodd bod siopau sy’n agos at ei gilydd yn gweithio’n dda ac yn annog masnach ychwanegol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sharps, darparodd yr ymgeisydd fanylion am hyfforddiant y byddai staff a Goruchwylydd Dynodedig y Safle yn ymgymryd ag o. Yn dilyn cwestiwn gan y Cyfreithiwr, esboniodd yr ymgeisydd bod arfarniadau staff wedi cael eu cyflwyno yn y cwmni yn ddiweddar a byddai’r rhain yn cael eu cynnal gan reolwr pob siop.
Darparodd enghraifft o ddyddiau cynnar y cwmni pan oedd alcohol wedi cael ei werthu i rywun dan oed. Dysgwyd gwersi o hynny a byddai dau aelod o staff ar y safle bob amser a byddai camerâu TCC yn chwarae rhan fawr yn eu busnes. Gellid cadw lluniau camerâu TCC am hyd at 4 wythnos ond pe bai angen cadw unrhyw ddata byddai’n cael ei drosglwyddo i ddyfais addas a’i gadw am gyfnod amhenodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Sharps am fanylion yr oriau a oedd yn berthnasol yn yr ardal gyfagos ar gyfer gwerthu alcohol. Esboniodd y Swyddog Trwyddedu bod gan y Swyddfa Bost drwydded ar gyfer dydd Llun - dydd Sadwrn 06:00 – 23:00, dydd Sul 07:00 – 22:30; roedd gan Simply Drinks drwydded ar gyfer dydd Llun – dydd Sadwrn 08:00 – 23:00, dydd Sul 10:00 – 22:30; ac roedd gan Co-op drwydded ar gyfer dydd Llun - dydd Sul 06:00 – 23:00. Roedd gan bob un o’r rhain drwydded hirach na’r un yr ymgeisir amdani heddiw.
Penderfyniad
Gadawodd yr ymgeisydd, y partïon dan sylw a’r Swyddog Trwyddedu yr ystafell tra bo’r cais yn cael ei ystyried gan yr Is-bwyllgor. Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr holl sylwadau a wnaethpwyd a daeth i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth benodol i awgrymu bod unrhyw un o’r amcanion trwyddedu yn Neddf Trwyddedu 2003 wedi cael eu tanseilio. Nododd yr Is-bwyllgor sylwadau’r ymgeisydd yngl?n â’r amcanion trwyddedu ac roeddent yn fodlon na fyddai’r amcanion hynny yn cael eu tanseilio. Cymeradwywyd y cais fel yr ymgeisiwyd amdano gan gynnwys yr holl gamau i gyflawni’r amcanion trwyddedu. Gwahoddwyd yr holl bartïon â chysylltiad i ddod yn ôl i'r ystafell ac fe'u hysbyswyd o'r penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cais.
Dogfennau ategol:
- Application for a Premises Licence, eitem 2. PDF 73 KB
- Enc. 1 for Application for a Premises Licence, eitem 2. PDF 467 KB
- Enc. 2 for Application for a Premises Licence, eitem 2. PDF 62 KB
- Enc. 3 for Application for a Premises Licence, eitem 2. PDF 3 MB
- Enc. 4 for Application for a Premises Licence, eitem 2. PDF 54 KB
- Enc. 5 for Application for a Premises Licence, eitem 2. PDF 62 KB